Ewch i’r prif gynnwys

Gwella cydberthnasau rhwng y môr a’r tir

An Everyday Tale of Life at Sea - adnodd hyfforddi am ddim

Yn rhannol, mae gweithrediad effeithiol llong gyfoes yn cael ei bennu gan ansawdd y cydberthnasau rhwng gweithwyr ar y tir a gweithwyr ar y môr. Drwy ein hymchwil, rydym wedi datblygu adnodd hyfforddi am ddim sydd â’r nod o wella cydberthnasau rhwng staff sy’n gweithio ar longau a staff sy’n gweithio ar y lan.

Gwylio’r ffilm An Everyday Tale of Life at Sea

I ofyn am gopi o'r animeiddiad a'r canllaw hyfforddiant, anfonwch e-bost at sirc@caerdydd.ac.uk.

Y cydberthnasau rhwng morwyr a gweithwyr ar y tir: Argymhellion sy’n deillio o adroddiad amlinellol ar yr ymchwil a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod rhwng 2012 a 2016