Cymdeithaseg
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Cwestiwn canolog Cymdeithaseg yw: sut mae bywyd cymdeithasol yn bosibl?
Trwy feithrin rhywbeth o'r enw 'dychymyg cymdeithasegol', mae ein gradd yn cynnig ffordd i fyfyrwyr asesu'n feirniadol y ffordd y mae bywyd cymdeithasol yn cael ei drefnu a'i batrymu, a'r syniadau, y credoau a'r dyheadau sy'n llunio'r byd yr ydym yn byw ynddo.
Drwy astudio cymdeithaseg yng Nghaerdydd, byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd ymchwilio. Mae ein harbenigeddau ymchwil yn cynnwys cymdeithaseg gwyddoniaeth a thechnoleg, anableddau a stigma, iechyd, salwch a'r corff, yn ogystal â rhywedd a rhywioldeb, dosbarth cymdeithasol, ethnomethodoleg, a mwy.
Rydym yn cynnig y llwybrau gradd Cymdeithaseg canlynol:
Enw’r radd | Côd UCAS |
---|---|
Cymdeithaseg (BSc) | 8H46 |
Cymdeithaseg ac Addysg (BSc) | 8J46 |
Gwleidyddiaeth a Chymdeithaseg (BSc Econ) | LL32 |
Gwyddor Gymdeithasol (BSc) | L301 |
Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol (BSc) | 58H2 |
Gyfraith gyda Throseddeg (LLB) | M190 |
PolisI Cymdeithasol a Chymdeithaseg (BSc) | 8K46 |
Troseddeg a Chymdeithaseg (BSc) | 8F46 |
Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol (BSc) | 8D46 |
Yma, cewch wybod sut i wneud cais, beth yw ein meini prawf derbyn a chael cyngor ynghylch ysgrifennu datganiad personol.