Cefndir
Cafodd y Ganolfan Ymchwil Ryngwladol i Forwyr (SIRC) ei sefydlu yn 1995 er mwyn cynnal ymchwil i forwyr.
A hithau’n rhan o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, mae’r Ganolfan yn rhoi’r pwyslais yn benodol ar faterion iechyd a diogelwch galwedigaethol. Dyma'r unig ganolfan ymchwil ryngwladol o'i math ac mae ganddi brofiad heb ei ail o wneud ymchwil yn y maes hwn.
Nod SIRC yw:
- cynhyrchu ymchwil annibynnol o ansawdd uchel sy'n ymwneud â bywydau morwyr
- datblygu gwaith mewn perthynas â dadleuon cymdeithasol cyfoes (er enghraifft dadleuon ynghylch globaleiddio)
- rhannu canfyddiadau yn eang i’r gymuned forol ac academaidd
- ysgogi mwy o ddiddordeb a dealltwriaeth ynghylch morwyr a'u bywydau
- cyfrannu'n gadarnhaol at les morwyr
Cyllid
Canolfan Ymchwil yn y Brifysgol yw SIRC, ac mae'n annibynnol ac yn ddiduedd. Mae wedi derbyn cyllid hirdymor gan Lloyd's Register Foundation i gefnogi’r uned ymchwil Lloyd's Register Foundation, a hefyd gan The Nippon Foundation i gefnogi’r rhaglen cymrodoriaeth ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig.
Mae’r Ganolfan wedi’i hariannu/comisiynu gan sawl corff allanol i ymgymryd ag ymchwil, gan gynnwys y canlynol:
- The TK Foundation
- Y Comisiwn Ewropeaidd
- Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol
- Y Swyddfa Lafur Rhyngwladol
- Y Sefydliad Morol Rhyngwladol
- Ffederasiwn Rhyngwladol Gweithwyr Trafnidiaeth
- Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau Llywodraeth y DU
- Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
- Asiantaeth Diogelwch Morwrol Ewrop
- Y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol
- Cymdeithas Broffesiynol yr Hwylwyr
- Allianz
- RMT
- Cyngor Ymchwil Norwy
- Sefydliad Morol Masnachol Sweden
Rhaglen Cymrodoriaeth SIRC-Nippon Foundation
Sefydliad dyfarnu grantiau yn Siapan yw Nippon Foundation ac a gafodd ei sefydlu yn 1962 gyda'r prif amcan o gefnogi adfywio’r diwydiant morol yn Siapan. Dros y blynyddoedd, mae maes gweithgaredd y Sefydliad wedi ehangu y tu hwnt i’r môr ac mae bellach yn cwmpasu'r rhan fwyaf o'r byd. Mae'r Sefydliad wedi bod yn cefnogi sawl gweithgaredd dyngarol mewn mwy na 100 o wledydd eraill yn y byd, a hynny mewn meysydd megis addysg, iechyd a lles cymdeithasol.
Wrth fynd ar drywydd ehangu o'r fath i feysydd newydd, mae Sefydliad Nippon hefyd wedi parhau i roi cychwyn ar fentrau arloesol yn y maes morol. Dros y blynyddoedd diwethaf, prif ffocws gwaith y Sefydliad yw mentrau i feithrin capasiti, gyda’r nod o arfogi'r gymuned ryngwladol i fynd i'r afael â'r llu o faterion dybryd sy'n ymwneud â'r cefnforoedd mewn modd gwell.
Yn rhan o'u gweithgareddau, rhwng 2004 a 2017, fe wnaeth y Nippon Foundation ariannu myfyrwyr i ymgymryd ag ymchwil ynghylch y môr ym maes y gwyddorau cymdeithasol yn y Ganolfan Ymchwil Ryngwladol i Forwyr. Diben y rhaglen yn y pen draw oedd datblygu rhwydwaith rhyngwladol o wyddonwyr cymdeithasol sy’n gwneud ymchwil i forwyr.
Manylion cyswllt
Yr Athro Helen Sampson
Director, Seafarers International Research Centre
Cafodd y Ganolfan Ymchwil Ryngwladol i Forwyr (SIRC)
Mewn llyfr newydd gan yr Athro Sampson, darllenwch ragor am fywydau a gwaith y morwyr, a sut mae'r rhain wedi newid dros y blynyddoedd.