Grŵp Ymchwilio i Drais
Mae trais yn un o’r prif achosion byd-eang o farwolaeth a salwch difrifol ac anafiadau ymysg plant, pobl ifanc ac oedolion. Drwy ymchwil ac eiriolaeth ar sail tystiolaeth, rydym wedi ysgogi newid polisi a chamau ymarferol i leihau trais ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Rydym yn manteisio ar arbenigedd o bob rhan o'r brifysgol. Daw ein cryfder a'n henw da o’n gwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol yn y meysydd seiciatreg, iechyd y cyhoedd, deintyddiaeth, cyfiawnder troseddol, yr heddlu, seicoleg, gwyddor deunyddiau, cyfrifiadureg ac economeg - yn ogystal â’n hanes helaeth o arloesi a chyfrannu at bolisi ac atal trais.
Ers cael ein sefydlu ym 1996, rydym yn parhau i:
- ddeall achosion ac effeithiau trais, a chreu cymwysiadau byd go-iawn i'w atal
- gwerthuso mentrau atal trais a gweithio gyda darparwyr gwasanaeth - gan gynnwys asiantaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, asiantaethau cyfiawnder troseddol, llywodraeth leol a sefydliadau'r trydydd sector
- asesu effeithiolrwydd ymyriadau sydd wedi'u cynllunio i leihau effeithiau seicolegol, cymdeithasol ac economaidd trais
- trosi arloesiadau effeithiol yn bolisi ac arferion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
Uchafbwyntiau ymchwil
Cydweithrediadau
Rydym yn cydweithio ag amrywiaeth o bartneriaid a sefydliadau allanol, yn ogystal â'r cyhoedd ehangach. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Grŵp Atal Trais Caerdydd Sefydliad Iechyd y Byd i gynnig cyfleoedd ar gyfer datblygu prototeip, treialon maes, mesur trais a gweithredu ymyriadau atal newydd ar sail tystiolaeth ar gyfer pobl sydd wedi'u hanafu, dioddefwyr, troseddwyr a phoblogaethau.