Ewch i’r prif gynnwys

Trawsnewid diwylliant ymchwil

Rydym yn gwneud ein prifysgol yn lle mwy creadigol, cynhwysol, gonest ac agored ar gyfer cynnal ymchwil.

Nod ein Cynllun Trawsnewid Diwylliant Ymchwil yw sicrhau bod diwylliant ymchwil cadarnhaol yn rhan annatod o'n portffolio ymchwil ac arloesedd. Bydd yn dwyn ynghyd unigolion sy'n gweithio i wella diwylliant ymchwil Prifysgol Caerdydd ac i sicrhau bod newidiadau'n cael eu gwneud mewn ffyrdd mwy amlwg ac effeithiol.

Mae'r cynnig yn cynnwys rhagor o ffocws ar fynd i'r afael â materion systemig a strwythurol sy'n effeithio ar ein poblogaeth o ran ymchwilwyr. Yn ogystal â, chymorth ar gyfer asesu ymchwil yn gyfrifol, ymchwil agored, uniondeb, a gwell cydnabyddiaeth o gyfraniadau pawb sy'n rhan o waith ymchwil.

Yn seiliedig ar ymgynghori helaeth â chydweithwyr sy'n ymwneud ag ymchwil, o bob rhan o'r brifysgol, mae'r cynnig yn dilyn ymlaen o’n gwaith yn ymwneud â menter ‘Ailddychmygu Ymchwil’ Ymddiriedolaeth Wellcome'. Cafwyd trafodaethau eang hefyd gyda rhanddeiliaid ar draws y sefydliad a mewnbwn drwy ein harolwg sefydliadol cyntaf ynghylch diwylliant ymchwil, a gynhaliwyd yn 2022.

Ein hamcanion

Mae ein cynllun:

  • yn cydnabod mai proses barhaus yw sicrhau diwylliant cadarnhaol, proses sy’n gofyn i uwch arweinwyr ac unigolion ar draws y Brifysgol ymroi iddi’n llawn
  • yn cydnabod y bydd rhai materion yn fwy heriol ac yn cymryd amser i fynd i'r afael â nhw, mewn rhai achosion hefyd mae angen i randdeiliaid allanol weithredu
  • yn dwyn gwahanol ymrwymiadau, cynlluniau gweithredu a strategaethau ynghyd i ffurfio un strategaeth gyffredinol ar gyfer ein diwylliant ymchwil
  • yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei llywio gan farn ystod eang o randdeiliaid gan gynnwys uwch arweinwyr, ymchwilwyr, yn ogystal â chydweithwyr y gwasanaethau proffesiynol sy'n rhoi cymorth o ran gwaith ymchwil
  • yn ddeinamig ac yn ystwyth ac yn perthyn i'r gymuned ymchwil gyfan
  • yn rhoi pwyslais ar werthoedd ac ymddygiad cadarnhaol yn lle cydymffurfiaeth

Sut y byddwn yn cyflawni hyn

Mae’r Cynllun Trawsnewid Diwylliannau Ymchwil yn cyd-fynd â phedair blaenoriaeth strategol a’r gweithgareddau cysylltiedig. Nid yw'r rhestr isod yn cynnwys popeth.

Strategaeth a llywodraethu

Rydym wedi creu cynllun gweithredu ymchwil integredig, a fydd yn:

  • cael ei weithredu drwy'r Grŵp Datblygu Diwylliant Ymchwil, a grwpiau gorchwyl a gorffen sy'n canolbwyntio ar:
    • Bolisïau a gweithdrefnau
    • Hyfforddiant a chymorth
    • Gwelededd, cydnabyddiaeth a gwobrwyo
  • parhau i ddenu mewnbwn gan ymchwilwyr a'r sawl sy'n rhoi cymorth ar gyfer gwneud gwaith ymchwil o bob rhan o'r Brifysgol, gydag ail don ein harolwg ynghylch y diwylliant ymchwil wedi'i drefnu ar gyfer 2025
  • adrodd i'r Rhag Is-ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter a Bwrdd Gweithredol y Brifysgol gyda'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynnydd.

Polisïau a gweithdrefnau

Byddwn yn cyflwyno:

  • egwyddorion arweiniol ar gyfer hyrwyddo diwylliant ymchwil; bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ac yn cael eu rhannu â phob ysgol, tîm ymchwil ac uned ymchwil
  • adolygu prosesau a gweithdrefnau sy'n cefnogi datblygu gyrfa, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth, ac ymchwil agored a gonest
  • ymrwymiad i ddiwylliant ymchwil cadarnhaol sydd wedi'i integreiddio yn y prosesau ymgeisio ar gyfer pob cynllun cyllido mewnol

Hyfforddiant a chymorth

Byddwn yn cynnal adolygiadau ar y prosesau presennol ac yn sicrhau:

  • bod ein rhaglenni hyfforddi a chymorth yn addas i'r diben ac yn hyrwyddo arferion diwylliant ymchwil cadarnhaol
  • y gall ein hymchwilwyr ar draws y sefydliad fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi a datblygu gyrfa priodol, sy'n cyd-fynd â'n hymrwymiad i'r Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr

Gwelededd, cydnabyddiaeth a gwobrwyo

Er mwyn sicrhau bod cyfraniadau pawb sy'n ymwneud ag ymchwil yn cael eu cydnabod, byddwn yn:

  • gweithio i wreiddio gwobrwyo a hefyd cydnabod arferion diwylliant ymchwil cadarnhaol yn ein hystod o arferion dyrchafu a phenodi
  • datblygu ein gwaith ar asesu ymchwil, ymhellach, ac mewn ffordd gyfrifol
  • sicrhau bod ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa’n cael eu cynnwys yn fwy yn y broses o wneud penderfyniadau ynghylch ymchwil
  • hyrwyddo ac yn gwerthfawrogi llwybrau gyrfa a chyfleoedd ar gyfer pobl nad ydynt yn gweithio ym maes addysgu ac ymchwil ond sy'n chwarae rhan hynod o bwysig mewn gwaith 'ymchwil tîm'

Arolwg o’r diwylliant ymchwil

Roedd yr arolwg o’r diwylliant ymchwil yn agored i bob aelod o’r staff a phob ymchwilydd ôl-raddedig a'i nod oedd cofnodi profiad pawb oedd yn ymwneud ag ymchwil yn y brifysgol.

Bydd y Grŵp Datblygu Diwylliant Ymchwil yn ystyried sut y gall canfyddiadau'r arolwg helpu i lywio ac i ddiweddaru’r blaenoriaethau ar gyfer ein cynllun gweithredu o ran ein diwylliant ymchwil.

Darllen crynodeb gweithredol o'r adroddiad

Cysylltu â ni

Ein Gweithgor Diwylliant Ymchwil, sy’n cael ei gadeirio gan yr Athro Karin Wahl-Jorgensen, Deon Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil, fydd yn gyfrifol am roi’r cynllun gweithredu ar gyfer y diwylliant ymchwil ar waith.

Yr Athro Karin Wahl-Jorgensen

Yr Athro Karin Wahl-Jorgensen

Director of Research Development and Environment

Email
wahl-jorgensenk@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 208 79414