Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

Rydyn ni’n astudio gwaith a bywyd morwyr cyfoes, gyda phwyslais eang ar iechyd galwedigaethol, diogelwch a lles.

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar bynciau gan gynnwys rheoleiddio, hyfforddiant, mynediad at ofal iechyd, ffydd, gweithleoedd rhyngwladol a chyfleusterau porthladdoedd.

Ein cenhadaeth

Yn gyfleuster ymchwil rhyngwladol, ein cenhadaeth yw cynhyrchu gwaith ymchwil annibynnol sy’n ymwneud â bywydau morwyr a, lle bo'n berthnasol, i gyfrannu'n gadarnhaol at eu lles. Mae ein hastudiaethau yn seiliedig ar theori a dulliau’r gwyddorau cymdeithasol ac yn ymwneud â dadleuon cymdeithasol ehangach, gan gynnwys cydraddoldeb ac amrywiaeth, globaleiddio a hawliau a chyfrifoldebau gweithwyr a chorfforaethau.

Rydyn ni’n rhannu canfyddiadau’r gwaith ymchwil yn eang ar draws y gymuned forol a’r gymuned academaidd, a hefyd i reoleiddwyr byd-eang a llunwyr polisïau yn y Sefydliad Morwrol Rhyngwladol, y Swyddfa Lafur Rhyngwladol, Asiantaeth Gwylwyr y Glannau Morwrol y DU a Gweinyddiaethau Morwrol cenedlaethol eraill.

Bydd gwaith y Ganolfan Ymchwil Ryngwladol i Forwyr (SIRC) yn cael ei gyhoeddi mewn amrywiaeth o ffurfiau. Mae wedi'i gynllunio i fod yn hygyrch ac ar gael i randdeiliaid a llunwyr polisïau yn ogystal ag academyddion a myfyrwyr.

Drwy ystod o bartneriaethau parhaus, a newydd yn fyd-eang, rydyn ni’n bwriadu creu rhwydwaith o ymchwilwyr ar draws y byd sy'n gyfarwydd â'r diwydiant llongau a'i weithlu. Yn ein holl waith ymchwil, rydyn ni’n ceisio cydweithio â phob cangen o’r diwydiant llongau.

Adnoddau

Mae ein gwaith wedi’i gyhoeddi mewn sawl ffurf a grëwyd i fod yn hygyrch i randdeiliaid a llunwyr polisi.