Adnoddau i gynorthwyo prosesau newid arferion
Caiff ein hymchwil ei gyhoeddi mewn sawl ffurf, a hynny gyda’r nod o fod yn fwy hygyrch i randdeiliaid a llunwyr polisi, gan sicrhau effaith eang.
Newid arferion
Rydym yn defnyddio’n gwaith i bennu argymhellion polisi ar sail ymchwil pan fyddant yn gyson â’r nod o wella lles morwyr. Mae hyn yn golygu edrych yn ofalus ar amodau byw morwyr, eu perthnasau gyda ffydd, a’u hiechyd meddwl.
Deall amodau byw morwyr
Stori Freddie
Ar sail degawd o ymchwil, mae’r animeiddiad hwn yn dod â’n canfyddiadau ar ddyluniad llety ar fwrdd llongau yn fyw. Gan ddefnyddio hanes profiad ffug gadet injan ar ei long gyntaf, mae’r animeiddiad yn amlygu canlyniadau dyluniad llety gwael ar gyfer morwyr unigol ac ar gyfer diwydiant sy’n awyddus i ddenu gweithwyr medrus a dawnus.
Safon llety a argymhellir ar gyfer morwyr sy’n gweithio ar fwrdd llongau nwyddau
Ffydd a chrefydd ar y môr
Ffydd a lles morwyr sy’n gweithio ar longau nwyddau
Mae’r ffilm hon yn disgrifio rhai o’n canfyddiadau yn sgil prosiect a ariennir gan ESRC, sef ‘Crefydd mewn cyd-destunau aml-ethnig: astudiaeth achos amlddisgyblaethol o forio byd-eang’. Gan ddechrau yn 2017, mae’r astudiaeth hon yn ymchwilio i ffydd ac anghenion cysylltiedig ymysg morwyr sy’n gweithio ar longau nwyddau a chaplaniaeth mewn porthladdoedd.
Gwylio’r ffilm Faith and the welfare of seafarers working on cargo ships ar YouTube
Iechyd a lles meddyliol
Argymhellion mewn perthynas â newidiadau i iechyd morwyr
Yn 2011 a 2016, cynhaliom holiadur mewn perthynas ag iechyd cyffredinol morwyr. Lledaenwyd yr holiadur ymysg morwyr wrth eu gwaith a oedd yn ymweld â chanolfannau lles o’u llongau a chafodd ei ddosbarthu a’i gasglu gan gaplaniaid porthladdoedd ac ymchwilwyr yn y DU, Ynysoedd Philippines a Tsieina. Yn yr adroddiad hwn, mae’r dadansoddiad yn canolbwyntio ar y newidiadau arwyddocaol rhwng canfyddiadau 2011 a 2016, yn arbennig rhwng ansawdd cwsg ar y môr, ansawdd bywyd, ac ymddygiad yn gysylltiedig ag iechyd.
O’r astudiaeth hon, bu modd i ni gynnig argymhellion i wella iechyd morwyr, gan gynnwys:
- sicrhau bod modd effeithiol o guddio golau dydd yng nghaban pob morwr
- darparu opsiynau amgen i fwydydd wedi’u ffrio ar fwrdd llongau a sicrhau bod opsiwn llysieuol ar gael
- darparu gwell mynediad i’r cyfleusterau hynny sydd ar gael ar fwrdd llong sy’n caniatáu i forwyr ymlacio a chael
rhywfaint o adferiad meddyliol
Newidiadau i iechyd morwyr 2011-16: Argymhellion o'r adroddiad crynodol
Gwella cydberthnasau rhwng y môr a’r tir
An Everyday Tale of Life at Sea - adnodd hyfforddi am ddim
Yn rhannol, mae gweithrediad effeithiol llong gyfoes yn cael ei bennu gan ansawdd y cydberthnasau rhwng gweithwyr ar y tir a gweithwyr ar y môr. Drwy ein hymchwil, rydym wedi datblygu adnodd hyfforddi am ddim sydd â’r nod o wella cydberthnasau rhwng staff sy’n gweithio ar longau a staff sy’n gweithio ar y lan.
I ofyn am gopi o'r animeiddiad a'r canllaw hyfforddiant, anfonwch e-bost at sirc@caerdydd.ac.uk.
Arferion llwgr mewn porthladdoedd
Porthladdoedd problemus: Straen a gorchfygiad morwyr o ganlyniad i arferion llwgr
Yn draddodiadol, mae nesáu at borthladd yn codi ysbryd morwyr sydd, o bosibl, wedi bod ar y môr ers dyddiau heb weld neb arall. Fodd bynnag, mae ein hymchwil yn cyfleu darlun gwahanol. Mae’r ffilm hon yn dangos ein canfyddiadau yn sgil astudiaeth sy’n dangos bod morwyr cyfoes yn aml yn wynebu straen, yn hytrach na chyffro, wrth nesáu at borthladd ac ymdrin â swyddogion porthladdoedd.
Cyfnewidiadau materol rhwng staff llongau a gweithwyr porthladdoedd
Mae morwyr yn cael profiad o bob math o gyfnewidiadau mewn porthladdoedd. Cyfnewidiad cyffredin a welir yw bod nwyddau materol yn cael eu cynnig i weithwyr er mwyn osgoi canlyniadau, fel dirwyon annisgwyl. Mae’r ffilm hon yn esbonio ein canfyddiadau o ran hwyluso cyfnewid ‘rhoddion’, arferion llwgr mewn porthladdoedd a chribddeilio ariannol.
Gwella offer a hyfforddiant gorfodol
Argymhellion i wella dylunio a hyfforddiant yn gysylltiedig ag offer gorfodol
O ganlyniad i ymchwilio i brofiadau morwyr o ddefnyddio offer gorfodol ar fwrdd llongau, rydyn ni wedi gallu cyfrannu at ddiogelwch ar y môr. Astudiaeth ar raddfa fawr oedd hi, a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod rhwng 2012 a 2016. Fel yr astudiaeth gyntaf o’i math, y diben oedd deall yr achosion sydd wrth wraidd defnydd diffygiol o offer gorfodol, mewn achosion pan fo hynny’n digwydd. Mae adroddiad yr astudiaeth yn nodi’r rhesymau dros ddefnydd diffygiol o offer gorfodol, ac yn argymell ambell ffordd y gellir gwella hynny. Ymhlith y rhain y mae’r canlynol:
- dylai dyfeisiau atal cwympiadau fod yn orfodol, gyda hyfforddiant priodol yn cael ei gynnig ar sut i’w defnyddio
- dylai’r broses o gynnal a chadw’r Systemau Gollwng Llongau i’r Dŵr a’u Codi (OLRRS) yn rheolaidd fod yn orfodol
- dylid dylunio badau achub er mwyn ceisio lleihau’r risg o gael anafiadau asgwrn cefn