Addysg
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Mae ein rhaglen addysg yn canolbwyntio ar ddimensiynau cymdeithasegol, seicolegol a gwleidyddol addysg.
Mae'n rhoi sylfaen i chi wneud cais am gyrsiau hyfforddiant athrawon ôl-raddedig yn ogystal â chyflogaeth mewn amrywiaeth o broffesiynau eraill.
Mae ein myfyrwyr yn mynd ymlaen i weithio ym maes gofal cymdeithasol, y sector ieuenctid a chymunedol, llywodraeth leol, a dylanwadu ar addysg ac ymchwil polisi.
Rydym yn cynnig rhaglenni gradd anrhydedd sengl a chydanrhydedd:
Enw’r radd | Côd UCAS |
---|---|
Addysg (BSc) | 8G46 |
Cymdeithaseg ac Addysg (BSc) | 8J46 |
Cymraeg ac Addysg (BA) | QX53 |
Mae ein cyrsiau yn elwa ar ein cysylltiadau agos â llunwyr polisïau, ysgolion lleol, colegau a sefydliadau addysg a hyfforddiant eraill.
Byddwch yn cael cyfleoedd i ymgysylltu ag ymarferwyr addysg i gymryd rhan mewn ymchwil tra'n datblygu dealltwriaeth o arferion addysg.
Yma, cewch wybod sut i wneud cais, beth yw ein meini prawf derbyn a chael cyngor ynghylch ysgrifennu datganiad personol.