Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Swyddfa'r Comisynydd Iaith yng Nghymru, Iwerddon a Chanada

Diben yr astudiaeth arloesol hon o weithrediad polisi ieithoedd swyddogol yng Nghymru, Iwerddon a Chymru yw gwneud cyfraniad ar sail tystiolaeth i bolisi cyhoeddus, a hynny o fewn endid wleidyddol ranbarthol sy’n graddol esblygu. Elfen greiddiol ym maes polisi iaith Iwerddon a Chanada yw rôl y Comisiynwyr Iaith fel rheoleiddwyr ac eiriolwyr ieithoedd swyddogol. Yn y meysydd polisi cyhoeddus hyn, mae hyrwyddo iaith wedi bod yn destun prif-ffrydio lle ceir pwyslais cynyddol ar weithredu polisïau a’u rheoleiddio.

Sefydlodd Llywodraeth Cymru Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn 2012. Bwriad y prosiect hwn o ganlyniad yw dadansoddi tair elfen o’r datblygiad strategol hwn yng Nghymru. Yn gyntaf, bydd yn cynnig dehongliad awdurdodol o’r trafodaethau cychwynnol mewn tystiolaeth ddogfennol sydd wedi dylanwadu ar gylch gorchwyl a strwythur y Swyddfa. Yn ail, bydd yn darparu dadansoddiad manwl o flynyddoedd cyntaf gweithrediad Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Yn drydydd, drwy fabwysiadu dull cymharol tuag at weithdrefnau gweithredu iaith, bydd datblygiadau yn Iwerddon a Chanada yn cael eu defnyddio fel meincnod i fesur datblygiadau yng Nghymru. Dylai’r rhain yn eu tro fod o werth i Swyddfa Comisiynydd Iaith Iwerddon a Swyddfa’r Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol yng Nghanada sydd wedi hen ymsefydlu. Mae’r ddwy Swyddfa hyn wrthi’n ailgysylltu â’u cymunedau targed wedi cyfnod o ennill eu plwyf o fewn eu priod systemau gwleidyddol. 

Cyn hyn, mae polisïau sy’n ymdrin ag ieithoedd lleiafrifol wedi canolbwyntio ar agweddau hyrwyddo ar gynllunio ieithyddol, gan esgor ar rywfaint o lwyddiant. Mae’r UE bellach yn destun mwy byth o fecanweithiau rheoleiddio sy’n gysylltiedig â hawliau dynol ac agenda cydraddoldeb eang. Mae Comisiynwyr Iaith Canada, yn eu rôl fel Asiantwyr Seneddol, wedi cyfrannu’n sylweddol i weddnewid cydraddoldeb iaith yn faes statudol. O ganlyniad, bwriedir y bydd canlyniadau’r ymchwil hwn yn uniongyrchol berthnasol i lywodraethau’r Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon ac, drwy estyniad, i nifer o gyd-destunau yn yr UE megis y Ffindir, Gwlad y Basg, Catalwnia a’r Gwledydd Baltig. Mae’r awdurdodaethau hyn yn wynebu’r dasg o benderfynu sut orau i reoleiddio a gwerthuso’r defnydd cynyddol o wasanaethau ac arferion gweithio dwyieithog yn y sector gyhoeddus, yn ogystal â pharchu hawliau iaith o blith poblogaeth sydd yn fwyfwy amryfath ac amlieithog.

Manylion

Mae’r gwaith paratoi sy’n gysylltiedig â’r prosiect hwn yn cynnwys ystod eang o weithgareddau. Yn dilyn sicrhau grant bach gan yr Academi Brydeinig, ymgymerodd yr Athro Williams â dau ymweliad i Ogledd America yn ystod 2007-08. Tra ar gyfnod absenoldeb i ffwrdd o Brifysgol Caerdydd, treuliodd amser rhwng 5ed Hydref-10fed Rhagfyr 2009 yn swyddfa Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada yn Ottawa. Yno, aeth i gysylltiad â staff y Swyddfa gan gynnal hefyd gyfweliadau gyda barnwyr a staff y Goruchaf Lys, cyfreithwyr cyfansoddiadol, gweithredwyr cymunedol ac academwyr ar sut mae’r model Canadaidd yn gweithio.

Mae aelodaeth flaenorol Williams o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, ei rôl wrth gynghori’r Llywodraeth ac wrth amlinellu modelau i adnabod swyddogaethau’r Comisiynydd Iaith arfaethedig yn baratoad heb ei ail ar gyfer yr ymchwil hwn.

Comisiynodd Senedd y DU Mac Giolla Chríost yn ymgynghorydd arbenigol ar gyfer y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig a benderfynodd ynghylch datganoli pwerau yn y maes hwn [Gorchymyn (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (yr Iaith Gymraeg) 2009] i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, tra bod Williams yn dyst arbenigol i Bwyllgor Deddfwriaeth y Cynulliad Cenedlaethol a archwiliodd y Mesur Iaith dilynol yn 2010.