Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau'r Heddlu
Sefydlwyd Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau'r Heddlu yn 2007 mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru i ddatblygu'r sylfaen dystiolaeth ymchwil ar gyfer y grefft o blismona a gwyddorau plismona.
Rydym wedi sicrhau dros £5 miliwn o gyllid gan asiantaethau plismona a llywodraethol. Drwy gyfuniad o enw da academaidd a phwyslais amlwg ar bolisïau ac arferion, rydym wedi ennill bri rhyngwladol am ein harloesedd wrth gynllunio, datblygu a manteisio ar atebion newydd i broblemau plismona.
Mae rhagweld, atal a phlismona niweidiau troseddau mewn cymunedau sy'n gynyddol amrywiol a chymhleth yn gofyn am broses fwy soffistigedig o gaffael ac addasu i dystiolaeth gan yr heddlu ac asiantaethau partner. Mae ein gweithgarwch ymchwil yn ymwneud â dod o hyd i broblemau a'u datrys ar draws yr amgylchedd plismona modern.
Themâu ein hymchwil
Plismona Gwrthderfysgaeth
Nodi sut y gall yr heddlu reoli effeithiau digwyddiadau budd cyhoeddus a therfysgaeth ar ymddygiadau cyhoeddus orau gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a thechnolegau data mawr ar draws amrywiaeth o weithrediadau plismona mawr.
Plismona troseddau ynghylch bregusrwydd a niwed uchel
Mae ein hymchwil y Sefydliad ar droseddau cymhleth a niwed uchel wedi creu tystiolaeth newydd o'r hyn sy'n gweithio'n lleol wrth dargedu bregusrwydd a meysydd lle mae galw ac angen mawr.
Partneriaethau Plismona
Mae plismona effeithiol yn gofyn am gydberthnasau cryf gyda chymdogaethau a'r trefniadau partneriaeth cywir i nodi blaenoriaethau cymunedol a chydweithio i ymateb, lleihau ac atal troseddau.
Plismona digidol
Deall sut mae dadansoddeg ymddygiadol ddigidol a thechnolegau plismona yn llunio ymatebion yr heddlu i risgiau a chyfleoedd newydd.
Ymgorffori tystiolaeth ac arferion sy'n seiliedig ar wybodaeth mewn plismona
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen i ddatblygu meddwl beirniadol ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth ymhlith yr heddlu a phartneriaid anacademaidd eraill drwy Gadwrfa Diogelu Cymru, Plismona’r Dyfodol, ysgoloriaethau cydweithredol, a chyfleoedd lleoliadau gwaith.
Uchafbwyntiau ymchwil
Plismona’r Dyfodol
Mae ein Cyfres Dosbarth Meistr Plismona’r Dyfodol yn gydweithrediad unigryw rhwng Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau'r Heddlu a Heddlu De Cymru. Cynlluniwyd Plismona’r Dyfodol i ddarparu'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen i ddatblygu meddwl beirniadol ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth ymhlith y rhai a ystyrir yn arweinwyr y dyfodol o fewn yr heddlu.
Bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn y Dosbarth Meistr yn canolbwyntio ar yr heriau yn y maes plismona yn unol â gweledigaeth strategol yr heddlu, yn ymchwilio i ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn datblygu prosiectau ymchwil i atebion arloesol creadigol.