Mae’r cyn-fyfyriwr Lauren yn trafod yr hyn a wnaeth astudio yn ein Hysgol mor arbennig

Holi ac ateb - profiad myfyrwyr
Gyda Lauren Pan, Social and Public Policy (MSc)
Gwnaeth Lauren, sy’n dod o America, astudio Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus (MSc) gyda ni, gan gwblhau ei hastudiaethau ym mis Rhagfyr 2024.
Cawson ni sgwrs i glywed am ei hamser ym Mhrifysgol Caerdydd a beth oedd yn arbennig am ei chyfnod gyda ni.
Beth yw eich hoff beth am Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol (does dim angen iddo fod yn gysylltiedig â'ch cwrs/astudiaethau)?
Mae staff yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol wedi bod yn wych. Roedd pawb wedi dangos diddordeb mawr yn fy natblygiad a lles a chefais fy annog i ddyfalbarhau trwy gyfnodau heriol.
"Mae llawer o'm llwyddiant (a phwyll) yn fy rhaglen yn ddyledus i gefnogaeth ddiddiwedd fy nhiwtor personol a goruchwyliwr fy nhraethawd hir. Roedden nhw'n anhygoel!"
Pe bai ffrind i chi yn ystyried dod i Brifysgol Caerdydd, pa gyngor fyddech chi'n ei roi iddyn nhw / beth fyddech chi'n ei ddweud?
Dewch i gymryd rhan! Cymerwch eich astudiaethau o ddifrif ond gadewch i chi'ch hun fwynhau'r gwasanaethau, y digwyddiadau a’r rhaglenni niferus sy’n cael eu cynnig gan y Brifysgol ac Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Nawr bod gen i radd, hoffwn pe bawn i wedi neilltuo mwy o amser ar gyfer teithio, nosweithiau allan, a chymryd rhan yn fy nghymuned.
Beth ydych chi wedi'i fwynhau fwyaf am eich astudiaethau hyd yma?
Yn fyfyriwr rhyngwladol, roeddwn i wir wedi mwynhau cael persbectif byd-eang ar faterion cymdeithasol, yn y DU a thramor. Mae dilyn fy astudiaethau graddedig yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol wedi ehangu fy ngorwelion ac wedi dyfnhau fy ymrwymiad i gydweithio rhyngwladol i ddatrys rhai o heriau mwyaf enbyd y byd.
What skills have you developed during your studies?
Yn ogystal â chryfhau fy sensitifrwydd diwylliannol a sgiliau cyfathrebu rhyngddiwylliannol - sydd ill dau yn hanfodol i'm proffesiwn mewn datblygiad rhyngwladol - mae fy astudiaethau yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol wedi cynyddu fy hyder yn fy ngallu i berfformio ymchwil academaidd a dadansoddi data. Gyda’r sgiliau yma a’m gwaith cwrs mewn datblygu ac asesu ymyriadau, mae wedi fy ngwneud yn rheolwr rhaglen gwerthadwy yn fy maes.
Rhagor o wybodaeth am y cwrs Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus (MSc).