Ewch i’r prif gynnwys

Cofio Aberfan

Fore Gwener 21 Hydref 1966 cychwynnodd Jeff Edwards, oedd yn wyth oed, yn llawen ar ei daith i Ysgol Gynradd Pantglas, gan edrych ymlaen at y gwyliau hanner tymor yr wythnos ganlynol.

Dechreuodd fel unrhyw ddiwrnod arferol ym mhentref glofaol Aberfan, ond newidiodd y digwyddiadau trychinebus oedd ar fin dod i’w rhan fywydau pawb am byth. Am 9.15am, rhuthrodd dros 150,000 o fetrau ciwbig o wastraff glofaol wedi’i drwytho a glaw i lawr ochr y pentwr gwastraff a gysgodai’r ysgol, gan lyncu popeth o’i flaen. Bu farw 116 o blant a 28 o oedolion yn sgil y tirlithriad.

Jeff oedd un o bedwar a oroesodd yn ei ddosbarth o 34, a’r unigolyn olaf i gael ei achub o’r rwbel yn yr ysgol.

Prin ugain milltir o leoliad trychineb Aberfan, mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn arwain y byd wrth ragweld tirlithriadau yn sgil daeargrynfeydd. Dr Rob Parker, o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Mor, yw un o’r arbenigwyr hyn ac mae wedi bod yn datblygu offeryn cyfrifiadurol ystadegol - a elwir yn ShakeSlide - a all gynnig asesiad cyflym o dirweddau ar ol daeargryn a dangos ymhle mae tirlithriadau’n debygol o ddigwydd.

Wythnos cyn hanner canmlwyddiant trychineb Aberfan, cyfarfu Jeff (JE) a Rob (RP) yn Ysgol Gynradd Ynysowen yn Aberfan i siarad am arwyddocad y trychineb a sut mae ymchwil gwyddonol yn trawsnewid y modd rydym ni’n deall tirlithriadau.

JE: Beth wnaeth i chi fod â diddordeb mewn tirlithriadau yn y lle cyntaf?

RP: Mae mynyddoedd wedi fy nghyfareddu I erioed. Rwyf i’n fynyddwr brwd ac yn treulio llawer o amser yn dringo, felly rwyf i wastad wedi bod allan ar y mynyddoedd. Mae’n debyg bod tirlithriadau’n un o’r prosesau mwyaf dramatig sy’n digwydd dros gyfnod byr o amser. O fy nyddiau cynnar yn yr ysgol roeddwn i’n gwybod am y digwyddiadau yn Aberfan a’r hyn ddigwyddodd yno felly roedd y broses ffisegol sy’n achosi pethau fel hyn, a’u heffaith ar gymdeithas, o ddiddordeb i fi.

JE: Sut mae’r model rydych chi’n ei ddatblygu’n wahanol i fodelau eraill?

RP: Rydyn ni’n cymryd y daeargryn fel digwyddiad cyfan, a thros ardal eang iawn rydyn ni’n ceisio rhagweld ymhle mae tirlithriadau’n debygol o fod wedi digwydd, felly mae’n rhagfynegiad dros ardal eang. Rwy’n gweithio gyda thim o geomorffolegwyr sy’n astudio prosesau arwyneb y ddaear. Eu diddordeb naturiol yw’r ffordd mae tirwedd yn gweithredu ar raddfa fawr. Felly y gwahaniaeth yw, yn hytrach na rhagfynegi ar gyfer lleoliadau penodol - fel holi a fydd goledd bryn penodol yn methu ai peidio - rydyn ni am wybod beth yw’r tebygolrwydd dros ardal eang.

JE: Pa mor gywir yw’r model rydych chi wedi’I ddatblygu?

RP: O ran rhagweld union leoliad y tirlithriadau, mae llawer o ansicrwydd o hyd. Mae ansicrwydd ynghylch cryfder yr ysgwyd seismig a chryfder deunyddiau’r bryniau. Mae hyn yn golygu bod rhagweld pa oleddon yn union fydd yn methu yn anodd, ond mae rhagweld niferoedd o dirlithriadau ar draws ardal neu ar hyd dyffryn yn gallu cael ei wneud yn fwy cywir.

Jeff Edwards a Dr Rob Parker
Dr Rob Parker a Jeff Edwards

JE: Oes unrhyw enghreifftiau penodol y gallech chi eu rhoi o ble mae’r model hwn wedi’i fabwysiadu?

RP: Y llynedd, pan ddigwyddodd daeargrynfeydd Nepal, rhedon ni’r model hwn am y tro cyntaf gan lunio rhagfynegiad o batrwm gofodol y tirlithriadau o’r daeargryn hwnnw. Rhoddon ni’r model hwnnw i Fanc y Byd oedd yn gwneud llawer o waith yn ystod yr ymateb i’r trychineb ar ol y daeargryn. Ynghyd a delweddau lloeren fe’u helpodd nhw i lywio’r chwilio yn y llefydd roedd tirlithriadau’n debygol o fod wedi digwydd.

JE: Pa effaith mae newid hinsawdd wedi’I gael ar y nifer o dirlithriadau sydd wedi digwydd?

RP: Mae rhagfynegiadau newid hinsawdd yn awgrymu y gallen ni weld cynnydd o 10% yn y nifer o achosion o lawiadau mawr, a allai arwain at ragor o dirlithriadau. Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n ddiweddar ym Mynyddoedd yr Appalachian yng Ngogledd Carolina, lle rydyn ni wedi profi’r ddamcaniaeth hon ac wedi gweld na fydd mwy o lawiadau o reidrwydd yn achosi mwy o dirlithriadau.

Rydyn ni’n gwybod bod y tirlithriad yn Aberfan wedi’i sbarduno gan law, ond achos y tirlithriad oedd tipio gwastraff glofaol ar y bryn. Pe na bai’r gwastraff glofaol hwnnw wedi’i dipio ar y bryn, byddai’r glaw wedi digwydd ond ni fyddai tirlithriad wedi bod. Bellach mewn tirweddau naturiol, pridd sy’n casglu ar y bryniau, gan gronni’n araf dros amser. Ym Mynyddoedd yr Appalachian, lle’r oedden ni’n gweithio, gwelon ni fod digwyddiadau glaw mor fynych fel nad yw’r dirwedd yn cynhyrchu pridd yn ddigon cyflym i gynhyrchu mwy o dirlithriadau. Felly os cawn ni fwy o ddigwyddiadau glaw, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu y bydd mwy o dirlithriadau.

JE: Ble ydyn ni’n gweld ein hunain ymhen deng mlynedd?

RP: Mae argaeledd setiau data yn cynyddu. Rydyn ni’n cael modelau 3D o arwyneb y Ddaear a chofnodion o ble mae tirlithriadau wedi digwydd yn y gorffennol. Mae prosiect o’r enw ‘Planet Lab ’ wedi gosod cannoedd o loerennau yn y gofod dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf ac mae’r rhain yn y broses o ddelweddu’r Ddaear gyfan bob dydd.

Gyda systemau fel hyn byddwn ni’n cael monitor dyddiol ar brosesau ffisegol ar arwyneb y Ddaear ac mae hwn yn offeryn pwerus dros ben ar gyfer deall pryd mae tirlithriadau’n digwydd a sut maen nhw’n newid dros amser. Hefyd bydd rhaid i ni gael algorithmau dysgu peiriant deallusrwydd artiffisial mwy niferus a mwy pwerus i weithio gyda’r data hwnnw a’i brosesu. Felly mae cael y data hwnnw ac yna gallu ei ddefnyddio yn mynd i helpu ein hymdrechion i ragweld tirlithriadau.

Climate change predictions suggestthat we could see a 10% increase in the number of big rainfall events.

Dr Robert Parker Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol

JE: Yn amlwg, eleni rydym ni’n coffau hanner canmlwyddiant trychineb Aberfan, yr oeddwn i’n rhan ohono, felly ydych chi’n meddwl y byddai’r modelu sydd wedi’I ddatblygu wedi gallu atal y ddamwain honno rhag digwydd?

RP: Wrth edrych yn ol ar Aberfan, efallai mai un o’r pethau mwyaf diddorol i feddwl amdano oedd ein bod yn gwybod am beryglon tirlithriadau ar y pryd. Roedd tirlithriadau o wastraff glofaol mewn gwirionedd yn eithaf cyffredin yn y Cymoedd a dwyf i ddim yn credo bod y broblem yn ymwneud a gwyddoniaeth fel y cyfryw, ond a gwleidyddiaeth a chael pobl i weithredu ar yr wybodaeth honno.

Fel gwyddonydd ffisegol rwy’n ceisio deall y broses ffisegol a’r modd mae tirlithriadau’n digwydd ac efallai mai un o’r heriau mwyaf sydd gennym ni yw rhoi’r wybodaeth honno yn nwylo gwneuthurwyr polisi sy’n gallu gwneud penderfyniadau gwybodus ar y sail honno. Cafwyd tirlithriad gwastraff mwynol mawr yn 2008 a laddodd 128 o bobl yn Tsieina, felly mae’r pethau hyn yn dal i ddigwydd ar draws y byd.

Un peth pwysig iawn rwy’n hoffi ei gofio am Aberfan yw ei fod wedi sbarduno mwy o ymchwil I dirlithriadau ac mae’n rhan o’r rheswm pam fod y DU yn arwain y byd mewn ymchwil i dirlithriadau.

JE: Mae’n bwysig ein bod yn cofio hwn fel digwyddiad eiconig i Gymru ac o bosib i’r byd; ac nad yw colli cynifer o blant, a cholli oedolion hefyd, ynghyd â dioddefaint y gymuned, yn cael eu hanghofio.

Ymunodd Jeff Edwards â goroeswyr eraill, achubwyr a newyddiadurwyr a oedd ynghlwm â thrychineb Aberfan, i siarad yn gyhoeddus mewn cynhadledd ym mis Medi 2016 am eu profiadau. Trefnwyd y gynhadledd gan ein Hysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol i nodi hanner canmlwyddiant y drychineb, ac roedd yn archwilio'r sylw y mae'r wasg yn ei roi i drawma.

Darllenwch y cyfweliad llawn

Fersiwn fyrrach yw hon o'r cyfweliad llawn a oedd yn rhifyn gaeaf 2016 o Herio Caerdydd, ein cylchgrawn ymchwil.

Welsh - Challenge Cardiff Winter 2016

Pumed rhifyn ein cylchgrawn ymchwil, sy’n rhoi gwybodaeth am yr effaith y mae ein gwaith ymchwil yn ei chael.

Yr ymchwilydd

Dr Robert Parker

Dr Robert Parker

Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol

Email
parkerr5@caerdydd.ac.uk

Ysgol Academaidd

Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd

Rydym wedi ymrwymo i gyrraedd y safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg. Rydym yn darparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol lle gall ein holl staff a myfyrwyr gyflawni eu potensial er budd cymdeithas.