Modiwlau Cymraeg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Rydym yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr astudio rhan o'u cyrsiau israddedig yn Gymraeg.
Tiwtor Personol Cyfrwng Cymraeg
Mae tiwtoriaid personol yn rhoi cymorth i fyfyrwyr drwy gyfuno cynghori academaidd a chefnogaeth ar gyfer lles cyffredinol myfyrwyr trwy gyfeirio at wasanaethau priodol fel a pan mae angen. Os ydych yn dymuno, mae'n bosib i chi gael tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg ac sy'n gallu trafod materion academaidd a phersonol gyda chi yn y Gymraeg.
Yn gyffredinol, cewch eich cynorthwyo i ddysgu ar lefel israddedig, gan roi’r cyfle i chi drafod pynciau yn Gymraeg a bydd hyn yn rhoi pont werthfawr rhwng dysgu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Darpariaeth Dysgu Cyfrwng Cymraeg
Seminarau cyfrwng Cymraeg
Ar hyn o bryd, mae'r ysgol yn cynnig seminarau trwy gyfrwng y Gymraeg mewn nifer o fodiwlau gwahanol ar bynciau megis troseddeg, ymchwil gymdeithasol, theori gymdeithasol a chymdeithaseg. Bydd y seminarau yn rhoi cyfle i chi drafod yn Gymraeg beth ydych wedi'i ddysgu yn eich darlithoedd. Gallai’r rhain newid wrth i'r ysgol asesu'r ble mae'r galw mwyaf.
Modiwl wedi'i darparu’n llawn drwy gyfrwng y Gymraeg – Cymdeithas Gyfoes yng Nghymru
Yn ogystal, rydym hefyd yn cynnig modiwl o'r enw Cymdeithas Gyfoes yng Nghymru, lle mae'r holl weithgareddau dysgu h.y., darlithoedd a seminarau, trwy gyfrwng y Gymraeg.
Amcan y modiwl yma yw datblygu dealltwriaeth a gwybodaeth ryngddisgyblaethol myfyrwyr o’r gymdeithas maen nhw’n byw ynddi - cymdeithas yng Nghymru. Bydd y modiwl yn archwilio'r amrywiaeth a'r gwahaniaethau sy'n bodoli yng Nghymru o ran nodweddion cymdeithasol megis dosbarth cymdeithasol, rhywedd ac ethnigrwydd a hefyd mewn perthynas ag iaith a hunaniaeth genedlaethol.
Bydd materion cymdeithasol sy'n gyffredin yng Nghymru hefyd yn cael eu harchwilio yn y modiwl hwn.
Yn ogystal, bydd yn edrych ar effaith polisïau Llywodraeth Cymru ar bobl Cymru ac yn cymharu’r polisïau yma gyda pholisïau llywodraethau eraill. Erbyn diwedd y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn ymwybodol o nodweddion unigryw cymdeithas yng Nghymru ac yn ymwybodol o’r gwahaniaethau a’r tebygrwydd rhwng cymdeithas yng Nghymru a chymdeithasau yn rhannau eraill o’r byd.
Goruchwyliaeth traethawd hir yn y Gymraeg
Yn y drydedd flwyddyn, efallai y byddi di'n gwneud traethawd hir, lle fyddi di'n cynllunio ac yn gwneud darn o ymchwil annibynnol, ei ysgrifennu a chyflwyno dy syniadau a dy ganfyddiadau.
Mae'n bosib i chi gael goruchwyliwr sy’n siarad Cymraeg, sy'n gallu rhoi cyngor i chi a thrafod eich prosiect ymchwil yn Gymraeg. Mae hefyd yn bosib i chi gyflwyno eich prosiect ymchwil traethawd hir yn y gynhadledd draethawd hir flynyddol yn y Gymraeg ac ysgrifennu eich traethawd hir yn y Gymraeg.
Cyflwyno Asesiadau yn y Gymraeg
Cewch hefyd sefyll arholiadau, ysgrifennu eich traethodau a chyflwyno asesiadau eraill yn Gymraeg os ydych yn dymuno.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Siôn Jones.
Bydd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn helpu eich gyrfa ac yn agor drysau newydd i chi y y Brifysgol a thu hwnt.