Amdanom ni
Rydyn ni'n falch iawn o'n cymuned myfyrwyr ac wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn mwynhau profiad dysgu gwerth chweil.
Mae ein haddysgu wedi'i lywio gan yr ymchwil academaidd ddiweddaraf ac mae'n cael ei gydnabod fel un sy'n arwain y byd.
Rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o raddau yn y gwyddorau cymdeithasol o fewn 6 disgyblaeth:
- Troseddeg
- Addysg
- Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol
- Polisi Cymdeithasol
- Y Gwyddorau Cymdeithasol
- Cymdeithaseg
Mae ein hagwedd ryngddisgyblaethol at addysgu yn golygu y byddwch yn dysgu oddi wrth eich cyfoedion ar draws ein pynciau, gan greu profiad dysgu deinamig.
Rydyn ni hefyd yn falch o gynnig y cyfle i chi astudio rhan o'ch cwrs israddedig yn Gymraeg.
Un o'n prif flaenoriaethau yw gwneud yn siŵr eich bod yn graddio'n barod ar gyfer gwaith. Gellir ymestyn pob cwrs i bedair blynedd i dreulio blwyddyn ychwanegol ar leoliad proffesiynol perthnasol neu drwy astudio dramor.
Rydyn ni'n falch o gael ein cydnabod fel un o'r canolfannau ymchwil gorau yn y DU, lle mae ein staff addysgu wedi effeithio'n uniongyrchol ar bolisi ac arfer y llywodraeth.
Dysgwch fwy am ein rhaglenni israddedig, ôl-raddedig a addysgir ac ymchwil ôl-raddedig yn fwy manwl.
Rhagorwn mewn ymchwil ryngddisgyblaethol sydd â ffocws clir ar bolisi.