Myfyrwyr rhyngwladol
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Mae gennym system gymorth ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol sy'n cynnig gwasanaethau i helpu ein myfyrwyr i ffynnu.
Gall addasu i ddiwylliant newydd fod yn rhywbeth brawychus. Felly, rydym yn cynnig cymorth arbenigol i fyfyrwyr rhyngwladol ein Hysgol i helpu i wneud eu profiad ym Mhrifysgol Caerdydd yn un cyffyrddus a difyr.
Mae'r gwasanaethau hyn yn rhoi cymorth ar bob agwedd ar fywyd yn y brifysgol – o baratoi i gyrraedd, astudio, cymdeithasu, cyngor meddygol, gyrfaoedd a chymorth crefyddol.
Cwrdd â’n myfyrwyr
Dewch i weld beth sydd gan fyfyrwyr a graddedigion rhyngwladol eraill i'w ddweud am fywyd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Rydym yn canolbwyntio ar eich cyflogadwyedd
Mae ein myfyrwyr rhyngwladol yn dod o gefndiroedd amrywiol. Rydym wedi ymrwymo i'ch paratoi i allu gweithio yn unrhyw ran o'r byd, tra byddwch yn astudio ac ar ôl i chi raddio.
Mae ein cyrsiau'n canolbwyntio ar gyflogadwyedd rhyngwladol ac yn rhoi cyfleoedd i chi astudio dramor ac ymgymryd â lleoliadau gwaith naill ai yn y DU neu'n rhyngwladol drwy ein rhwydweithiau.
Mae cymorth gyrfaoedd a chyflogadwyedd ychwanegol yn cael ei roi gan yr Ysgol, gan gynnwys Canolfan Cefnogi Myfyrwyr y Brifysgol, sy’n cynnig cyngor a lleoliadau gwaith ac yn cynnal gweithdai a digwyddiadau.
Darganfod mwy am ein gyrfaoedd a chyfleoedd cyflogadwyedd.
Gwybodaeth ymgeisio sy’n berthnasol i’ch gwlad gan gynnwys y gofynion mynediad, arddangosfeydd, cymorth ariannol a chynghorwyr sydd ar gael i’ch helpu chi.