PhD
Mae ein myfyrwyr PhD yn elwa o ddiwylliant ymchwil deinamig a ffocws cryf ar hyfforddiant ymchwil.
Ceir opsiynau astudio gwahanol:
- PhD 3-4 blynedd amser llawn
- PhD 5-7 mlynedd yn rhan-amser
- MPhil 1-2 flynedd amser llawn
- MPhil 2-3 blynedd yn rhan-amser
Rydym yn cynnig goruchwylio ar gyfer ystod o themâu ymchwil sy’n adlewyrchu prif feysydd arbenigedd yr Ysgol yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer ymchwil ryngddisgyblaethol. Rydym yn annog ceisiadau yn y meysydd canlynol:
Yr Ysgoloriaethau
Efallai y bydd cyllid ar gael ar gyfer eich PhD drwy ysgoloriaeth.
Rydym yn hynod o falch o fod yn rhan o Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru (DTP Cymru), a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd (ESRC). Bob blwyddyn rydym yn cynnig nifer o ysgoloriaethau a ariennir gan yr ESRC yn y llwybrau ESRC canlynol:
- troseddeg
- yr economi digidol a’r gymdeithas
- addysg
- Astudiaethau gwyddoniaeth a thechnoleg
- polisi cymdeithasol
- gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol
- cymdeithaseg.
Ariennir rhai o’r ysgoloriaethau mewn partneriaeth â sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector. Yn rhan o’r cyfleoedd cyllid DTP, mae modd dilyn rhaglen PhD sy’n cynnwys MSc blwyddyn Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol cyn gwneud 3 blynedd o ymchwil PhD.
O bryd i'w gilydd, mae gennym hefyd gyfleoedd ar gyfer ysgoloriaethau eraill sy’n deillio o ystod o ffynonellau cyllid eraill, megis Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mynnwch gip ar yr holl gyllid sydd ar gael ar hyn o bryd ar ein tudalennau cyllid ôl-raddedig.
Find out more about the programme, information about funding, research themes and how to apply.