Cynorthwyo ymchwilwyr
Mae ein hymchwilwyr yn gallu manteisio ar amrywiaeth eang o raglenni datblygu, y cyfleusterau diweddaraf, adnoddau llyfrgell eang a chyngor arbenigol.
O raglenni datblygu a chyfleusterau i ddiwylliant o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, rydym yn cefnogi ein hymchwilwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Mae pob aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol yn hyrwyddo nodwedd warchodedig, a ni oedd y brifysgol gyntaf yn y DU a enwyd yn Hyrwyddwr Cyflog Byw, yn 2015. Daethom yn 10fed ar restr Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall o'r 100 Cyflogwr Gorau, sy'n golygu mai ni yw prifysgol uchaf y DU ar gyfer cydraddoldeb LHDT+ yn y gweithle.
Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i glywed y diweddaraf am ymchwil, newyddion, digwyddiadau, blogiau a mwy, gan Brifysgol Caerdydd.