Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau
Clefyd cardiofasgwlaidd, diabetes, canser, dementia, arthritis, haint, problemau anadlol mewn babanod newydd-anedig, dirywiad macwlaidd, ecsema, psorïasis - mae’r rhain i gyd yn glefydau gwahanol, ond eto mae rhywbeth yn eu cysylltu â’i gilydd, sef llid.
Dyma ymateb arferol y corff i haint neu anaf, ac mae’n allweddol i’ch galluogi i wella. Yn aml, mae llid yn newid o fod yn ddefnyddiol i rywbeth niweidiol pan fydd yn troi’n gronig (neu hirdymor). Pan fydd hyn yn digwydd, bydd ein cyrff yn colli rheolaeth o’r ymateb llidiol, sy’n hybu datblygiad y clefyd. Er bod gwyddonwyr yn gwybod bod llid yn chwarae rol allweddol yn yr holl afiechydon hyn, mae’r hyn sy’n ei sbarduno i fod yn niweidiol yn y lle cyntaf yn ddirgelwch o hyd.
Rydym yn gwybod bod y prosesau sy’n gyfrifol am ddatblygiad llid yn amrywiol iawn, hyd yn oed mewn cleifion sydd a’r un clefyd, ond mae’r astudiaeth o hyn ar lefel unigol ar gam cynnar o hyd, ac nid ydym yn deall rhyw lawer am y mater. Un o’r nodau pennaf yw’r gallu i wneud penderfyniadau clinigol ar sail gwybodaeth fanwl am statws llid neu haint pob person, ac mae hyn yn berthnasol iawn o ran meddyginiaeth fanwl, lle mae triniaethau yn cael eu teilwra’n unigol ac yn seiliedig ar ddealltwriaeth llawer dyfnach o gam neu ffurf y clefyd ei hun.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhagori ar lefel ryngwladol mewn amrywiaeth eang o ymchwil ar haint, imiwnedd a llid, a sefydlodd y Brifysgol y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau ym mis Awst 2015 i fynd i’r afael a her iechyd fyd-eang y clefydau marwol hyn. Mae ymchwilwyr yn defnyddio data mawr/ bioleg systemau i ddeall pob ffurf ar lid, drwy astudio setiau data mawr gan ddefnyddio cyfrifiadureg a mathemateg. Un o’r heriau mwyaf yw integreiddio safbwyntiau gwahanol ac, yn aml, anghydweddol ar glefydau sy’n cydfodoli yn yr un grwpiau o gleifion, yn ogystal ag astudiaethau cellog a modelau anifeiliaid.
Mae’r Cyfarwyddwr, yr Athro Paul Morgan, yn esbonio’r her y gall hyn ei chreu: “Y dyddiau hyn, mae ein harbrofion yn cynhyrchu symiau mawr iawn o ddata, yn disgrifio geneteg, genomeg, metabolomeg/lipidomeg a phroteomeg llid mewn celloedd neu samplau dynol, er enghraifft. Mae nodi ac echdynnu’r darnau pwysig o ddata yn heriol iawn. I lwyddo yn hyn o beth, mae’n hanfodol bod gennym y teclynnau cywir.”
Dywedodd y Cyd-Gyfarwyddwr, yr Athro Valerie O’Donnell: “Mae cyfuno arbenigedd biofeddygol a gwybodeg a mathemateg yn mynd â’n hymchwil i’r lefel nesaf, gan ein galluogi i drin a dadansoddi ein data mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Mae’r dull hwn eisoes yn arwain at ganfyddiadau pwysig a all newid y ffordd rydyn ni’n edrych ar glefydau llidiol a heintus.”
Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd diwethaf yn astudio amrywiadau llidiol mewn grwpiau mawr o’r boblogaeth. Cafwyd data gwerthfawr a all helpu i nodi sbardunau llid cronig a ffocysu arnynt.
Yn ei flwyddyn gyntaf, sicrhaodd y Sefydliad Ymchwil 46 o grantiau newydd gwerth dros £9.4m, gan gynnwys Dyfarniadau Ymchwil uchel eu parch gan y Wellcome Trust, grant gan Sefydliad Bill a Melinda Gates a sawl grant gan y Cyngor Ymchwil Feddygol. Hefyd, sefydlodd raglen PhD mewn Imiwnedd Systemau, penododd gyfadran newydd mewn meysydd sgiliau allweddol mewn perthynas â bioleg systemau a modelu mathemategol, a
chydgrynhodd ei graidd gwybodeg gyda staff a seilwaith newydd.
Uchafbwynt arall yw partneriaethau rhyngwladol strategol y Sefydliad Ymchwil gyda’r Sefydliad Darganfyddiadau Biofeddygol newydd ym Mhrifysgol Monash a Sefydliad Ymchwil Feddygol Hudson (HIMR) ym Mhrifysgol Melbourne, sy’n gyfadran ar y cyd rhwng Caerdydd a Monash, dan arweiniad yr Athro Jamie Rossjohn. Mae astudiaethau cydweithredol rhwng ein sefydliad ni a Monash yn cynhyrchu data gwreiddiol ar rolau sytocinau mewn datblygiad clefyd, yn ogystal â diffinio patrymau newydd mewn bioleg celloedd T (celloedd pwysig sy’n gysylltiedig â chlefyd awto-imiwn), gyda’r Athrawon David Price ac Andy Sewell. Mae’r cydweithredu yn cynnwys datblygu triniaethau newydd, diagnosteg newydd a rhagfynegyddion newydd o ran canlyniadau clefydau yn y meysydd hyn.
Mae’r Sefydliad Ymchwil yn buddsoddi’n sylweddol mewn gweithgareddau ymgysylltu cyhoeddus, gan weithio gydag athrawon a phlant ysgol, gweithwyr iechyd proffesiynol, arianwyr cenedlaethol, elusennau lleol, llunwyr polisi a’r cyhoedd.
Mae ei ymchwil yn cael ei harddangos mewn digwyddiadau fel Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd, Soapbox Science, Gŵyl y Gelli a’r Eisteddfod Genedlaethol. Gan weithio gyda Sefydliad Nuffield, bob haf mae aelodau’r grŵp yn
croesawu myfyrwyr chweched dosbarth sy’n cynnal prosiectau ymchwil yn ei labordai.
Mae’r Sefydliad Ymchwil yn gwneud cyfraniad pwysig at y Bartneriaeth Arloesi Clinigol a sefydlwyd yn ddiweddar rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro; mae hyn yn ei alluogi i weithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a’r diwydiant i gyflymu’r defnydd o’i ymchwil yn y byd go iawn, gan arwain at brofion diagnostig newydd, triniaethau cyffuriau newydd a newidiadau i bolisi cenedlaethol a rhyngwladol mewn gofal iechyd a thriniaeth cleifion.
Yr ymchwilwyr
Yr Athro Valerie O'Donnell
Cyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau
- o-donnellvb@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 7313