Ewch i’r prif gynnwys

Pam roedd Prifysgol Caerdydd yn ddewis perffaith i’r myfyriwr ôl-raddedig Ali

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Holi ac ateb - profiad myfyrwyr

Gyda Ali Ahmad, Social and Public Policy (MSc)

Daeth Ali Ahmad i sgwrsio â ni am ei brofiad hyd yn hyn, yn fyfyriwr Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus (MSc).

Eglurodd ei fod yn caru’r amgylchedd, cyfeillgarwch pobl Caerdydd ac amgylchedd dysgu calonogol y Brifysgol.

Beth yw eich hoff beth am Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol (nid oes angen iddo fod yn gysylltiedig â'ch cwrs/astudiaethau)?

Dwi ddim yn credu y galla i ddewis un peth yn unig. Dyma restr fer o fy hoff bethau:

  • mae'r hyfforddwyr yn gyfeillgar, yn hawdd sgwrsio â nhw, yn barod eu cymwynas, yn ddiymhongar ac, ar yr un pryd, yn hynod o wybodus yn eu meysydd arbenigedd
  • dwi’n hoff iawn o adeilad Morgannwg, yn enwedig y fynedfa â dau gerflun hynafol ar bob ochr iddi. Mae'n teimlo fel mynd i mewn i adeilad cyhoeddus Rhufeinig neu Roegaidd chwedlonol
  • mae strwythur yr adeilad yn ddryslyd, ac mae’n hwyl ceisio achub eich hun ar ôl mynd ar goll yn un o'r coridorau
  • mae'r drws sy'n troi wrth y fynedfa flaen bob amser yn gwneud i fi wenu.

Pe bai un o’ch ffrindiau’n ystyried dod i Brifysgol Caerdydd, pa gyngor y byddech chi'n ei roi iddo / beth y byddech chi'n ei ddweud?

Byddwn i’n gofyn iddo wneud cais heb golli eiliad. Mae'r Brifysgol wedi ennill ei phlwyf drwy gydol y ddinas gyfan. Mae'r bensaernïaeth yn cynnig cyfuniad o beirianneg hanesyddol a modern. Mae'r bobl yn gyfeillgar ac, yn bwysicaf oll, nid yw'n bwrw glaw cymaint ag y mae’n ei wneud mewn rhannau eraill o’r wlad. Yr hyn sy'n fy nenu fwyaf, fodd bynnag, yw ei bod yng Nghymru, sef y rhan fwyaf hudolus o'r wlad, heb os nac oni bai.

"Mae'r natur yma’n wyllt, yn arw ac yn hyfryd. Dwi'n credu'n gryf mai Cymru yw Alaska y Deyrnas Unedig."

Beth rydych chi wedi'i fwynhau fwyaf am eich astudiaethau hyd yma?

Dwi wedi mwynhau’r amgylchedd cyfeillgar a difyr mewn dosbarthiadau, y rhuthr adrenalin wrth geisio cyflwyno gwaith mewn pryd i’w asesu, y cyffro sydd ynghlwm wrth gwrdd â phobl newydd yn fyfyriwr rhyngwladol a hefyd y cyfle i groesawu safbwynt gwahanol ond teimladwy ar fywyd, astudiaethau a chymdeithas. Mae parch y disgyblion tuag at ei gilydd yn ysbrydoledig iawn.

Pa sgiliau rydych chi wedi’u datblygu wrth astudio ar gyfer eich gradd?

Darllen, darllen, darllen ac yna ddadansoddi'r hyn dwi wedi'i ddarllen yn fy meddwl a ffurfio barn arno. Dwi’n credu mai dyma’r cam elfennol yn y broses o ddatblygu’r meddwl a sgiliau meddwl yn feirniadol. Dwi bob amser wedi mwynhau darllen llenyddiaeth, ond mae darllen academaidd yn rhywbeth hollol wahanol.

I ddechrau, ac i raddau helaeth, nid oedd yr un frawddeg mewn papur ymchwil gyda'i holl syniadau cymhleth yn gwneud synnwyr i fi. Yn araf bach, dwi’n datblygu fy meddwl i ddeall y neges y mae'r awduron wedi gweithio'n ddiflino i'w chyfleu.

Rhagor o wybodaeth am ein rhaglen Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus (MSc).