Defnyddio mathemateg i achub bywydau
Mae ein modelau mathemategol newydd yn lleihau amseroedd aros mewn ysbytai er mwyn achub bywydau.
Ceisiodd ymchwilwyr adeiladu a datblygu modelau mathemategol newydd i fynd i'r afael â'r rhesymau cymhleth dros oedi ar wardiau ysbytai, lleihau amseroedd aros ac arbed bywydau yn y pen draw.
Rhoi mathemateg wrth wraidd meddygaeth
Aeth y tîm o'r Ysgol Mathemateg, o dan arweiniad yr Athrawon Jeff Griffiths a Paul Harper, ati i gyflwyno gwelliannau sy'n achub bywydau mewn systemau gofal iechyd. Creodd y tîm fodelau mathemategol newydd a'u defnyddio mewn systemau iechyd yng Nghymru a Lloegr, gan wella amrywiaeth eang o wasanaethau drwy astudio ciwiau a llif cleifion. Adeiladwyd model enghreifftiol yn Ysbyty Athrofaol Cymru i astudio llif cleifion drwy'r Uned Damweiniau ac Achosion Brys. Yn ne Llundain, cafodd gwaith y tîm effaith amlwg ar leihau nifer y marwolaethau ymhlith cleifion oedd wedi cael strôc. Llwyddodd yr ymchwil i greu arbedion effeithlonrwydd net hefyd yn ogystal â gwell defnydd o adnoddau mewn dau ysbyty yn ne Cymru.
Effaith sy’n achub bywydau
Helpodd yr ymchwil i arbed bywydau a lleihau costau. Roedd y modelau o gymorth wrth gynllunio adnoddau, cwtogi ar amseroedd aros a gwella effeithlonrwydd mewn Canolfan Trawma o Bwys newydd a'r Uned Strôc Uwch-Acíwt yn Ysbyty St George yn ne Llundain.
Helpodd y modelu yn yr uned uwch-acíwt i leihau 60% ar farwolaethau ymhlith cleifion strôc. Cafodd yr uned newydd a'r gwasanaeth gofal strôc eu henwi fel y gorau yn y wlad yn Archwiliad Cenedlaethol Sentinel 2010 gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr.
Gwnaethpwyd arbedion effeithlonrwydd net o £1.6m y flwyddyn yn yr adran achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Mae gofal i gleifion ac adnoddau ysbyty hefyd wedi gwella'n sylweddol yn Ysbyty Rookwood – canolfan adsefydlu niwrolegol o bwys yn ne Cymru.
Dyma’n harbenigwyr
Yr Athro Jeff Griffiths
Honorary Distinguished Research Professor
- griffiths@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4202
Yr Athro Paul Harper
Deputy Head of School, Professor of Operational Research
- harper@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6841