Moeseg ymchwil
Rydym yn mynnu bod ymchwil yn seiliedig ar yr safonau moeseg uchaf, ac mae lles y gwrthrychau ymchwil yn flaenoriaeth.
Dyluniwyd ein polisïau er mwyn galluogi ymchwilwyr i wneud eu gwaith yn effeithiol, wrth hefyd sicrhau bod eu hymchwil yn cydymffurfio â'r safonau gonestrwydd a moeseg uchaf.
Mae tystiolaeth o adolygiad moeseg trylwyr yn ofyniad gan gyrff ariannu ar draws pob disgyblaeth, gan gynnwys y Cynghorau Ymchwil.
Sicrhau arfer moesegol
Rhaid i unrhyw ymchwil sy'n ymwneud â chyfranogwyr dynol, data dynol neu feinweoedd dynol fod yn amodol ar adolygiad moesol gan bwyllgor moeseg annibynnol, cymwys, wedi'i sefydlu'n briodol.
Mae gan bob Ysgol Academaidd ei Phwyllgor Moeseg Ymchwil yr Ysgol (SREC) ei hun, sy'n gyfrifol am sicrhau bod unrhyw ymchwil anghlinigol sy'n digwydd o fewn yr Ysgol wedi derbyn yr adolygiad moeseg angenrheidiol.
Mae pob pwyllgor hefyd yn gyfrifol am fonitro prosiectau parhaus a goruchwylio'r hyfforddiant mewn egwyddorion moesegol sy'n addas ar gyfer staff a myfyrwyr.
Mae Pwyllgorau Moeseg Ymchwil yr Ysgol yn adrodd i Bwyllgor Gonestrwydd a Moeseg Ymchwil y Brifysgol, sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod ymchwil yn cael ei gynnal yn unol â'r fframweithiau, rhwymedigaethau a safonau priodol o ran moeseg, y gyfraith a phroffesiynoldeb.
Rhaid i waith ymchwil sy'n ymwneud â chleifion y GIG, neu berthnasau'r cleifion hynny, fod wedi ei gymeradwy gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG.