Ton newydd o seryddiaeth
Fel y dywedodd Syr Isaac Newton, “Os wyf wedi gweld ymhellach, gwnes hynny drwy sefyll ar ysgwyddau cewri.”
Roedd y geiriau teimladwy hyn yn cyfeirio at y cyd-ymdrech sy'n sail i ymdrechion gwyddonol, felly roedd yn briodol ddydd Llun 14 Medi 2015 fod dros 1000 o wyddonwyr o 16 o wledydd yn gweithio ar y cyd wedi gosod darn olaf y jig-so at ein dealltwriaeth bresennol o ddisgyrchiant – damcaniaeth a gyflwynwyd yn wreiddiol gan Newton.
Am 9:51 am GMT y bore Llun hwnnw, canfu'r prosiect cydweithredol, a elwir yn LIGO (Laser Interferometer Gravitational-wave Observatory), don ddisgyrchiant am y tro cyntaf.
Roedd goblygiadau difrifol i hyn. Nid yn unig roedd y darganfyddiad yn cadarnhau'r rhagfynegiad allweddol a wnaed gan Albert Einstein – arloeswr arall ym maes ffiseg disgyrchiant – union 100 mlynedd yn ôl, ond roedd yn sbardun ar gyfer dechrau cyfnod newydd sbon o Seryddiaeth.
Disgrifir tonnau disgyrchiant fel crychdonnau'n bach mewn gofod-amser a gaiff eu hallyrru o ganlyniad i ddigwyddiadau cosmig grymus yn y bydysawd, gan roi cadarnhad terfynol i ddamcaniaeth ryfeddol Einstein am berthynoledd cyffredinol, a bydd yn caniatáu i wyddonwyr arsylwi sêr, galaethau a gwrthrychau mwy egsotig y bydysawd mewn ffyrdd na fu'n bosibl erioed o'r blaen.
Fyddai'r darganfyddiad ddim yn bosibl heb gyfraniad allweddol gwyddonwyr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd. Helpodd eu gwybodaeth a'u harbenigedd nhw y gwyddonwyr i ganfod y signal o blith cacoffoni twrw'r sˆwn cefndir a dehongli ymhle yn y bydysawd, yn ogystal â'r union amser, yr allyrrwyd y tonnau disgyrchiant.
Ers ffurfio prosiect cydweithredol LIGO dros Mae'r Athro B.S. Sathyaprakash o Brifysgol Caerdydd, sydd yn rhan o'r Grˆwp Ffiseg Disgyrchiant (gweler tudalen 13), wedi bod yn astudio ffynonellau tonnau disgyrchiant a datblygu ffyrdd i'w darganfod.
Mae darganfyddiad yr Athro Sathyaprakash a gweddill tîm y prosiect cydweithredol wedi'i ganmol fel un o ddarganfyddiadau gwyddonol mwyaf y degawd, datganiad a adleisiwyd gan yr Arglwydd Martin Rees, y Seryddwr Brenhinol.
Yr Arglwydd Rees yw un o astroffisegwyr mwyaf blaenllaw y byd yn ogystal â bod yn unigolyn pwysig ym maes gwyddoniaeth yn y DU, ac mae'n ymwybodol iawn o arwyddocâd y darganfyddiad nodedig hwn. Mae wedi
gwneud gwaith damcaniaethol dylanwadol ar bynciau mor amrywiol â ffurfio tyllau du a ffynonellau radio all-alaethol, ac roedd yn un o'r cyntaf i ragweld dosbarthiad anghyfartal mater yn y bydysawd.
Bu'r Arglwydd Rees yn holi'r Athro Sathyaprakash am hanes tonnau disgyrchiant, yr ymdrechion i'w darganfod, a'r goblygiadau ar gyfer maes seryddiaeth nawr eu bod wedi'u darganfod o'r diwedd. Darllenwch y fersiwn lawn yn rhifyn haf 2016 o Herio Caerdydd, ein cylchgrawn ymchwil.
Welsh - Challenge Cardiff Summer 2016
Y pedwerydd rhifyn o'n cylchgrawn ymchwil, sy'n darparu mewnwelediad i effaith ein hymchwil.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Yr ymchwilydd
Yr Athro Bangalore S Sathyaprakash
Gravity Exploration Institute
- b.sathyaprakash@astro.cf.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6962
Y Grŵp Ffiseg Disgyrchiant
Dros y degawd diwethaf, mae’r Grŵp Ffiseg Disgyrchiant ym Mhrifysgol Caerdydd wedi gosod y sylfeini ar gyfer mynd ati i ddarganfod crychdonnau disgyrchiant, datblygu algorithmau a meddalwedd newydd sydd, erbyn hyn, yn offer safonol ar gyfer chwilio am signalau anodd eu cyrraedd.
Mae'r grŵp hefyd yn cynnwys arbenigwyr o'r radd flaenaf mewn gwrthdrawiadau tyllau du, sydd wedi creu efelychiadau cyfrifiadurol ar raddfa fawr i ddynwared y digwyddiadau cosmig treisgar hyn a darogan sut mae tonnau disgyrchiant yn cael eu gollwng o ganlyniad iddynt. Roedd y cyfrifiadau hyn yn hollbwysig wrth ddatgodio signal y don disgyrchiant a ganfuwyd gan LIGO a mesur priodweddau'r ddau dwll du a fu yn y gwrthdrawiad.
Ynghyd â’r Athro Sathyaprakash, mae'r grŵp yn cynnwys yr Athro Mark Hannam, yr Athro Bernard Schutz, Dr Stephen Fairhurst a Dr Patrick Sutton.