Beth ddeffrodd fy chwilfrydedd? Yr Athro René Lindstädt
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ymunodd yr Athro René Lindstädt â’r Brifysgol ym mis Medi 2016, yn Bennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.
Mae’n arbenigwr ar wleidyddiaeth America, a chanddo ddiddordeb arbennig yn y Gyngres, a bu’n sôn wrth Dr Stephen Cushion, Darllenydd a Chyfarwyddwr yr MA mewn Cyfathrebu Gwleidyddol yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant y Brifysgol, ynghylch tarddiad ei chwilfrydedd ynghylch y pwnc.
Stephen Cushion: O ble daeth eich chwilfrydedd ynghylch gwleidyddiaeth America?
René Lindstädt: Fe dreuliais i flwyddyn yn yr Unol Daleithiau, mewn tref fechan yn Alabama, pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd. Roedd hynny yn 1993-1994, yn union ar ddechrau gweinyddiaeth Clinton. Roedd yr hinsawdd gwleidyddol a deinameg gwleidyddiaeth o ddiddordeb aruthrol i mi, ac fe ddechreuais i astudio gwleidyddiaeth a hanes America o ddifri. Edrychais i byth yn ôl, ac yn y diwedd daeth yn yrfa i mi.
Pam y diddordeb penodol yn y Gyngres?
Y tri sefydliad mawr gwleidyddol yn America yw’r Gyngres, yr Arlywyddiaeth a’r Goruchaf Lys. Felly pan ddechreuais yn ysgol y graddedigion, roedd gen i ddewis i'w wneud ynglŷn â sut i arbenigo. Roeddwn i’n ffodus iawn i weithio gydag un o ysgolheigion amlycaf Goruchaf Lys yr UD, yr Athro Lee Epstein, yn fy alma mater, Prifysgol Washington yn St. Louis, a dyna pam dewisais i’r Goruchaf Lys yn destun ar gyfer fy ngwaith cynnar.
Yn y pen draw, dechreuais i ddatblygu diddordeb mewn prosesau deddfwriaethol ac yn arbennig y rheolau sy'n llywodraethu gwleidyddiaeth ddeddfwriaethol. Serch hynny, mae gen i ddiddordeb byw o hyd yng Ngoruchaf Lys yr UD, ac yn raddol bach rwy’n dechrau astudio’r llysoedd eto, nawr mod i’n gweithio yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.
Sut ydych chi'n meddwl bod Trump wedi newid gwleidyddiaeth yn yr UD? Ydych chi’n credu y caiff ei ail-ethol?
Na, dwy ddim yn credu y caiff ei ail-ethol. A dweud y gwir, ac mae’n siŵr y bydda i’n edifar yn nes ymlaen mod i wedi rhagfynegi hyn, dwy ddim yn creu y bydd yn gorffen y cyfnod o bedair blynedd y cafodd ei ethol iddo’r llynedd.
Beth oedd y prif resymau dros ethol Trump, a beth oedd rôl y cyfryngau yn hynny?
Yn fy marn i, dim ond nawr mae’r gymuned ymchwil yn dechrau mynd i’r afael â’r cwestiwn hwn. Mewn rhai ffyrdd, mae ethol Trump yn rhan o ffenomen fwy y gellir olrhain ei tharddiad, i raddau helaeth, i’r ffaith nad yw globaleiddio wedi creu manteision ar gyfer pob rhan o’r gymdeithas. O ganlyniad, rydym wedi gweld mwy o bleidleisiau protest ac etholiadau’n cynhyrchu enillwyr nad ydynt yn rhan o'r brif ffrwd.
O ran achos penodol Trump, mae llawer o wahanol resymau a ddaeth ynghyd i gynhyrchu’r canlyniad hwnnw: amrywiaeth mawr o ymgeiswyr Gweriniaethol; Plaid Ddemocrataidd ranedig; ymyrraeth honedig y Rwsiaid yn y broses etholiadol; polareiddio ideolegol ymhlith yr etholwyr; a llawer mwy. Rwy hefyd yn credu bod y cyfryngau wedi ei chael hi’n anodd addasu i arddull anghonfensiynol a di-ddal Trump yr Ymgeisydd a Trump yr Arlywydd.
Ydych chi'n meddwl ein bod ni’n byw mewn oes o wleidyddiaeth ôl-wirionedd? Ydych chi’n gweld nodweddion tebyg rhwng Brexit a buddugoliaeth Trump yn yr etholiad?
Rydym ni mewn perygl o ddisgyn i gyfnod o wleidyddiaeth ôl-wirionedd, a dyna pam mae mor bwysig bod gennym ni gyfryngau cryf ac annibynnol. Rwy’n credu bod rhai nodweddion tebyg rhwng yr hyn achosodd Brexit ac ethol Trump, h.y. beth ddywedais i’n gynharach am globaleiddio, ond rwy’n credu hefyd bod llawer mwy o wahaniaethau.
Darllenwch y cyfweliad llawn
Fersiwn fyrrach yw hon o'r cyfweliad llawn a oedd yn rhifyn haf 2017 o Herio Caerdydd, ein cylchgrawn ymchwil.
Welsh - Challenge Cardiff Summer 2017
Chweched rhifyn ein cylchgrawn ymchwil, sy’n rhoi gwybodaeth am effaith ein gwaith ymchwil.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.