Ewch i’r prif gynnwys

Lleoliadau haf Poppy: ennill profiad ymarferol mewn ymchwil

Student looking at camera sat at a desk

Ar leoliad

Aeth Poppy Gray, myfyriwr Gwyddorau Cymdeithasol (BSc), ar leoliad gwaith haf ym Mhrifysgol Caerdydd.

Sut daeth eich lleoliad i fod a beth oedd eich rôl?

Des i o hyd i'r lleoliad trwy Dyfodol Myfyrwyr, gan anfon cais gyda fy CV a llythyr eglurhaol cyn mynd am gyfweliad.

Os ydych chi'n meddwl am fynd ar leoliad, defnyddiwch y cymorth sydd ar gael os ydych chi ei angen. Un peth da i'w wneud yw trefnu cyfarfod gyda'r rheolwr lleoliadau a chyflogadwyedd.

Ar leoliad, roeddwn i'n cynorthwyo ymchwil dau academydd, Esther Muddiman ac Agatha Herman, gyda'u prosiect 'canllaw amgen i Adeilad Morgannwg'. Roedd yn ymchwilio i sut mae pobl sy'n defnyddio'r adeilad 112 oed yn teimlo amdano a'i gysylltiadau hanesyddol.

Roedd fy nhasgau'n cynnwys ysgrifennu cwestiynau cyfweliad, cynnal cyfweliadau wrth gerdded gyda myfyrwyr a staff, trawsgrifio a dadansoddi’r cyfweliadau yn ansoddol a chreu taith sain o amgylch yr adeilad gan ddefnyddio’r data a gasglwyd.

Diwrnod arferol

Er nad oedd gen i drefn ddyddiol benodol gan fod y tasgau'n dibynnu ar ba gam o’r interniaeth oeddwn i, fel arfer roeddwn i'n gweithio ar gampws Cathays, yn y swyddfa a neilltuwyd i mi, a gartref.

Ar ddiwrnodau llai arferol, byddwn i'n ymweld â’r casgliadau arbennig ac archifau yn llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol (ASSL), neu fynd gyda fy ngoruchwylwyr i Archifau Morgannwg yn Lecwydd.

Roedd gan yr archifau gofnodion o waith cynllunio ac adeiladu Adeilad Morgannwg ddechrau’r 1900au a gwerthiant Parc Cathays gyferbyn.

"Roedd yn hynod ddiddorol gweld cynlluniau lluniedig yr adeilad, gan fod y rhain yn ein helpu i ddeall ei wreiddiau."

Ar fy ymweliad diweddarach â chasgliadau ac archifau arbennig yr ASSL, ymchwiliais i fywyd a gwaith Alexander Harvey, sydd wedi'i ddarlunio mewn portread yn Ystafell Bwyllgor 1 Morgannwg.

Canfu Esther, yn eu prosiect blaenorol am bortreadau Morgannwg, nad oedd y rhai a ddarluniwyd (bron i gyd yn ddynion gwyn) o reidrwydd yn gysylltiedig â’r Brifysgol ei hun. Roedd rhai yn arfer bod yn aelodau o'r cyngor yn eistedd yn yr adeilad cyn iddo ddod yn rhan o Brifysgol Caerdydd, er enghraifft.

Fodd bynnag, gwelais fod Harvey yn ffigwr amlwg yng nghyfnod cynnar Prifysgol Caerdydd wrth iddi ddod yn brifysgol a’i statws blaenorol fel coleg technegol, yn rôl y pennaeth.

Yn ogystal â bod yn ffordd ddiddorol o dreulio amser, roedd y profiadau hyn yn hanfodol i ddeall yr adeilad.

Beth oedd eich argraffiadau cyntaf o'ch lleoliad?

Dyma ddyfyniad o wythnosau un a dau yn fy nyddiadur interniaeth:

Dechreuais fy interniaeth ymchwil yr wythnos ddiwethaf. Roeddwn yn llawn cyffro yn ei gylch, ond yn nerfus iawn. O'r dechrau roedd darllen cymaint i ymgyfarwyddo â'r pwnc yn heriol, ond roeddwn yn gallu chwarae ychydig gyda'r drefn gweithio hybrid cartref-campws.

Yr hyn a'm cadwodd i weithio oedd natur ddiddorol y darllen a'r e-byst am gyfweliadau a oedd yn fy nghadw'n obeithiol am ddyfodol yr interniaeth. Yn wir, aeth fy narllen yr wythnos hon â mi i bob disgyblaeth wahanol, fel daearyddiaeth ac athroniaeth.

Yr hyn dwi wedi'i fwynhau am y lleoliad hyd yn hyn yw ei hyblygrwydd. Mae wedi bod yn heriol peidio â chael strwythur penodol ond dwi'n dechrau ei werthfawrogi’n gynyddol. Mae rhywbeth braf am reoli fy amser fy hun, gallu mynd adref am ginio a dewis fy lle i weithio.

Y pethau gorau

Cyflawniad mwyaf fy interniaeth oedd cyfrannu at ymchwil bwysig ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y ddwy Ysgol (a thu hwnt gobeithio). Cefais gysylltu ag ystod eang o bobl ac yn y pen draw cynhyrchais daith sain o gwmpas Adeilad Morgannwg. Roedd y daith sain yn helpu i adrodd straeon y rhai sy'n defnyddio'r adeilad. Roedd yn amlwg i mi drwyddi draw fod y gwaith yn hynod o bwysig a dwi’n falch fy mod wedi bod yn rhan ohono.

Meddwl am y dyfodol

Mae'r lleoliad wedi dangos i fi sut y gallai amgylchedd ymchwil fod, sut i gyfathrebu â phobl eraill ac ymgysylltu â'u straeon a sut i ddadansoddi data'n ansoddol.

Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n hoffi gweithio'n annibynnol ond roeddwn i wrth fy modd. Mae ymchwil yn cymryd llawer o amser ond yn rhoi boddhad!

Fy nghyngor ynghylch lleoliadau

Byddwn wir yn argymell mynd ar leoliad gwaith. Roeddwn i’n teimlo fy mod yn creu newid a chysylltiadau gyda phobl yn yr Ysgol, ac roeddwn i wrth fy modd yn cael rhyddid i fynd ar fy liwt fy hun yn ogystal â chydweithio ag eraill. Roedd mor bwysig i mi ar gyfer tyfu fel person.

Dysgais am brofiadau byw nad ydw i wedi eu cael, gan sylweddoli bod taith pawb yn wahanol ac yn gymhleth. Mae'n ddiddorol iawn cael profiad o amgylchedd ymchwil a dysgu sgiliau a dealltwriaeth werthfawr iawn.

Fodd bynnag, cyn mynd ar leoliad, mae'n bwysig  holi eich hun: a fydd gennych chi lety yn ystod y lleoliad? Ydych chi'n meddwl y byddai'r hyn y byddech chi'n ei wneud yn ddiddorol am gyfnod o amser? Yn y pen draw, mae'n rhaid i chi wneud beth sydd orau i chi.

"Os ydych chi'n dechrau lleoliad, ymddiried ynoch chi'ch hun a'ch galluoedd."

Cofiwch hefyd ei bod hi'n iawn arafu gan i mi deimlo fy mod wedi rhuthro fy ngwaith ar y dechrau er mwyn gallu cwblhau'r cyfan. Does dim angen i chi boeni gormod, cyn belled â'ch bod yn gwneud eich tasgau gosod a'ch bod yn hapus gyda'ch gwaith.

Yn olaf, peidiwch ag ofni gofyn am help! Mae pobl yno i chi alw arnyn nhw, cyn y broses ymgeisio ac yn ystod y lleoliad ei hun.

Gobeithio bod hwn wedi bod yn ddiddorol i'w ddarllen ac yn ddefnyddiol os ydych chi'n ystyried interniaeth.