Grŵp Dadansoddeg a Gwyddor Gwybodaeth Wasgaredig
Mae ein grŵp ymchwil yn datgloi potensial data mawr a data cyflym mewn sefyllfaoedd rheng flaen, lle mae angen i bobl a systemau cyfrifiadurol o asiantaethau lluosog gydweithio.
Rydyn ni'n cyflawni cynnydd mewn deallusrwydd artiffisial, dysgu peiriannol a gwyddor rhwydwaith i wella gallu technoleg i gynorthwyo clymbleidiau sy'n cydweithio mewn sefyllfaoedd sy'n newid yn gyflym, fel trychinebau mawr, i wneud pobl yn fwy diogel.
Rydym yn dod â chydweithwyr ynghyd o bob rhan o’r brifysgol sydd ag arbenigedd mewn deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol, cyfrifiadura cymdeithasol, prosesu signalau a chyfrifiadura gwasgaredig.
Themâu ymchwil
Mae ein gwaith ymchwil yn ymwneud â’r themâu:
AI addasadwy
Yn gallu addasu'n gyflym mewn sefyllfaoedd deinamig a dysgu wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen gan fanteisio ar synergeddau rhwng bodau dynol a deallusrwydd peirianyddol.
AI Dibynadwy
AI sy'n ymwybodol o ansicrwydd, gan alluogi defnyddwyr dynol i gyflawni lefel briodol o ymddiriedaeth yn gyflym mewn systemau AI wrth wneud penderfyniadau proffil uchel.
AI Ymylol
AI Clymblaid Gwasgaredig sy'n gallu rhannu data a modelau gyda phartneriaid wrth weithredu o dan ystod o gyfyngiadau preifatrwydd ac mewn amgylcheddau cyfathrebu DDIL.
Deall cynulleidfaoedd deinamig
Modelu'n seiliedig ar asiant o'r ffordd y mae ymddygiadau seicolegol grŵp ac unigol yn rhyngweithio, yn arwain at effeithiau megis rhagfarn ac ymroddiad i achos, ac ymddangosiad grwpiau a wrthwynebir.