Ewch i’r prif gynnwys

Gwenyn ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn archfygiau

Yr Athro Les Baillie
Yr Athro Les Baillie

Mae gwenyn yn hanfodol i barhad ein planed, ac eto mae eu niferoedd wedi gostwng yn sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Mae pobl yn cael eu hannog i blannu amrywiaeth o flodau gwyllt, boed hynny yn eu gerddi cefn neu mewn mannau mwy anarferol fel toeau adeiladau concrit mewn trefi, gan sicrhau nad yw niferoedd gwenyn yn edwino ymhellach ac fel ein bod yn creu amgylchedd trefol dymunol i fyw ynddo.

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn chwarae eu rhan. Maent yn gwneud hyn nid yn unig i hybu twf y boblogaeth wenyn, ond drwy blannu blodau gwyllt penodol y mae eu neithdar i’w gael mewn mel gwrthfacteria, maent yn gobeithio dod o hyd i atebion i un o heriau mawr y byd, ymwrthedd i gyffuriau.

Mae’r Athro Les Baillie a’i dim yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol y Brifysgol yn defnyddio mêl er mwyn ceisio dod o hyd I gyffuriau newydd i drin heintiau mewn ysbytai a achosir gan archfygiau sy’n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau fel MRSA a Clostridium difficile.

Mae tim yr Athro Baillie hefyd yn gweithio gyda nifer o bartneriaid gan gynnwys Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Canolfan Siopa Dewi Sant, Pollen8 Cymru, Canolfannau Garddio Wyevale, Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Caerdydd a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y DU, ac ysgolion ar draws Caerdydd i blannu blodau cyfeillgar i wenyn mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws de Cymru.

Wrth weithio gyda Phrosiect Porth Cymunedol y Brifysgol yn ardal Grangetown y ddinas, mae’r Athro Baillie a’i dim wedi plannu blodau cyfeillgar i wenyn ar dir Pafiliwn Grange, hen bafiliwn a llain fowlio segur.

https://www.youtube.com/watch?v=tQctVn4QQQU

Ar fore oer ac iach ym mis Tachwedd, cyfarfu’r disgyblion o’r ysgol leol, Ysgol Gynradd Grangetown, a’r Athro Baillie yn y Pafiliwn I gael gwybod rhagor am pam mae gwenyn mor bwysig a hefyd i’w holi am ei waith ymchwil.

Roedd yr Athro Baillie wedi dod a chwch gwag gydag ef i ddangos i’r plant sut roedd yn gweithio, ysmygwyr, a rhai siwtiau gwenyna i’r plant eu gwisgo.

Dechreuodd drwy ddangos i’r plant sut roedd y cwch wedi gweithio a beth roedd y gwenyn yn ei wneud i gynhyrchu mêl. Roedd y plant yn poeni a fyddai gwenyn yn goroesi yn y dyfodol a buon nhw’n holi’r Athro Baillie am anhwylder difa nythfeydd, effaith plaladdwyr ac a oedd posibilrwydd y gallai gwenyn ddarfod.

“Does neb yn gwybod beth sy’n achosi’r anhwylder difa nythfeydd. Mae rhai pobl yn meddwl ei fod yn cael ei achosi gan blaladdwyr. Rydym yn defnyddio’r rhain i gael gwared ar y pryfed nad ydyn ni eu heisiau (ond mae angen gwenyn arnon ni). Mae’r cyfansoddion sy’n cael eu defnyddio i drin y pryfed gwael hefyd yn gallu effeithio ar y rhai da. Maen nhw’n effeithio ar system nerfol y wenynen a’i synnwyr cyfeiriad. Mae’n rhaid I wenynen ddod o hyd i’w ffordd yn ol i’w chwch. Rydyn ni’n credu bod y plaladdwyr y mae ffermwyr yn eu defnyddio i drin eu cnydau yn lladd gwenyn. Bu gostyngiad o 60% yn nifer y gwenyn yn yr 20 mlynedd diwethaf. Mae angen inni gynyddu nifer y bobl s ’n dod yn wenynwyr neu annog pobl i dyfu planhigion a fydd yn hybu’r gwenyn.

“Gobeithio na fydd gwenyn yn darfod gan fod angen gwenyn ar fwyafrif y cnydau sy’n cynhyrchu ein bwyd. Mae’r gwenyn yn lledaenu paill o’r naill blanhigyn i’r llall a heb hynny fydd gennym ni ddim bwyd, felly maen nhw’n bwysig iawn i ni.”

“Rhan o’r hyn rydyn ni am ei wneud yn y Brifysgol yw dod o hyd i wrthfiotigau newydd... Rydyn ni’n edrych ar y mêl ac yn ceisio gweld beth mae’n ei wneud a’I ddeall yn well.”

Yr Athro Les Baillie Professor of Microbiology

Roedd y plant yn awyddus i ddarganfod sut mae mêl yn helpu yn y frwydr yn erbyn heintiau gwrthfacterol. Roedd un o’r plant wedi cael profiad uniongyrchol o hyn a soniodd wrth yr Athro Baillie, pan oedd ganddi lyfelyn ar ei llygaid, sut roedd ei mam wedi rhoi mel arno i drin yr haint yn llwyddiannus.

“Mae mêl wedi cael ei ddefnyddio ers miloedd o flynyddoedd mewn llawer o rannau gwahanol o’r byd i drin pethau fel dolur gwddf, clwyfau a heintiau, oherwydd y cyfansoddion yn y mel sy’n lladd bacteria. Roedd yr Eifftiaid yn ei ddefnyddio 4,000 o flynyddoedd yn ol.

“Rhan o’r hyn rydym eisiau ei wneud yn y Brifysgol yw dod o hyd i wrthfiotigau newydd. Os byddwch yn sal gyda chlefyd sy’n cael ei achosi gan organeb, rydych chi’n cymryd cyffuriau i’ch gwella. Y broblem yw bod yr holl gyffuriau hynny i gyd yn cael eu gorddefnyddio, mae pobl yn eu trin eu hunain ac mae’r bacteria’n dod yn glyfar a nawr dydyn nhw ddim yn gallu cael eu lladd gan y cyffur. Mae hyn yn golygu bod angen inni ddod o hyd I gyffuriau newydd.

“Er enghraifft, mae pobl yng Nghaerdydd sydd a diddordeb mewn trin clwyfau; mae gennych haint ar gefn eich llaw, rydych chi’n rhoi mêl arno ac mae’n gwella. Mae diddordeb gennym yn y wyddoniaeth y tu ol i hynny. Rydyn ni’n edrych ar y mel ac yn ceisio gweld beth mae’n ei wneud a’i ddeall yn well,” eglurodd yr Athro Baillie.

Yn olaf, gofynnodd y plant pa blanhigion oedd yn gyfrifol am gynhyrchu’r mêl gwrthfacterol y mae’r Athro Baillie a’i dim yn gweithio arno.

Wrth weithio gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru rydym wedi canfod y mathau o flodau y mae eu neithdar yn cynnwys y cyfansoddion gwrthfacterol a welson ni mewn mêl.

Yr Athro Les Baillie Professor of Microbiology

“Wrth weithio gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru rydym wedi canfod y mathau o flodau y mae eu neithdar yn cynnwys y cyfansoddion gwrthfacterol a welson ni mewn mêl. Fel rhan o’r ymchwil a wnaeth Dr Jenny Hawkins, dadansoddon ni 250 sampl o fel wedi’u rhoi gan wenynwyr o bob rhan o Gymru. O’r casgliad hwn canolbwyntion ni ar 20 sampl a llwyddon ni i adnabod y planhigion yr oedd y gwenyn wedi ymweld a nhw drwy ddilyniannu DNA paill planhigion penodol a oedd wedi’u cynnwys yn y mêl.

“Er enghraifft, roedd cyfansoddion gwrthfacterol yn y mêl a gynhyrchwyd yng ngardd gefn gwenynwr o’r Tywyn yng Ngwynedd a laddodd amrywiaeth o ficro-organebau gan gynnwys MRSA.

“Wrth ddefnyddio’r wybodaeth hon rydyn ni’n ceisio ail-greu’r mêl gwrthfacterol hwn drwy dyfu planhigion Tywyn ar gampws Cathays y Brifysgol ac ar safleoedd ledled Caerdydd. Yn ogystal a’r plannu hwn sydd wedi’i dargedu, rydym hefyd wedi gosod cychod gwenyn ar doeau nifer o adeiladau’r Brifysgol ac yn gweithio tuag at greu’r Brifysgol gyntaf yng Nghymru sy’n gyfeillgar i wenyn.”

Cysylltwch â ni

Twitter logo

@pharmabees

Cyfrif Twitter swyddogol y gwenyn sy’n byw ar do Adeilad Redwood. Helpu gwyddonwyr i ddarganfod cyffuriau newydd ers 2014.

Darllenwch y cyfweliad llawn

Fersiwn fyrrach yw hon o'r cyfweliad llawn a oedd yn rhifyn gaeaf 2016 o Herio Caerdydd, ein cylchgrawn ymchwil.

Welsh - Challenge Cardiff Winter 2016

Pumed rhifyn ein cylchgrawn ymchwil, sy’n rhoi gwybodaeth am yr effaith y mae ein gwaith ymchwil yn ei chael.

Yr ymchwilydd

Yr Athro Les Baillie

Yr Athro Les Baillie

Professor of Microbiology

Email
bailliel@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5535

Ysgol Academaidd

Pharmacy pipettes

Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd

Ni yw un o ysgolion Fferylliaeth gorau’r DU gydag enw da yn rhyngwladol am safon ein hymchwil.