Ewch i’r prif gynnwys

Storfa Ddiogelu Cymru

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Storfa ddigidol yw Storfa Ddiogelu Cymru, sy’n dod ag adolygiadau diogelu a gynhaliwyd yng Nghymru ers 2008 at ei gilydd mewn un lle.

Gall adolygiad o farwolaeth neu ddigwyddiad diogelu difrifol fod yn ffynhonnell bwysig o ddysgu i weithwyr proffesiynol mewn amrywiaeth o asiantaethau. Fel arfer, dogfennau mawr yw adolygiadau, sy’n cynnwys llawer o dudalennau o wybodaeth fanwl a gafwyd gan y gwahanol asiantaethau a fu’n ymwneud â’r achos, manylion cyfweliadau â’r rhai dan sylw, ac adroddiadau perthnasol eraill. Mae’r prosiect hwn yn dod â sgiliau o feysydd y gwyddorau cymdeithasol a chyfrifiadureg ynghyd i greu un storfa chwiliadwy o wybodaeth ddiogelu, a hynny gan ddefnyddio technoleg prosesu iaith naturiol a phrosesau codio ansoddol i dynnu themâu ac allweddeiriau.

Mathau o adolygiadau yn y storfa:

  • Adolygiadau Lladdiadau Domestig
  • Adolygiadau Lladdiadau Iechyd Meddwl
  • Adolygiadau Ymarfer Oedolion
  • Adolygiadau Ymarfer Plant

O 2024 ymlaen, bydd Adolygiad Diogelu Unedig Sengl yn disodli’r mathau o adolygiadau a nodir uchod, gan ddod yn dempled ar gyfer pob adolygiad diogelu a gaiff ei gynnal yng Nghymru yn y dyfodol. Wrth i Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl gael eu cyhoeddi, byddan nhw’n cael eu lanlwytho i’r storfa, a bydd modd chwilio amdanyn nhw.

Diogelu defnyddwyr y Storfa

  • Asiantaethau megis yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol, awdurdodau lleol
  • Unigolion sy'n ymwneud â diogelu
  • Cadeiryddion a’r rhai sy’n adolygu adolygiadau diogelu
  • Ymchwilwyr academaidd

Pwysigrwydd Storfa Ddiogelu Cymru

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw storfa arall ar gael sy’n dod â’r gwahanol fathau o adolygiadau hanesyddol at ei gilydd neu sy’n gwneud y cynnwys yn chwiliadwy yn ôl allweddair neu thema. Mae’r storfa’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo dysgu cyflymach, a bydd yn rhan allweddol o’r broses Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl newydd. Bydd y storfa’n gwneud y canlynol:

  • Sicrhau bod adroddiadau ar gael i ddefnyddwyr cofrestredig mewn un lle
  • Hwyluso mwy o atebolrwydd am weithredu argymhellion
  • Helpu gweithwyr diogelu proffesiynol ac asiantaethau i roi dysgu ar waith yn gyflymach yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol
  • Rhoi tystiolaeth i lywio hyfforddiant a gwella ymarfer proffesiynol

Cefndir y prosiect

Yn 2018, cafodd dau adroddiad ar sail tystiolaeth eu cyhoeddi : un dadansoddiad academaidd o farwolaeth wedi’i arwain gan yr Athro Amanda Robinson, a dadansoddiad o safbwyntiau ymarferwyr diogelu wedi’i arwain gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Liane James ar ran Llywodraeth Cymru. Dadansoddodd y ddau adroddiad dirwedd yr adolygiad diogelu presennol yng Nghymru, yn ogystal â sampl o Adolygiadau Lladdiadau Domestig, Adolygiadau Lladdiadau Iechyd Meddwl, Adolygiadau Ymarfer Oedolion ac Adolygiadau Ymarfer Plant. Tynnodd yr adroddiadau sylw at yr angen am gydgysylltu, cydweithredu, cyfathrebu a llywodraethu gwell wrth gynnal adolygiadau, ac mae’r broses Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl newydd yn seiliedig ar yr argymhellion yn y ddau ohonyn nhw. Ar ôl i’r adroddiadau gan Robinson a James gael eu cyhoeddi, cafodd Prifysgol Caerdydd ei chomisiynu i ddatblygu Storfa Ddiogelu Cymru.

Partneriaid

Mae prosiect Storfa Ddiogelu Cymru’n rhan o’r broses Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl, ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Logo Storfa Ddiogelu Cymru

Project Lead

Key Contacts

Picture of Thomas Edwards

Dr Thomas Edwards

Cynorthwy-ydd Ymchwil

Email
EdwardsTJ1@caerdydd.ac.uk
No picture for Aleksandra Edwards

Ms Aleksandra Edwards

Cydymaith Ymchwil

Telephone
+44 29225 14920
Email
EdwardsAI@caerdydd.ac.uk
Picture of Alun Preece

Yr Athro Alun Preece

Athro Cyd-Gyfarwyddwr Systemau Deallus y Sefydliad Arloesi Diogelwch, Trosedd a Chudd-wybodaeth

Telephone
+44 29208 74653
Email
PreeceAD@caerdydd.ac.uk