Llyfrgelloedd ac adnoddau
Mae ein casgliad helaeth o lyfrgelloedd a’u gwasanaethau amrywiol yn galluogi ein hymchwilwyr i fod yn flaenllaw yn eu disgyblaethau ac i gael help i ddatblygu eu sgiliau.
Mae ein llyfrgelloedd modern wedi’u rhannu ar hyd y gwahanol gampysau ac mae gennym rai arbenigol mewn gwahanol feysydd, fel pensaernïaeth, iechyd, y gyfraith, cerddoriaeth a gwyddoniaeth.
Mae yna mwy na 1.3 miliwn o lyfrau ac adnoddau eraill yng nghasgliad y llyfrgell ac rydym yn cynnig ystod eang o adnoddau ar-lein sy’n prysur gynyddu. Mae’r casgliad yn cynnwys dros 30,000 o eGyfnodolion mewn testun llawn a 35,000 o eLyfrau, yn ogystal â mynegeion, cronfeydd data, casgliadau o ystadegau ac archifau testun llawn.

Gall ymchwilwyr elwa o gasgliad helaeth o gynnwys unigryw yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig. Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys 100,000 o lyfrau Cymraeg a Cheltaidd yn Llyfrgell Salisbury, dros 15,000 o lyfrau prin o Brydain a'r cyfandir, ac archifau ymchwil modern am hanes meddygaeth a gwyddoniaeth.
Mae gennym hefyd gasgliadau mawr o archifau hanesyddol a modern, gan gynnwys gohebiaeth, dyddiaduron, llawysgrifau a ffotograffau sy’n ymwneud ag Edward Thomas, Morfydd Owen, W. G. Collingwood, a mwy.
Mae tîm o Lyfrgellwyr Pwnc penodol ar gael i gynnig hyfforddiant, help ac arweiniad i gynorthwyo ymchwilwyr. Gall ein Hymgynghorwyr Gwybodaeth roi cyngor arbenigol ar gyhoeddiadau mynediad agored, defnyddio a chael mynediad at Gasgliadau Arbennig ac Archifau, cynnal adolygiadau systematig, bibliometrigau a mesur effaith yn ogystal â delio â chyfeiriadau.
Mae Gwasanaeth Llyfrgell y Brifysgol yn cyfrannu at raglenni’r Academi Ddoethurol ac Ymchwilydd Caerdydd i helpu ymchwilwyr i ddatblygu eu sgiliau ymchwil a phroffesiynol. Dyma rai o’r sesiynau a gynigir: chwilio am wybodaeth, ymwybyddiaeth o’r deunyddiau diweddaraf, dod o hyd i ddata am ddyfyniadau, gwerthuso gwybodaeth a chyhoeddiadau mynediad agored.
Mae pob llyfrgell yn arbenigo mewn pynciau penodol, ac maent wedi'u lleoli ar draws gampysau'r Brifysgol.