Ewch i’r prif gynnwys

Mannau

Rydym yn cynllunio man ar gyfer creadigrwydd a chydweithio.

Mae Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) yn cael ei ddatblygu yn rhan o Barc Arloesedd y Brifysgol ar Heol Maendy, gwerth £300m. Bydd yn rhan o adeilad Arloesedd Canolog.

Cydweithio

Man cymunedol fydd SPARK, a fydd yn dileu unrhyw rwystrau ac yn hybu rhyngweithio wyneb yn wyneb. Cynlluniwyd y parc deniadol ac ysgogol i annog ffyrdd newydd o feddwl. Mae angen meddwl fel hyn er mwyn mynd i’r afael â heriau cymhleth ein hoes. Bydd yn adnodd newydd i alluogi’r Brifysgol i ymgysylltu â’r gymuned a’r cyhoedd yn ehangach.

Bydd sbarc yn hwb ar gyfer rhyngweithio rhwng y Brifysgol a'i bartneriaid.

Cyfleusterau

Mae'r cyfleusterau’n cynnwys:

  • man arddangos
  • gwasanaeth arlwyo o ansawdd uchel
  • mannau hamdden
  • labordy delweddau.

Bydd hefyd labordai ar gyfer gwneud gwaith ymchwil i’r gwyddorau cymdeithasol cyfrifiadurol, ymddygiad ac arloesedd, yn ogystal â chyfleusterau data diogel ac ystafelloedd cyfarfod y gellir eu defnyddio’n hyblyg.

Bydd yr adeilad yn ganolfan ar gyfer gwaith ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol yn y Brifysgol ac yn lleoliad delfrydol ar gyfer digwyddiadau creadigol i’n hymwelwyr a’n partneriaid.