Ewch i’r prif gynnwys

Lleoliadau Gwaith

Rydyn ni'n eich paratoi ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol drwy weithio gydag amrywiaeth o sefydliadau i gynnig profiad gwaith perthnasol.

O’r diwrnod cyntaf, rydyn ni'n eich annog i feddwl am fywyd y tu hwnt i’r brifysgol, gan gynnig modiwlau a chymorth gwerthfawr.

Profiad Tom yn y British Council

A person smiling while leaning on a wall with trees in the background

"Rhoddodd fy mlwyddyn ar leoliad gychwyn delfrydol i fy ngyrfa."

Mae Amy, myfyrwraig ar leoliad, yn blogio am ei blwyddyn profiad gwaith.

Woman wearing glasses smiling

“Roedd fy lleoliad wir wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau dadansoddi a magu hyder.”

Bu myfyriwr lleoliad, Emelie, yn sgwrsio â ni am ei phrofiad gwaith ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae ein rheolwr cyflogadwyedd a lleoliadau ymroddedig yn rhoi cyngor ar leoliadau gwaith, interniaethau a phrofiad gwaith.

Gall y rhan fwyaf o'n myfyrwyr ail flwyddyn gymryd modiwlau sy'n rhoi cipolwg ar yrfaoedd, gan ychwanegu lleoliad gwaith at eu hastudiaethau.

Darperir lleoliadau gan yr ysgol yn seiliedig ar eich diddordebau a'ch dewisiadau lle bo modd.

Mae'r rhan fwyaf o'r gwesteiwyr lleoliadau wedi'u lleoli yng Nghaerdydd, ddim yn rhy bell o'r Brifysgol. Mae gwesteiwyr blaenorol yn cynnwys:

  • Llywodraeth Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • NSPCC
  • Y Cyngor Prydeinig
  • Sefydliad Materion Cymreig
  • Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau'r Heddlu
  • DVLA
  • Ymchwil Arad
  • Ysgolion cynradd
  • Cwmnïau cyfreithiol
  • Trydydd sector

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy e-bost:socsi-placements@caerdydd.ac.uk.

Interniaethau blwyddyn

Mae pob un o’n rhaglenni anrhydedd sengl a llawer o’n rhaglenni cydanrhydedd ar gael fel opsiynau pedair blynedd, gyda’r lleoliad yn digwydd yn y drydedd flwyddyn. Bydd blynyddoedd un, dau a phedwar yn cael eu haddysgu yn ein Hysgol.

Mae nifer o’n hisraddedigion wedi sicrhau interniaethau un flwyddyn â thâl gyda Chynllun Interniaeth Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Lleoliadau gwaith dros yr haf

Y Deyrnas Unedig

Mae Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil Prifysgol Caerdydd (CUROP), sef un o gynlluniau ymchwil israddedig mwyaf y DU, yn cynnig lleoliadau haf i israddedigion drwy gymryd rhan yn niwylliant ymchwil y Brifysgol. Cynigir bwrsariaethau i gefnogi myfyrwyr ar leoliad o hyd at wyth wythnos o hyd, gan weithio dan oruchwyliaeth ar brosiectau ymchwil a ddiffinnir gan y staff.

Rhyngwladol

Gallwch ymgymryd â phrosiectau ymchwil mewn sefydliadau ledled y byd gyda chyfle i weithio neu wirfoddoli dramor trwy Gyfleoedd Byd-eang y brifysgol .

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae myfyrwyr ein Hysgol wedi manteisio ar gyfleoedd yn Auckland, Barcelona, ​​Beijing, Dortmund, Efrog Newydd, Ottawa, Fiji, India, Japan a Gwlad Thai.