Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Mae ein gradd yn rhoi cyfle i astudio seicoleg ochr yn ochr â disgyblaethau eraill ar draws y gwyddorau cymdeithasol.
Gallwch feithrin ystod o sgiliau a gwybodaeth wrth ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o seicoleg fel gwyddor gymdeithasol.
Mae hyblygrwydd ein rhaglen yn golygu y gallwch deilwra'ch dewisiadau i lwybr penodol o'ch diddordeb. Gall hyn gynnwys troseddeg, addysg, cymdeithaseg neu bolisi cymdeithasol.
Enw’r radd | Côd UCAS |
---|---|
Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol (BSc) | 58H2 |
Y cwrs hwn yw'r unig un o'i fath sydd ar gael ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig. Mae'n cael ei gydnabod gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) fel sail ar gyfer aelodaeth graddedigion o'r gymdeithas. Cymhwyster ar gyfer aelodaeth BPS yw'r cam cyntaf tuag at yrfa sy'n canolbwyntio ar seicoleg tra bod astudio rhyngddisgyblaethol yn sylfaen ar gyfer amrywiaeth eang o gyflogaeth.
Yma, cewch wybod sut i wneud cais, beth yw ein meini prawf derbyn a chael cyngor ynghylch ysgrifennu datganiad personol.