Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi ymchwilwyr

Rydym yn cyflwyno ymchwil sy'n cael effaith drwy ddenu, cadw a datblygu ymchwilwyr uchelgeisiol a thalentog.

Byddwch yn elwa o gyrsiau, gweithdai a chyngor gyrfaoedd sydd yn benodol ar gyfer ymchwilwyr drwy gydol eich gyrfa. Mae Rhaglen Ymchwilydd Caerdydd yn cynnwys dros 100 o bynciau hyfforddiant fydd yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i chi reoli prosiectau llwyddiannus. Gallwch ddatblygu'ch gyrfa ymhellach gydag ein rhaglen arweinyddiaeth a rheoli. Mae absenoldeb astudio ar gael i rai aelodau staff academaidd ar gyfer datblygu prosiectau ymchwil penodol.

Yn 2021, fe wnaethon ni gadw'r Gwobr Adnoddau Dynol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Ymchwil, sy'n dangos ein hymrwymiad i'ch datblygiad gyrfa. Yn ogystal, rydym yn llofnodwr o Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfaoedd Ymchwilwyr 2019.

Y Concordat Hybu Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr

Mae Concordat y DU i gefnogi datblygiad gyrfaoedd ymchwilwyr yn gytundeb rhwng rhanddeiliaid i wella’r gyflogaeth a’r gefnogaeth ar gyfer ymchwilwyr a’u gyrfaoedd ym maes addysg uwch y DU.