Astudio dramor
Mae astudio dramor yn cynnig cyfle i chi gwrdd â phobl newydd a ffurfio cyfeillgarwch a rhwydweithiau sy'n gallu para oes.
Mae gennym gysylltiadau â sefydliadau yn Awstralia, Gwlad Belg, Canada, yr Iseldiroedd, Seland Newydd, Singapôr, ac UDA.
Pam astudio dramor?
Datblygu sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, fel:
- annibyniaeth a chyfrifoldeb
- trefnu a rheoli amser
- datrys problemau
- sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu
- cyfathrebu rhyngddiwylliannol
gallu bod yn hyblyg ac yn wydn
Gan ddibynnu ar eich dewis o wlad, gallech hefyd wella eich sgiliau iaith - neu hyd yn oed ddysgu iaith newydd!
Mae astudio dramor yn cynnig cyfle i chi gwrdd â phobl newydd a ffurfio cyfeillgarwch a rhwydweithiau sy’n gallu para oes.
Ble galla i astudio dramor?
Mae gennym bartneriaethau astudio dramor â sefydliadau yn Awstralia, Gwlad Belg, Canada, yr Iseldiroedd, Seland Newydd, Singapôr ac UDA.
Cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost atom drwy Socsi-StudyAbroad@caerdydd.ac.uk.
Os ydych yn dymuno astudio dramor, dylech holi yn eich blwyddyn gyntaf o astudio, er mwyn paratoi i wneud cais yn eich ail flwyddyn.
Myfyrwyr rhyngwladol
Mae gennym system gymorth i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n cynnig gwasanaethau fel bod ein myfyrwyr yn ffynnu.
Gall symud i ddiwylliant newydd fod yn frawychus, felly rydym yn darparu cymorth arbenigol i'n myfyrwyr rhyngwladol i wneud eich profiad ym Mhrifysgol Caerdydd yn un cyfforddus a boddhaus.
Mae'r gwasanaethau hyn yn rhoi cymorth ar bob agwedd ar fywyd yn y brifysgol – o baratoi i gyrraedd, astudio, cymdeithasu, cyngor meddygol, gyrfaoedd a chymorth crefyddol.
Sylwer bod y rhestr o gyrchfannau’n newid ac na ellir gwarantu unrhyw gyrchfan.