Y gallu i ailgynhyrchu gwaith ymchwil
Rydym yn aelodau o Rwydwaith Ailgynhyrchu'r DU (UKRN), rhwydwaith annibynnol o randdeiliaid yn y DU sy’n ymroi i wella ansawdd allbwn ymchwil academaidd a’r gallu i’w ailgynhyrchu.
Mae hyn yn cynrychioli rhan bwysig o'n hymrwymiad i ddatblygu diwylliant Ymchwil Agored sy'n cwmpasu ystod o weithrediadau er mwyn gwella ansawdd, gonestrwydd a hygyrchedd ein hymchwil.
Rhwydwaith Ailgynhyrchu'r DU
Tra bod y DU yn arwain gwaith ymchwil yn fyd-eang, er mwyn cadw ein safle a sicrhau bod ein hymchwil yn drylwyr, yn gadarn ac o ansawdd uchel mae angen i ni ysgogi gwelliant parhaus. Mae Rhwydwaith Ailgynhyrchu'r DU, a arweinir gan yr Athro Marcus Munafò a chydweithwyr o brifysgolion y DU, yn gweithio gydag ymchwilwyr, prifysgolion ac amrywiaeth o randdeiliaid i hyrwyddo'r mentrau er mwyn gwella ansawdd yr ymchwil.
Mae pob partner sefydliadol yn yr UKRN wedi nodi uwch arweinydd academaidd i ymgysylltu â'r UKRN, rhannu gwaith dysgu a meithrin ei agenda. Yr Athro Gillian Bristow, Deon Ymchwil ar gyfer Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol yw ein arweinydd ein rhwydwaith ac mae'n cadeirio Grŵp Gweithredol Ymchwil Agored y Brifysgol.
Ein hymrwymiad
Bydd ein mentrau UKRN yn cynnwys y canlynol
- datblygu hyfforddiant cyffredin ar draws camau gyrfa
- alinio meini prawf o ran dyrchafu a phenodi er mwyn ategu arferion ymchwil sy'n agored y gellir eu hatgynhyrchu
- rhannu arferion gorau.
Bydd ein harweinydd academaidd UKRN yn cydymffurfio â rhwydweithiau o ymchwilwyr ar lawr gwlad a rhanddeiliaid UKRN, gan gynnwys cyllidwyr a chyhoeddwyr.
Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i glywed y diweddaraf am ymchwil, newyddion, digwyddiadau, blogiau a mwy, gan Brifysgol Caerdydd.