Amdanom ni
Nod ein gwaith yw mynd i’r afael â heriau mawr sy’n wynebu cymdeithas.
Yn ein byd llawn cysylltiadau a chymhlethdodau, ni allwn ddisgwyl cael yr holl atebion o un sefydliad neu un bwnc academaidd. Mae creu Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) cyntaf y byd yn ymateb i’r her hon. Wrth addasu a datblygu model traddodiadol o barc gwyddoniaeth, mae’n cyfuno yr hyn rydyn ni’n ei wybod am y gwyddorau cymdeithasol â gwybodaeth ein partneriaid.
Mae SPARK yn dod â grwpiau ymchwil rhyngddisgyblaethol ynghyd i fynd i’r afael â phroblemau sy’n effeithio arnom. Mae’r rhain yn cynnwys achosion diweithdra a ffyrdd o’n gwneud yn fwy iach a diogel. Bydd dod ag arbenigedd ynghyd yn ein galluogi i weithio mewn ffyrdd newydd wrth i ni chwilio am atebion i’r problemau hyn a’u datblygu.
Social science parks: society's new super-labs
Y syniadau y tu ôl i Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Bydd gwneud gwaith ymchwil o safon uchel ar y cyd â diwydiant, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn galluogi ein myfyrwyr i feddwl am eu dyfodol. Bydd hefyd yn eu hannog i ddychmygu beth y gellir ei gyflawni, ac yn rhoi cyfle iddynt weld pa mor entrepreneuraidd ydyn nhw.
Bydd gwybodaeth a syniadau newydd yn cael eu creu o ganlyniad i bartneriaethau newydd; gyda lwc, bydd y ffordd newydd hon o weithio yn llunio dyfodol gwaith ymchwil y gwyddorau cymdeithasol.
Cewch ddysgu am ymchwil arloesol y Brifysgol, trosglwyddo technoleg, datblygiadau busnes a menter myfyrwyr.