Ymchwil
Rydym wedi helpu i leihau troseddu a gwella diogelwch drwy nodi problemau a chynnig atebion ymarferol ar sail ymchwil drylwyr sy'n llywio polisïau ac ymarfer yn uniongyrchol.
Rydym yn gweithio ar sail heriau ac yn rhyngweithio'n rheolaidd ac yn agos â llunwyr polisïau ac ymarferwyr er mwyn diwallu eu hanghenion am dystiolaeth a gwybodaeth gadarn i lywio eu penderfyniadau.
Rydym yn defnyddio gwybodaeth arbenigol academaidd, am bethau sy’n amrywio o dwyllwybodaeth i ymarfer plismona, i gynnig atebion i broblemau troseddu, diogelwch a rheolaeth gymdeithasol yn y byd go iawn.