Cefnogi arloesedd
Credwn bod cydweithio traws-ddisgyblaethol yn allweddol i ddatgloi technoleg a thechnegau newydd.
Mae cydweithrediad rhyngddisgyblaethol yn gwneud gwir wahaniaeth mewn perthynas â datrys rhai o bryderon pwysicaf y byd.
Crwsibl Cymru
Wedi'i harwain gan Brifysgol Caerdydd, mae Grwsibl Cymru yn rhaglen datblygiad proffesiynol sydd wedi ennill gwobrau ac sydd ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru. Dyma'r bedwaredd flwyddyn yn olynol i'r rhaglen gael ei chynnal, ac mae'n cefnogi arloesedd a chydweithio rhyngddisgyblaethol yng Nghymru.
Pob blwyddyn mae 30 o ymchwilwyr yn cael eu dethol i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai preswyl neu "labordai sgiliau" lle mae'r cyfranwyr yn archwilio sut:
- gallan nhw elwa o gydweithio gydag ymchwilwyr o ddisgyblaethau eraill
- gall eu hymchwil gael mwy o effaith
- gallan nhw adeiladu gyrfaoedd ymchwil rhyngwladol yng Nghymru
Enillodd Crwsibl Cymru Wobr Addysg Uwch y Times ar gyfer Cyfraniad Rhagorol at Ddatblygu Arweinyddiaeth yn 2013, gyda'r beirniaid yn nodi bod y rhaglen yn 'cael effaith ar newid agweddau ac ymddygiadau.'
Dyfodol Caerdydd
Mae Dyfodol Caerdydd yn gyfle unigryw i staff academaidd i archwilio sut y gallan nhw siapio dyfodol y Brifysgol. Mae'n darparu cyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa ac i staff i gydweithio gyda disgyblaethau eraill. Mae'r rhaglen yn gwobrwyo'r rhai sy'n cymryd rhan gyda swm bach o arian i weithio ar brosiect grŵp rhyngddisgyblaethol.
Rhwydwaith Arloesedd
Ffurfiwyd y Rhwydwaith Arloesedd i gefnogi arloesedd ar draws y sectorau drwy greu cysylltiadau gwell rhwng busnes a'n hacademyddion. Mae sgiliau a gwybodaeth ein hymchwilwyr yn cael eu defnyddio i geisio datrys problemau mewn diwydiant sy'n ein galluogi ni i droi syniadau creadigol yn gynnyrch masnachol llwyddiannus.
Dod o hyd i gyfleoedd ymchwil a dysgu.