Rhaglen gyrfa academaidd cynnar Darlithwyr Disglair
Roedd rhaglen Darlithwyr Disglair yn cefnogi academyddion ar ddechrau eu gyrfa gydag ymchwil, addysgu a hyfforddiant pwrpasol.
Ym mis Gorffennaf 2019, gwnaethom dreialu Darlithwyr Disglair/Brilliant Lecturers: sef rhaglen draws-brifysgol a oedd yn cynnig cyfleoedd datblygu proffesiynol cyfnod penodol am ddeunaw mis ar gyfer academyddion ar ddechrau eu gyrfa i ymgymryd â'u swydd Darlithydd gyntaf, neu'n agos at hynny. Roedd hyn yn cynnig proses drosglwyddo glir o ymchwil ddoethurol neu ôl-ddoethurol i swydd darlithydd mewn Prifysgol.
Penodwyd pob ymgeisydd Disglair gan baneli ysgolion, a gwnaeth rhai dreialu cwestiynau cyfweliad a oedd yn croesawu egwyddorion DORA ac asesiadau ymchwil cyfrifol yn benodol. Yn hytrach na marcwyr procsi ansawdd ymchwil, megis ffactorau effaith cyfnodolyn, canolbwyntiodd y cwestiynau hyn allbynnau ymchwil yr unigolion a'u gweledigaeth a'u dyheadau o ran ymchwil. Penodwyd ymgeiswyr llwyddiannus i ardaloedd a oedd angen cymorth o ran gwaith addysgu ac ymchwil mewn Ysgolion lle'r oedd cydweithwyr wedi cael Absenoldeb Ymchwil y Brifysgol. Mae ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ac ymchwilwyr mwy sefydledig yn cael budd o hyn, gan ei fod yn gynllun integredig o gymorth ymchwil.
Penodwyd 36 o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa mewn 20 o 24 o'n Hysgolion Academaidd fel y garfan Ddisglair, gan weithio mewn ymchwil arloesol sy'n cwmpasu pynciau gan gynnwys bioarchaeoleg, therapiwteg newydd ar gyfer clefydau ar y llygaid a defnydd gwell o dechnolegau symudol i gefnogi arferion iach.
Cafodd cyfranogwyr gefnogaeth datblygiad wedi'i thargedu, gan gynnwys rhaglen arweinyddiaeth pedwar diwrnod o hyd, paru mentoriaid gyda chydweithiwr agos at gymheiriaid, a chronfa ymchwil bersonol gwerth £3,000.
Hefyd, roedd yn rhaid i'r tîm Disglair ailfeddwl cynnwys y rhaglen arweinyddiaeth i ystyried yr arferion gwaith sy'n newid o ran bywyd yn y Brifysgol yn ystod cyfnod clo, a sut brofiad gallai academydd ei gael ar ddechrau ei yrfa mewn sector Addysg Uwch ar ôl COVID-19 yn y DU.
Dyma ein carfan Disglair
Mae'r astudiaethau achos hyn gan aelodau o'r garfan Disglair mewn Ysgolion Academaidd yn rhoi mewnwelediadau i'r profiadau y mae'r rhaglen yn eu cynnig i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.
Roedd Dr Seán Roberts yn dod tuag at ddiwedd ei gontract pan welodd yr hysbyseb ar gyfer y cynllun Disglair. Cafodd ei ddenu gan y cyllid, y gwaith addysgu a'r cymorth hyfforddiant, yn ogystal â'r buddsoddiad mewn unigolion. Gwnaeth y cyrsiau ar addysgu a gynigiwyd fel rhan o'r cynllun Disglair ei helpu hefyd gyda'i gais am Gymrodoriaeth i’r Academi Addysg Uwch.
Galluogodd y cynllun ef i wneud rhai prosiectau ymchwil byr na fydd wedi'u gwneud fel arall. Ymhlith y rhain mae Future Time Reference, sy'n datblygu gwasanaeth sy'n cydnabod newidiadau o ran risg mewn amser real o negeseuon cyhoeddus ar y cyfryngau cymdeithasol, a Language Evolves, a wnaeth greu gwasanaeth sy'n helpu i awduron ffuglen wyddonol i ymchwilio i straeon a'u datblygu ar sail ymchwil i esblygiad iaith. Roedd hefyd yn gweithio gyda datblygwyr gemau fideo, gan ddefnyddio ymchwil ar sgyrsiau rhyngweithiol i wella systemau deialog gemau fideo.
Apêl y cynllun Disglair i Dr Ben Mead oedd y ffaith y byddai'n gallu cydbwyso'i ymchwil ochr yn ochr â'i ymrwymiadau addysgu. Roedd y colegoldeb ymhlith carfanau Disglair yn rhan bwysig o'r profiad: "Nid oes unrhyw un yn fy Ysgol ar yr un lefel â fi, felly mae gallu a rhannu a sgwrsio â phobl ar yr un cam gyrfa wedi bod yn fuddiol iawn."
Dr Georgina Klemencic
Lecturer
Condensed Matter and Photonics Group
- klemencicg@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0225
Mae'r cynllun Disglair wedi newid gyrfa Dr Georgina Klemencic. Dywedodd,
"Pan wnes i gais, roeddwn i'n teimlo ei fod yn risg, gan fod gen i tua'r un amser i fynd ar fy nghontract, a oedd ar y pryd yn un ôl-ddoethurol. Ond roeddwn i'n teimlo'n barod i ddechrau gwthio fy ngyrfa academaidd ymlaen, ac roedd yn ymddangos fel y ffordd orau o gael y profiad perthnasol yr oedd ei angen arnaf.
"Mae'r cynllun Disglair wedi bod yn hollol drawsnewidiol." Gwnaeth y cynllun hyfforddiant pwrpasol, gan gynnwys arferion academaidd hyd at geisiadau am gyllid, fy helpu i ddatblygu fy ngwaith addysgu. Cefais y gwerthusiadau gorau yn fy ysgol ar gyfer fy modiwlau, wrth drin a thrafod fy niddordebau ymchwil fy hun – ac rwyf wedi cael grant mawreddog EPSRC New Horizons ar ei gyfer. Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb fachu ar y cyfle ar y cynllun Disglair ac rwy'n teimlo'n ddiolchgar iawn am yr holl gyfleoedd a roddwyd i mi – yn enwedig gan ei fod wedi arwain at gontract parhaol!"