Ewch i’r prif gynnwys

Datgelu rhwystrau at redeg

Photograph of Ali Abdi and Liba Sheeran

Mewn oes lle mae iechyd y genedl dan y chwyddwydr yn gyson, mae rhedeg wedi datblygu’n ffordd boblogaidd i ddod yn ffit ac yn iach. Yn ystod Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd y llynedd, bu ymchwilwyr ac arbenigwyr clinigol o’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn ymchwilio i beth sy’n cymell pobl i redeg, a beth yw’r rhwystrau at ymarfer corff.

Gwahoddwyd grŵp o redwyr dibrofiad i gymryd rhan mewn dau arolwg, un cyn y ras ac un chwe mis yn ddiweddarach.

Bu’r rhedwr dibrofiad Ali Abdi yn cymryd rhan yn Hanner Marathon y Byd ac ers hynny mae wedi sefydlu grŵp rhedeg yn Grangetown, Caerdydd, fel rhan o brosiect ymgysylltu Prifysgol Caerdydd. Bu’n siarad a Dr Liba Sheeran a arweiniodd yr ymchwil, i ddysgu mwy am y prosiect a sut mae’r canfyddiadau’n cael eu defnyddio.

AA: Soniwch sut y daethoch chi i ymwneud a’r ymchwil gyda rhedwyr dibrofiad ym Mhencampwriaeth Hanner Marathon y Byd Prifysgol Caerdydd?

LS: Mae gan ein Hysgol gysylltiad ers tro gyda Hanner Marathon Caerdydd drwy ddarparu therapi meinwe meddal a thylino i’r rhedwyr, gan ddefnyddio ein myfyrwyr ffisiotherapi dan oruchwyliaeth y darlithwyr a chlinigwyr ffisiotherapi. Noddodd Prifysgol Caerdydd Hanner Marathon y Byd a chysylltodd y tim Cyfathrebu a Marchnata a ni am gyfleoedd ymchwil posibl.

Roedd hwn yn gyfle gwych i edrych ar rai o’r cwestiynau mwy perthnasol am weithgaredd corfforol a sut i ddenu pobl i ymarfer corff. Fel ffisiotherapyddion rydyn ni’n canfod fod pobl yn cael eu cymell i fod yn weithredol yn gorfforol, ond bod anafiadau yn eu llesteirio’n aml. Roedden ni am edrych sut y byddai ffyrdd gwahanol o’u helpu i atal eu hanafiadau yn effeithio ar eu lefelau cyfranogi mewn gweithgaredd ffisegol tymor hir

Pam ddewisoch chi wneud yr ymchwil penodol hwn? Beth oedd yn eich cyffroi chi amdano?

Rwyf i’n rhedwr. Y rheswm am hyn yw am fod rhedeg yn hygyrch, yn gymharol rad ac yn cyd-fynd yn hawdd iawn a bywydau pobl. Mae’n ffordd wych i gadw’n ffit yn gorfforol ac yn gryf yn feddyliol. Fel ffisiotherapyddion, rydym ni’n profi’n uniongyrchol bod dechrau rhedeg yn amlygu pobl i drafferthion a allai eu rhoi mewn perygl o anaf a’u rhwystro rhag rhedeg. Roedden ni am wybod a yw hwn ddim ond yn rhywbeth rydym ni’n ei weld fel clinigwyr ynteu a yw anaf yn rhwystr gwirioneddol i ddod yn weithredol yn gorfforol wrth hyfforddi a rhedeg hanner marathon yn y pen draw.

Fi oedd un o’r rhedwyr dibrofiad. Pa fath o gwestiynau oeddech chi’n eu holi, a beth arall wnaethoch chi gyda nhw?

Gofynnon ni iddyn nhw am eu profiad rhedeg blaenorol a faint o redeg yr oeddent wedi'i wneud cyn cofrestru ar gyfer Hanner Marathon y Byd Prifysgol Caerdydd. Holon ni hefyd am unrhyw bryderon oedd ganddyn nhw am hyfforddi, rhwystrau posibl roedden nhw’n eu hwynebu, a beth fyddai’n eu galluogi i barhau i ymarfer a chymryd rhan yn yr hyfforddiant.

Gofynnon ni hefyd iddyn nhw am bethau a allai eu helpu wrth hyfforddi, fel apiau, a pha gyngor fyddai’n ddefnyddiol iddyn nhw. Datblygon ni weithdai atal anafiadau oedd yn gadael i bobl ddod o hyd i ffyrdd i atal anafiadau, fel strategaethau cynhesu, ymestyn, symudedd ac ymarferion cryfder i redeg. Ategwyd hyn gan fideos ar-lein am ddim yr oedd pobl yn gallu eu defnyddio.

Beth oedd prif ganfyddiadau eich ymchwil ac oedd unrhyw beth yn eich synnu?

Y prif ganfyddiad oedd bod y digwyddiadau mawr hyn yn cymell pobl i fod yn symudol ac o’r arolwg dilynol ar ôl chwe mis, maen nhw’n parhau i ymarfer. Dywedodd y mwyafrif helaeth o’r rhedwyr fod defnyddio apiau monitro rhedeg neu gadw dyddiadur hyfforddi yn strategaethau defnyddiol ar gyfer parhau i redeg.

Gwelon ni hefyd fod bywydau prysur pobl yn aml yn cael eu gweld fel rhwystr at ymarfer. Rhywbeth arall oedd yn troi pobl i ffwrdd oedd diogelwch ffyrdd a rhedeg ar eu pen eu hun.

Dr Liba Sheeran Darllennydd: Ffisiotherapi

I ni fel ffisiotherapyddion, roedd y data am anafiadau’n bwysig iawn. Gwelon ni fod anafiadau’n bryder mawr i’r rheini sy’n dechrau cymryd rhan mewn ymarfer rheolaidd. I saith allan o ddeg person roedd hyn yn llesteirio eu patrwm hyfforddi. Llwyddodd gweithdai atal anafiadau hefyd i leihau’n sylweddol y cyfraddau hunanadrodd am anafiadau ar ôl y chwe mis. Roedd y rheini oedd yn defnyddio’r gweithdai’n dysgu rhywbeth a’u galluogodd i barhau’n weithredol yn gorfforol heb i anaf amharu ar eu cynnydd.

Rwyf i wedi helpu i sefydlu grŵp rhedeg anffurfiol yn Grangetown yn dilyn fy ngwaith gyda’r Hanner Marathon, fel gwaddol i’r rhedwyr dibrofiad hynny. Pa gyngor fedrwch chi ei roi i’r rhedwyr?

Rwy’n credu i’r rhedwyr ei fod yn ymwneud â datblygu’n raddol - derbyn bod poen hyfforddi a mân broblemau sy’n codi weithiau’n rhesymegol ac ond i’w disgwyl wrth redeg. Os oes rhywbeth yn ymddangos dro ar ôl tro serch hynny, fel straen i groth y goes er enghraifft, gallai fod angen sylw. Dyw hynny ddim o reidrwydd yn gorfod bod yn ymyrraeth ffisiotherapi costus ond yn gyngor cyffyrddiad ysgafn ar wella ac chymryd amser i ganiatáu i’r strwythurau sydd wedi’u gorlwytho wella ac ategu hyn gydag ymarferion ymestyn a symudedd priodol i wella symud a rhannu’r llwyth. Yn aml gall pethau bach fel amseru’r hyfforddiant wneud gwahaniaeth mawr i wella a gallu hyfforddi a chadw’n weithredol.

Diolch, mae hynny’n ddefnyddiol iawn. Beth ydych chi’n gobeithio fydd yn digwydd nawr? Ydych chi’n meddwl y bydd trefnwyr rasys torfol yn defnyddio canfyddiadau eich ymchwil i ddenu amrywiaeth ehangach o redwyr?

Rydyn ni eisoes wedi trafod gydag arweinwyr Athletwyr Cymru a Rhedeg Cymru oedd a diddordeb mawr yn ein hymchwil. Mae’r cyrff hyn eisoes yn cymryd rhan mewn mentrau a chynlluniau amrywiol yn unol â’n canfyddiadau ymchwil. Maen nhw’n helpu pobl i fod yn weithredol yn gorfforol mewn amgylcheddau llai cystadleuol. Mae Rhedeg Cymru er enghraifft wedi sefydlu rhaglenni grwpiau rhedeg cymdeithasol mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd yn ne Cymru.


Yn dilyn ein canfyddiadau ymchwil, rydyn ni wedi ymuno ag Athletau Cymru ac wedi cyflwyno cais i gynllun Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) a gyllidir gan Lywodraeth Cymru a’r UE am ysgoloriaeth
PhD mewn prosiect â’r teitl: Running in the Valleys: It is all downhill from here! a’r bwriad yw gwreiddio ein gweithdai atal anafiadau yng ngrwpiau rhedeg cymdeithasol de Cymru a gwerthuso’r effaith ar gyfraddau cyfranogi mewn gweithgaredd ffisegol a chanlyniadau iechyd tymor hir.

Darllenwch y cyfweliad llawn

Fersiwn fyrrach yw hon o'r cyfweliad llawn a oedd yn rhifyn haf 2017 o Herio Caerdydd, ein cylchgrawn ymchwil.

Welsh - Challenge Cardiff Summer 2017

Chweched rhifyn ein cylchgrawn ymchwil, sy’n rhoi gwybodaeth am effaith ein gwaith ymchwil.

Yr ymchwilydd

Dr Liba Sheeran

Dr Liba Sheeran

Darllennydd: Ffisiotherapi

Email
sheeranl@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 206 87757

Ysgol Academaidd

Healthcare Hero Campaign

Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Rydym yn ddeinamig, yn arloesol ac yn edrych tua’r dyfodol, ac yn cael ein cydnabod am ein rhagoriaeth o ran dysgu, addysgu ac ymchwil.