Ymchwil clinigol
Mae ein holl ymchwil clinigol yn gorfod cadw at reolau a rheoliadau llym.
Mae'r rheoliaadau a'r safonau hyn wedi'u dylunio er mwyn:
- diogelu ac amddifyn pynciau ymchwil
- lleihau risg
- monitro ymarfer a pherfformiad
- cynnal ymchwil rhagorol a gwyddoniaeth dda
- sicrhau data a chanlyniadau o safon.
Treialon clinigol o gynhyrchion a dyfeisiau meddyginiaethol
Rhaid i ymchwilwyr sy'n cynnal treialon clinigol o gynhyrchion neu ddyfeisiau meddyginiaethol ymchwiliadol sicrhau eu bod yn cydymffurfio â phob deddfwriaeth y DU a rhyngwladol er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch cyfranogwyr ymchwil a gonestrwydd data'r treialon. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Cyfarwyddeb Treialon Clinigol y Comisiwn Ewropeaidd (2001/20/EC)
- Cyfarwyddeb Dyfeisiau Meddyginiaethol (93/42/EEC)
- Rheoliad Meddyginaethau at ddefnydd Dynol (Treialon Clinigol) 2004
- Ymarfer Clinigol Da
- Deddf Meinweoedd Dynol 2004
Ymchwil yn y GIG
Rhaid i waith ymchwil sy'n ymwneud â chleifion, staff, gwybodaeth neu gyfleusterau'r GIG gydymffurfio â Fframwaith Polisi'r DU ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r rhain yn amodol ar adolygiad moeseg ar lefelau lleol a chenedlaethol.
Mae Awdurdod Ymchwil Iechyd y GIG yn goruchwylio'r strwythur cyffredinol a gweithrediad llywodraethu moeseg ymchwil ledled y DU. Mae Pwyllgorau Moeseg Ymchwil ledled y DU yn gwasanaethu rhanbarthau penodol ac maent yn gyfrifol am adolygu prosiectau ymchwil prifysgolion. Mae'r Pwyllgor Moeseg Ymchwil Aml-ganolfan yn adolygu prosiectau ymchwil clinigol aml-ganolfan ar raddfa fawr.
Hyfforddiant Ymarfer Clinigol Da
Mae pob ymchwilydd clinigol yn derbyn hyfforddiant Ymarfer Clinigol Da (GCP) er mwyn amddiffyn hawliau a diogelwch cyfranogwyr ymchwil. Caiff yr hyfforddiant ei adnewyddu pob dwy flynedd.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â UHB Caerdydd a'r Fro er mwyn darparu hyfforddiant GCP ar gyfer ein hymchwilwyr.
Mae hyfforddiant hefyd ar gael gan gyrff cyhoeddus fel Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.