Menywod ym maes Gwyddoniaeth
Rydym yn aelod o Athena Swan, sy'n cydnabod ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Sefydlwyd Siarter Athena SWAN yr Uned Her Cydraddoldeb yn 2005 i annog a chydnabod ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) mewn addysg uwch ac ymchwil. Ym mis Mai 2015 ehangwyd y Siarter i gydnabod y Celfyddydau, y Dyniaethau, y Gwyddorau Cymdeithasol, Busnes a’r Gyfraith, rolau proffesiynol a rolau cefnogi, yn ogystal â staff a myfyrwyr trawsrywiol a thrawsryweddol.
Yn 2009, daethom yn un o’r prifysgolion cyntaf i gael gwobr Efydd, ac mae’r wobr honno gennym o hyd. Mae llawer o Ysgolion wedi cael gwobrau Efydd Athena SWAN erbyn hyn, ac mae un Ysgol - Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol - wedi cael Gwobr Arian. Mae gennym 15 o wobrau Athena SWAN i gyd, sy'n dangos ein hymrwymiad llwyr i gydraddoldeb rhwng y rhywiau ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae gan y Brifysgol rwydwaith Menywod Caerdydd ym maes Gwyddoniaeth hefyd, sy’n ceisio helpu’r menywod sy’n wyddonwyr yn y Brifysgol. Mae’r rhwydwaith yn hyrwyddo cynnydd parhaus a chydraddoldeb rhwng y rhywiau drwy rannu gwybodaeth, datblygu proffesiynol, mentora a rhwydweithio rhwng gwahanol ddisgyblaethau. Mae'n agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwyddoniaeth, ac mae’n cynnwys aelodau o bob cefndir academaidd - o fyfyrwyr PhD i athrawon.
Rydym yn aelod o Athena Swan, sy'n cydnabod ein hymroddiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth.