Ymrwymiad i Dechnegwyr
Arweinir yr Ymrwymiad i Dechnegwyr gan y Cyngor Gwyddoniaeth i sicrhau gwelededd, cydnabyddiaeth, datblygiad gyrfa a chynaliadwyedd i dechnegwyr sy’n gweithio ym maes addysg uwch ac ymchwil.
Ym mis Mai 2017 daeth y Brifysgol yn un o lofnodwyr sylfaenol yr Ymrwymiad hwn. Cyflawnwyd Statws Hyrwyddwr Cyflogwyr fel rhan o'n cynllun gweithredu dwy flynedd cychwynnol. Bydd ein cynllun gweithredu presennol yn mynd â ni o 2020-2023.
Gwahoddir prifysgolion a sefydliadau ymchwil i fod yn lofnodwyr ar gyfer yr Ymrwymiad i Dechnegwyr a gwneud addewid i weithredu yn erbyn yr heriau allweddol sy’n effeithio ar eu staff technegol.
Rydym yn falch o fod yn gweithio tuag at ofynion yr Ymrwymiad i Dechnegwyr, fel yr amlinellir yn ein cynllun gweithredu sefydliadol.
Cynllun gweithredu Ymrwymiad i Dechnegwyr – 2020 – 2023
Mae’r Ymrwymiad i Dechnegwyr yn ymdrech gydweithredol a bydd y Grŵp Llywio yn cefnogi ac yn hwyluso’r gwaith o sefydlu a rhannu arfer gorau a arddangosir yn yr hunanasesiadau a’r cynlluniau gweithredu.