Ewch i’r prif gynnwys

Israddedig

Gwyddor gymdeithasol yw astudio cymdeithas, a'r modd y mae pobl yn ymddwyn ac yn dylanwadu ar y byd.

Bydd yr hyn a astudiwch gyda ni yn ymwneud yn uniongyrchol â digwyddiadau yn y byd heddiw, a bydd yn eich galluogi i ddeall a chyfrannu at ddadleuon cyfoes mewn ffordd wybodus. Mae Gwyddor Gymdeithasol yn helpu i esbonio sut mae cymdeithas yn gweithio - pam y caiff troseddau eu cyflawni, sut mae ysgolion yn cefnogi twf economaidd, sut caiff cymunedau eu ffurfio, beth sy'n gwneud pobl yn hapus.

Rydym yn ganolfan rhagoriaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn ymchwil ac addysgu. Addysgir ein cyrsiau gan  ymchwilwyr sydd yn flaenllaw yn eu pynciau.Mae eu harbenigedd a'u mewnwelediad yn llywio llywodraethau a llunwyr polisi yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

Mae rhyw 300 o israddedigion yn ymuno â'r Ysgol bob blwyddyn. Ni yw un o'r canolfannau gwyddorau cymdeithasol rhyngddisgyblaethol a gweithredol o ran ymchwil mwyaf yn y DU. Mae pob un o'n cyrsiau israddedig yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau mewn dulliau ymchwil gwyddor gymdeithasol, ac ymgysylltu ag ymchwil ryngddisgyblaethol.

Around 300 undergraduates join us each year and we are one of the largest research active and interdisciplinary social science centres in the UK. All our undergraduate courses provide opportunities to develop skills in social science research methods, and to engage with interdisciplinary research.

Troseddeg

Troseddeg

Cynigiwn raglenni Troseddeg mewn cyd-destun gwyddorau cymdeithasol rhyngddisgyblaethol; archwilir ymagweddau cymdeithasegol, seicolegol a gwleidyddol yn y cwricwlwm israddedig.

Addysg

Addysg

Mae ein graddau Addysg yn archwilio ac yn cwestiynu sylfeini cymdeithasol, seicolegol, gwleidyddol ac economaidd addysg.

Polisi Cymdeithasol

Polisi Cymdeithasol

Mae Polisi cymdeithasol yn ymwneud ag astudio problemau cymdeithasol a lles pobl, a’r ffordd yr eir i’r afael â’r rhain drwy’r wladwriaeth, y sector preifat, gweithgarwch gwirfoddol, ac mewn cymunedau a theuluoedd.

Cymdeithaseg

Cymdeithaseg

Mae ein rhaglenni Cymdeithaseg yn archwilio’r modd y caiff cymdeithasau eu ffurfio a’u newid drwy ymddygiad pobl, gan ddefnyddio damcaniaethau, cysyniadau a thystiolaeth empirig.

Gwyddor Cymdeithasol

Gwyddor Cymdeithasol

Mae’r rhaglenni gradd Gwyddorau Cymdeithasol yn cynnig cyfleoedd rhagorol i astudio ar raglen ryngddisgyblaethol, gan ddefnyddio ymchwil a damcaniaethau ar draws y disgyblaethau.

Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol

Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol

Mae’r cwrs yn eich galluogi i adeiladu amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth wrth ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o seicoleg fel gwyddor cymdeithasol.