Ewch i’r prif gynnwys

Gonestrwydd gwaith ymchwil a'i lywodraethu

Mae ein Côd Ymarfer Gonestrwydd Gwaith Ymchwil a'i Lywodraethu yn helpu i sicrhau bod ein hymchwil yn cael ei gynnal yn ddiogel, yn gyfrifol ac yn unol â safonau disgwyliedig.

Mae’r Côd Ymarfer yn cynnwys set o ddisgwyliadau sy’n berthnasol i’r holl staff a myfyrwyr sy’n ymwneud ag ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'n cynnig fframwaith ar gyfer ymddygiad ymchwil da ac yn helpu ymchwilwyr i fodloni gofynion moesegol a chyfreithiol, ac atal camymddygiad.

Caiff y Côd Ymarfer ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau ei fod yn addas i'r diben. Adolygwyd y fersiwn cyfredol o'r Côd Ymarfer yn 2022/2023 a'i gymeradwyo yng Gorffennaf 2023.

Cod Ymarfer Uniondeb a Llywodraethu Ymchwil

Mae'r cod yn annog ymddygiad da mewn ymchwil, yn helpu ymchwilwyr i fodloni gofynion cyfreithiol a moesegol ac yn helpu i atal camymddygiad.

Cyfrifoldeb a goruchwyliaeth o gyfanrwydd ymchwil

Yr Athro Roger Whitaker Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter yw'r uwch arweinydd academaidd a enwir ar gyfer uniondeb ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'r Athro Whitaker hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Uniondeb a Moeseg Ymchwil Agored y Brifysgol (ORIEC).

Y Pwyllgor hwn sy'n gyfrifol am adolygu a chynnal y Côd Ymarfer ac am sicrhau bod systemau priodol yn dal ar waith yn y Brifysgol i gefnogi a chryfhau gonestrwydd ymchwil. Mae'r Pwyllgor yn atebol i Bwyllgor Llywodraethu'r Brifysgol (a lle bo'n briodol, i'r Senedd a'r Cyngor).

Mae tim Uniondeb Ymchwil, Llywodraethu a Moeseg y Brifysgol (sy'n eistedd o fewn y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi) yn darparu cefnogaeth bwrpasol i weithgaredd uniondeb ymchwil y Brifysgol ac yn helpu i weithredu materion a ddatryswyd gan ORIEC.

Chris Shaw, Pennaeth Ymchwil Uniondeb, Llywodraethu a Moeseg yw'r pwynt cyswllt cyntaf a enwir ym Mhrifysgol Caerdydd i unrhyw un sydd eisiau mwy o wybodaeth am faterion gonestrwydd ymchwil neu'n dymuno codi pryderon am onestrwydd ymchwil.

Er bod unrhyw un sydd â phryderon am onestrwydd ymchwil yn cael eu hannog i gysylltu'n uniongyrchol ag un o'r cysylltiadau uchod, os byddai'n well gennych drafod eich pryderon â rhywun annibynnol o'r Brifysgol efallai yr hoffech gysylltu â Swyddfa Uniondeb Ymchwil y DU sy'n gallu darparu cyngor diduedd cyfrinachol ar faterion ymddygiad ymchwil.

Datganiad blynyddol

Mae ein Cynllun Gweithredu Uniondeb Ymchwil sefydliadol 2023-2025 yn allbwn o adolygiad mewnol manwl ac ymarfer myfyrio, gan ddefnyddio Offeryn Hunanasesu UKRIO. Mae’r Cynllun Gweithredu wedi’i rannu ar draws 6 philer allweddol ac mae’n cynnwys camau gweithredu amrywiol gyda’r nod o gryfhau ein hymagwedd at Uniondeb Ymchwil ymhellach a chefnogi ein cymuned ymchwil i gyrraedd y safonau uchaf o Uniondeb Ymchwil. Mae hyn yn rhan o'n taith ragweithiol i feithrin diwylliant lle mae arfer ymchwil da nid yn unig yn cael ei alluogi ond yn cael ei werthfawrogi.

Rydym wedi ymrwymo i gynnal adolygiad rheolaidd o gynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu a byddwn yn adrodd ar gynnydd yn ein Datganiadau Blynyddol sefydliadol ar Uniondeb Ymchwil.

Datganiad blynyddol

Mae'r Concordat i Gefnogi Gonestrwydd Ymchwil yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau ymchwil baratoi a chyhoeddi datganiad blynyddol ar onestrwydd ymchwil sy'n cynnwys y wybodaeth a bennir yn y Concordat.

Mae ein Datganiad Blynyddol ar Onestrwydd Ymchwil ar gyfer 2022/23 yn cadarnhau ein hymrwymiad i hyrwyddo a chryfhau gonestrwydd ymchwil ar draws pob gweithgaredd ymchwil.  Mae ein Datganiad Blynyddol ar Onestrwydd Ymchwil ar gyfer 2021/22, Datganiad Blynyddol 2020/21Datganiad Blynyddol 2019/2020Datganiad Blynyddol 2018/2019, Datganiad Blynyddol 2017/2018 a'n Datganiad Blynyddol 2016/2017 hefyd ar gael i ddangos cynnydd Prifysgolion ar eu hagenda gonestrwydd ymchwil.

Datganiad Blynyddol ynghylch Gonestrwydd Ymchwil 2023

Mae'r Datganiad Blynyddol hwn yn crynhoi gweithgarwch allweddol yn ystod Blwyddyn Academaidd 2022/2023 i gryfhau uniondeb ymchwil ar draws y Brifysgol.

Datganiad Blynyddol ar Uniondeb Ymchwil 2022

Mae'r Datganiad Blynyddol hwn yn crynhoi gweithgarwch allweddol yn ystod Blwyddyn Academaidd 2021/2022 i gryfhau uniondeb ymchwil ar draws y Brifysgol.

Datganiad Blynyddol ynghylch Gonestrwydd Ymchwil 2021

Mae'r Datganiad Blynyddol hwn yn crynhoi gweithgarwch allweddol yn ystod Blwyddyn Academaidd 2020/2021 i gryfhau cywirdeb ymchwil ar draws y Brifysgol.

Datganiad blynyddol ar uniondeb ymchwil 2019

Mae'r datganiad blynyddol hwn yn crynhoi'r dulliau allweddol a ddefnyddir i gryfhau uniondeb ymchwil ar draws y Brifysgol.

Annual Statement on Research Integrity 2018 Welsh

Crynhoa’r Datganiad Blynyddol hwn y dulliau allweddol a ddefnyddir er mwyn cryfhau gonestrwydd ymchwil ar draws y Brifysgol.

Annual Statement on Research Integrity 2017 (Welsh)

Crynhoa’r Datganiad Blynyddol hwn y dulliau allweddol a ddefnyddir er mwyn cryfhau gonestrwydd ymchwil ar draws y Brifysgol.

Cysylltu

Chris Shaw

Head of Research Integrity, Governance and Ethics