Ewch i’r prif gynnwys

Gwybodaeth Dwyllodrus, Cyfathrebu Strategol a Rhaglen Ymchwil Ffynhonnell Agored

OSCAR

Mae rhaglen ymchwil DISCOS yn y Sefydliad Arloesi er Diogelwch, Troseddau a Chudd-wybodaeth ym Mhrifysgol Caerdydd wedi’i chanmol yn sylweddol ledled y byd, a hynny am y gwaith a wnaed dros y degawd diwethaf i geisio deall beth yw effaith ymgyrchoedd gwybodaeth a thwyllwybodaeth gwladwriaethau tramor a sut maen nhw’n cael eu trefnu a’u cynnal.

Yn fyd-eang, mae’n un o’r ymdrechion gwyddonol mwyaf a mwyaf cynaliadwy yn y maes hwn, ac mae’n cyfuno dulliau cymhwysol â dulliau academaidd.

Mae ein portffolio presennol o waith yn cynnwys:

  • Cyllid gan Lywodraeth y DU i astudio sut mae twyllwybodaeth, gwybodaeth wedi’i hystumio a gwybodaeth dwyllodrus yn cael ei throsglwyddo a’i chyflwyno gartref a thramor. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’r adrannau canlynol: Y Swyddfa Gartref; Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu; Y Weinyddiaeth Amddiffyn; Yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg; a Swyddfa’r Cabinet.
  • Nod prosiect IMITATE3 (‘Influence, Manipulation, and Information Threats as Adversarial Techniques:  Events, Evolution and Effects’) yw cynnig dealltwriaeth a thystiolaeth gadarn,​ ​arloesol o sut​ ​mae ymgyrchoedd gwybodaeth gwladwriaethau tramor yn ceisio llywio canfyddiad y cyhoedd a’r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau gwleidyddol. Ac yntau’n cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ar y cyd ag Adran Amddiffyn UDA, mae’r prosiect yn ymdrech tair blynedd gwerth miliynau o bunnoedd ac yn fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Princeton, Prifysgol Columbia, Prifysgol Caerfaddon a Phrifysgol Coventry.
  • Un o brosiectau Horizon 2020 yw ADAC.io. Mae’n cael ei arwain gan Brifysgol Lund. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar wella sut mae cyfrifoldeb am fanipwleiddio ac ymyrryd â gwybodaeth yn cael ei ddiffinio, ei nodi a’i ddisgrifio.
  • Mesur Effaith Ymgyrchoedd Gwybodaeth Gwladwriaethau Tramor ar y DU: ac yntau’n cael ei ariannu dan nawdd Canolfan Ymchwil a Thystiolaeth ESRC ar Fygythiadau Diogelwch, bydd y prosiect hwn yn gwneud gwaith cysyniadol, methodolegol ac empirig i amcangyfrif a dangos yn well yr effaith y mae manipwleiddio gwybodaeth yn ei chael.
  • Rhwydwaith Gwydnwch y Tu Hwnt i Alluoedd Gweledig: mae’r consortiwm hwn yn canolbwyntio ar fygythiadau posibl yn y dyfodol a sut y gellid eu lliniaru. Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig arbenigedd yn y pwnc hwn, a hynny mewn perthynas â rôl manipwleiddio a rheoli gwybodaeth wrth waethygu argyfwng.
  • Gwyddor Ymddygiad: mae’r rhwydwaith hwn, dan arweiniad Prifysgol Caerhirfryn ar ran ESRC, yn gweithio ar ddefnyddio gwyddor ymddygiad wrth geisio deall, rheoli a lliniaru amrywiaeth o heriau diogelwch cyfoes.

Uchafbwyntiau ymchwil

Rumours About the Efficacy of Ibuprofen Vs Paracetamol in Treating COVID-19 Symptoms - Report

The Making of a Misinformation ‘Soft Fact’ With Public Health Impact.

European flags

Graddfa ymyrraeth Rwsia â democratiaeth Ewrop wedi’i datgelu

Yn ôl academyddion, dylai dadansoddiad newydd o weithgareddau cyfryngau cymdeithasol fod yn rhybudd cyn etholiadau Senedd Ewrop

Woman using mobile phone

“Proffwydi digidol” wedi defnyddio llofruddiaeth Jo Cox i waethygu rhaniadau cyn pleidlais yr UE, yn ôl ymchwil

Roedd rhagfynegiadau am oblygiadau'r llofruddiaeth yn y dyfodol ar y cyfryngau cymdeithasol yn foment allweddol wrth bolareiddio ymgyrch Brexit

Troliau sydd o blaid y Kremlin yn ymdreiddio cyfryngau amlwg y Gorllewin dro ar ôl tro

Adrannau sylwadau i ddarllenwyr yn cael eu defnyddio i greu darlun gwyrgam o farn y cyhoedd

Using laptop and phone

Ymchwil yn sbarduno galwad am orfodaeth lymach ar y cyfryngau cymdeithasol

Tystiolaeth o adroddiad academaidd yn cyfrannu at ganfyddiadau ymchwil

Effaith

Dyma rai o effeithiau’r gwaith hwn:

  • Gweithio gyda’r BBC yn 2024 i nodi sut oedd ymgyrch wybodaeth gan Rwsia wedi hybu cynllwynion ynghylch iechyd Tywysoges Cymru. Arweiniodd hyn at fwy na 352 o erthyglau yn y cyfryngau dros y byd i gyd, gan gyrraedd cynulleidfa o fwy na 7 biliwn o bobl yn fras.
  • Nodi rhwydwaith o gyfrifon a oedd yn gysylltiedig â Tsieina ac yn hybu cynllwynion ‘llosgi pleidleisiau’ yn y cyfnod cyn etholiad arlywyddol UDA yn 2020. Yn sgîl ein gwaith, cafodd mwy na 400 o gyfrifon eu dileu cyn y diwrnod pleidleisio.
  • Gweithio gyda grŵp bach o bartneriaid cymdeithas sifil i nodi ymgyrch ddylanwad gan weithredwyr o Rwsia a oedd yn ceisio hybu naratif twyllwybodaeth am Brexit a’r GIG yn fuan cyn Etholiad Cyffredinol y DU yn 2019.
  • Cyhoeddi ymchwil yn 2021 a esboniodd yn fanwl sut oedd gweithredwyr o Rwsia’n mynd ati’n fwriadol i geisio manipwleiddio’r cynnwys yn adrannau sylwadau darllenwyr y cyfryngau proffil uchel mewn mwy na 16 o wledydd.
  • Dogfennu sut y cafodd cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddiwyd gan Asiantaeth Ymchwil Rhyngrwyd Rwsia i ymyrryd ag etholiad arlywyddol UDA yn 2016 eu defnyddio hefyd i geisio lledaenu anghydfod ac amheuaeth yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol yn y DU yn 2017

Cyhoeddiadau

Arweinydd uned ymchwil

Yr Athro Martin Innes

Yr Athro Martin Innes

Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch

Email
innesm@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29208 75307