Doeth am Iechyd Cymru: Diogelu’r dyfodol drwy helpu heddiw
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Mae nifer o brosiectau cyffrous yn mynd rhagddynt ar draws y genedl, ond dim un ar raddfa Doeth am Iechyd Cymru – menter uchelgeisiol sy'n rhoi’r cyfle i’r cyhoedd ddweud eu dweud a chasglu gwybodaeth am iechyd y genedl.
Owain Clarke, Gohebydd Iechyd BBC Cymru sy’n sgwrsio â’r Athro Shantini Paranjothy (MBBCh1995), Arweinydd Thema Ymchwil i Iechyd y Boblogaeth ar gyfer Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd ac Arweinydd Gwyddonol Doeth am Iechyd Cymru.
Owain Clarke: Dywedwch ychydig amdanoch chi’ch hun a sut ydych chi wedi cyrraedd y pwynt hwn. Beth wnaeth ysgogi eich diddordeb chi mewn edrych ar boblogaethau?
Shantini Paranjothy: Fe wnes i hyfforddi fel meddyg yng Nghaerdydd a dechrau gweithio fel meddyg iau yn Lloegr, mewn obstetreg a gynecoleg. Yn eithaf buan yn fy ngyrfa, fe ddysgais am ddefnyddio data i lywio sut ydym ni’n gwneud penderfyniadau am ofal cleifion. Felly, es I ati i astudio gradd meistr mewn ystadegau meddygol a PhD mewn epidemioleg a dysgu fy mod i wir yn mwynhau deall sut y gallwn ni ddefnyddio data i lywio’r penderfyniadau a wnawn am y ffordd orau i ddarparu gofal ac I sicrhau bod y feddygaeth yr ydym ni’n ei harfer yn seiliedig ar dystiolaeth ystyrlon.
Roedd edrych ar lawer o bobl, a’u cymharu, yn fath o grefft arloesol a ddatblygwyd yma yng Nghaerdydd gan unigolion megis Archie Cochrane a Peter Elwood gyda charfan Caerffili. Roeddent yn ddarnau eithaf diffiniol o ymchwil ar y pryd. Eglurwch ragor wrthyf am sut mae’r synnwyr o ddefnyddio’r hyn a welwch mewn poblogaethau i brofi tystiolaeth wir wedi trawsnewid meddygaeth.
Mae llawer o enghreifftiau o hynny, o waith cynnar Syr Richard Doll, a edrychodd ar effeithiau ysmygu, I astudiaeth Caerffili lle’r oedd yr Athro Peter Elwood yn dangos, drwy lynu at y pum ymddygiad iach, gallwch leihau eich risg o ddatblygu dementia. Ac mae hwnnw’n ddarn pwerus o wybodaeth mewn gwirionedd, yn arbennig wrth ei gymharu a data o Adroddiad Prif Swyddog Meddygol Cymru sy’n dangos mai cyfran fach iawn o bobl, tua 3% fwy na thebyg, sy’n llwyddo I gyflawni pob un o’r pum ymddygiad iach.
Felly rydych chi’n edrych ar lu o bobl ac yn gofyn cwestiynau. Allwch chi egluro i mi y math o gwestiynau rydych chi bellach yn gallu eu holi na fyddech chi efallai wedi gallu eu holi o’r blaen?
Bellach gallwn holi cwestiynau a fydd yn ein helpu i ddarganfod pethau fel pam mae rhai pobl o fath penodol o ardal yn cael canlyniadau iechyd gwaeth neu fwy o dderbyniadau ysbyty nag eraill – beth yw’r ffactorau cyd-destunol sy’n dylanwadu ar y gwahaniaethau hyn. Ac fe allwn ni nawr edrych ar sut y gall amryw ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol yn ystod bywyd egluro’r gwahaniaethau hyn, gan ymchwilio i’w heffaith ar ganlyniadau’r dyfodol.
Efallai bod rhai wedi gweld yr hysbysebion ar y teledu ac efallai y bydd rhai wedi darllen am Doeth am Iechyd Cymru, yn gwahodd pobl i gymryd rhan yn y prosiect mawr hwn, sydd a’r nod, i’w roi yn syml, o wella iechyd y genedl. Sut fyddech chi yn ei ddisgrifio?
Mae’n gyfle gwych i gymryd rhan mewn rhywbeth a fydd yn cyfrannu at iechyd y genedl. Beth mae hynny’n ei olygu yw cymryd rhan mewn prosiect ymchwil mawr lle bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio i ateb y cwestiynau pwysig hynny y mae’r GIG angen atebion iddynt, er mwyn cynllunio ei wasanaeth ar gyfer y dyfodol. Ac mae’r wybodaeth a gesglir hefyd yn caniatau I wyddonwyr ddatblygu gwell triniaethau sydd wedi’u targedu’n well.
O ran ei faint a’i uchelgais, a yw’n unigryw?
Mae astudiaethau mawr fel hyn yn y Deyrnas Unedig, ond yr hyn sy’n wirioneddol unigryw am hon yw ein bod yn edrych ar grŵp oedran iau, sy’n rhoi’r cyfle i ni ganolbwyntio mwy ar atal. Gan ein bod ni’n casglu data o oed cynharach ac yn dilyn hynny i fyny, gallwn ddechrau dysgu o ddifrif beth sy’n digwydd cyn i glefyd ddatblygu. Hefyd, mae cymariaethau ar raddfa fawr ar lefel y boblogaeth yn bwerus iawn ac yn darparu llawer o wybodaeth er mwyn gallu cynllunio gwasanaethau gofal iechyd.
Pwy fydd yn awgrymu cwestiynau?
Y gymuned ymchwil sydd wedi bod yn holi cwestiynau yn bennaf, ond mae cynnwys y cyhoedd yn rhan ganolog o’r prosiect. Mae gennym ni Fwrdd Cyflawni Cyhoeddus hefyd, ac rydym ni’n cydweithio â nhw i ddatblygu cyfleoedd i’r cyhoedd gydweithio ag ymchwilwyr i awgrymu eu cwestiynau ymchwil eu hunain, a blaenoriaethu’r gwaith sy’n cael ei gynnal drwy Doeth am Iechyd Cymru.
Beth yw eich uchelgais ar gyfer y prosiect?
Os ydym ni’n cyrraedd y targed o 260,000, credaf y bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r boblogaeth gyffredinol yng Nghymru gan ein bod yn gwybod bod pobl sy’n cymryd rhan yn ein hastudiaethau ymchwil yn profi gwell iechyd a gwell canlyniadau, dim ond drwy gymryd rhan. Credaf y gall wneud gwahaniaeth i’r boblogaeth ar lawer o lefelau, gan olygu bod y cyhoedd yn fwy gwybodus a’u bod yn meithrin gwell dealltwriaeth o ymchwil a sut y gallant gyfrannu at wneud pethau’n well yn y dyfodol.
Bydd hefyd yn gwneud Cymru yn lle gwych i ddod a chynnal ymchwil a gwneud newid mawr i’n gallu i ddeall sut i atal a gwella canlyniadau ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd yn ymwneud a gwneud arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn rhan o’n diwylliant, gan roi llwyfan ar waith i sicrhau proses werthuso symlach, ac yna throsi hynny’n bolisi, yn hytrach na gorfod gosod pob astudiaeth bob tro.
Beth yw eich camau nesaf?
Ar y funud, mae gennym ni ymgyrch yn mynd rhagddi yn y cyfryngau, felly mae ein ffocws ar recriwtio a gwneud yn siŵr ein bod ni’n manteisio ar bob cyfle posibl. Er enghraifft, rydym ni’n hyfforddi nyrsys y GIG fel eu bod yn wybodus am y prosiect ac yn gallu sôn am y taflenni gyda chleifion. Rydym ni hefyd yn parhau i ddatblygu holiaduron newydd i sicrhau perthnasedd ac ansawdd yr wybodaeth a gesglir ar gyfer astudiaethau gwyddonol.
Darllenwch y cyfweliad llawn
Fersiwn fyrrach yw hon o'r cyfweliad llawn a oedd yn rhifyn haf 2017 o Herio Caerdydd, ein cylchgrawn ymchwil.
Welsh - Challenge Cardiff Summer 2017
Chweched rhifyn ein cylchgrawn ymchwil, sy’n rhoi gwybodaeth am effaith ein gwaith ymchwil.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.