Ymchwil ôl-raddedig
Byddwch yn astudio mewn amgylchedd academaidd ac ymchwil bywiog a bydd arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd yn eich goruchwylio.
Rydym yn cynnig dau opsiwn gwahanol ar gyfer astudio Doethuriaeth: Doethur mewn Athroniaeth (PhD) a Doethuriaeth Broffesiynol.
Yn fras, nod y PhD yw paratoi ymgeiswyr at yrfa yn seiliedig ar ymchwil, tra bod Doethuriaeth Broffesiynol yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion gyrfa gweithwyr proffesiynol sy’n ymarfer, yn arbennig y rhai hynny sydd mewn, neu sy’n anelu at gyrraedd, swyddi uwch.
Mae hyfforddiant ymchwil rhyngddisgyblaethol yn nodwedd gref iawn o’n rhaglenni ymchwil ôl-raddedig. Rydym yn ymrwymo i wneud ymchwil sy’n seiliedig ar theori ac yn canolbwyntio’n glir ar bolisïau.
Rydym yn cynnig cyfleoedd i astudio ymchwil ôl-raddedig ym meysydd cymdeithaseg, polisïau cymdeithasol, troseddeg, astudiaethau gwyddoniaeth a thechnoleg, gwaith cymdeithasol ac addysg.
Mae ein hamgylchedd ymchwil yn cynnwys cynnal amrywiaeth fawr o grwpiau ymchwil gweithgar, grwpiau astudio anffurfiol a chyfresi o seminarau.
Rydym yn cael ein cydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel canolfan flaenllaw ar gyfer ymchwil empirig, damcaniaethol wybodus.