Polisi Cymdeithasol
Mae Polisi cymdeithasol yn archwilio'r ffyrdd y mae cymdeithasau'n diwallu anghenion dynol am waith, addysg, diogelwch, ac iechyd a lles.
Mae hefyd yn ceisio dylanwadu ar bolisïau sy'n mynd i'r afael â heriau cynyddol fel anghydraddoldeb, diweithdra ymhlith pobl ifanc ac effeithiau cymdeithasol newid yn yr hinsawdd.
Byddwch chi’n dysgu sut i werthuso a dehongli tystiolaeth, defnyddio theorïau ac archwilio polisïau mewn modd gwrthrychol.
Gallwch ddewis astudio'r rhaglenni polisi cymdeithasol canlynol:
Enw’r radd | Côd UCAS |
---|---|
PolisI Cymdeithasol a Chymdeithaseg (BSc) | 8K46 |
Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol (BSc) | 8D46 |
Byddwch yn cael eich addysgu gan staff sy'n weithredol o ran ymchwil, sydd wedi rhoi cyngor polisi ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Yma, cewch wybod sut i wneud cais, beth yw ein meini prawf derbyn a chael cyngor ynghylch ysgrifennu datganiad personol.