Ewch i’r prif gynnwys

Cyn dechrau ei hastudiaethau ôl-raddedig, treuliodd yr Athro Rowden flwyddyn ym Mharis yn au pair i ddau ganwr proffesiynol. Yno datblygodd ddiddordeb mewn opera Ffrengig, a byddai hyn yn dylanwadu ar ei gyrfa maes o law. Pwnc ei thraethawd doethuriaeth oedd Massenet (cyfansoddwr o’r un cyfnod â Bizet), ac fe’i hystyrir bellach yn awdurdod blaenllaw ar opera a Ffrainc y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mynd yn ôl at y perfformiad gwreiddiol: sgôr newydd

Perfformiwyd Carmen gan Bizet am y tro cyntaf ym Mharis ym 1875. Cafodd dderbyniad digon simsan ym Mharis cyn dod yn un o operâu mwyaf y byd. Lleolir yr opera yn Seville ac mae'n adrodd hanes Carmen, merch ifanc, annibynnol sy'n syrthio mewn cariad â milwr a chanddo gryn dymer, Don José. Oherwydd ffordd o fyw Carmen ar gyrion cymdeithas, mae José yn ymuno â’r smyglwyr (er ei fod braidd yn anfodlon ynghylch hynny). Pan ddywed Carmen, yn ddiweddarach, nad yw’n ei garu bellach, fodd bynnag, mae José yn ymateb yn dreisgar gan ei llofruddio y tu allan i gylch y teirw lle mae buddugoliaethau ei chariad newydd, y toreador Escamillo, yn atseinio.

Dywedodd yr Athro Rowden, “Carmen yw opera Ffrengig eiconig y cyfnod hwnnw, yr un sy'n cael ei pherfformio amlaf. Ysgrifennodd Bizet Carmen ar ffurf opéra-comique, a oedd yn cynnwys testun i’w siarad yn ogystal â’i ganu, ac, ar ôl ei farwolaeth, fe'i haddaswyd yn fersiwn i’w chanu’n llawn. Er bod llawer o addasiadau wedi bodoli dros y blynyddoedd, nid oes yr un ohonynt wedi atgynhyrchu sgôr y premiere ym Mharis.”

Ar gyfer yr argraffiad Urtext (gair Almaeneg yw Urtext sy’n golygu argraffiad sy’n ceisio adlewyrchu amcanion y cyfansoddwr mor agos â phosib) o sgôr llais perfformiad cyntaf Carmen, argraffiad a gyd-olygwyd gan yr Athro Rowden a'r Athro Richard Langham Smith, defnyddiwyd llawysgrifau, sgoriau perfformiadau, libretti a llawlyfrau llwyfannu o'r cynyrchiadau gwreiddiol ym Mharis. Eu nod oedd datblygu sgôr y gellid gweithio ohoni yn seiliedig ar y perfformiadau cyntaf ym Mharis; sgôr y gallai cyfarwyddwyr a gweithwyr proffesiynol creadigol ei defnyddio i lywio dehongliadau newydd o'r opera.

Wedi’i chyhoeddi gan Edition Peters, mae'r sgôr hon yn wahanol i eraill gan ei bod yn:

  • cyflwyno ‘opera: y perfformiad’ — mae'n cyfleu nid yn unig sut y cafodd yr opera ei pherfformio gyntaf ond hefyd sut y cafodd ei llwyfannu gyntaf
  • sgôr y gall cerddorion ei defnyddio — mae argraffiadau urtext ysgolheigaidd eraill, drwy gynnwys llawer iawn o ddeunydd nad yw fyth yn cael ei berfformio, yn swm rhy fawr o wybodaeth i ymarferwyr ei ddefnyddio wrth baratoi ac ymarfer cynhyrchiad
  • rhoi manylion o'r llawlyfrau llwyfannu gwreiddiol, yn cynnwys yr holl ddeialogau gwreiddiol, ac yn blaenoriaethu'r testun Ffrangeg a genid yn wreiddiol.

Dylanwadu ar gynyrchiadau opera

Dywedodd yr Athro Rowden, “Fe wnaethon ni sylweddoli bod gan gyfarwyddwyr opera, grwpiau perfformio a chantorion, ddiddordeb mewn darganfod beth roedden ni'n ei wneud gydag argraffiad Peters, beth oedd yn wahanol amdano a sut y gallai fod yn ddefnyddiol iddyn nhw.”

“Mae deialog Ffrangeg rhwng y darnau cerddorol yn y fersiwn gwreiddiol. Yng nghyd-destun opera rhyngwladol heddiw, mae cyfarwyddwyr a pherfformwyr yn ailfeddwl am y fformat hwn ar gyfer cynulleidfaoedd modern, yn tynnu’r ddeialog wreiddiol allan o’r testun, yn ei hailysgrifennu, neu'n defnyddio sefyllfaoedd a syniadau dramatig gwreiddiol yn ei lle. Trwy gyflwyno sgôr y gall timau creadigol ei defnyddio, sydd hefyd yn cynnwys llawer o wybodaeth - testun a chyfarwyddiadau llwyfannu gwreiddiol - mae gan gyfarwyddwyr ddogfen ag iddi awdurdod er mwyn gweithio oddi arni, ond mae hyn hefyd yn rhoi’r cyfle i ail-ddychmygu posibiliadau,” meddai.

Mae'r sgôr lleisiol wedi gwerthu dros 1,260 o gopïau ledled y byd ac fe'i defnyddiwyd ar gyfer o leiaf 67 o berfformiadau mewn chwe gwlad (Cymru, Lloegr, Ffrainc, yr Almaen, Gweriniaeth Tsiec a Singapôr).

Fe'i defnyddiwyd gan nifer o gwmnïau opera ledled y byd, gan gynnwys:

  • Opera Canolbarth Cymru (2014)
  • Cerddorfa Symffoni Singapore (2016 - cafwyd canmoliaeth i’r cynhyrchiad hwn yn The Straits Times am dynnu 'llawer o fanylion mewnol o'r sgôr [Peters] a oedd yn chwa o awyr iach o ran pa mor ddadlennol ydoedd')
  • Dartington International Summer School (2016)
  • Brno National Theatre (2016)
  • Opéra de Dijon (2019)
  • Oper Köln (2019/20)

Roedd disgwyl iddi gael ei defnyddio ar gyfer cynhyrchiad newydd Opéra-Comique Paris (y safle y perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf yn 1875) gyda Cherddorfa Symffoni Shanghai. Gohiriwyd y cynhyrchiad a oedd i fod i agor fis Medi 2020, fodd bynnag, oherwydd COVID-19.

Mewn arolwg yn 2019, oedd yn holi gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda chwmnïau opera ledled Ewrop, a wnaethant elwa o fformat a manylion cerddorol y sgôr, roedd yr adborth yn cynnwys sylwadau megis:

  • ‘Mae bob amser yn ddefnyddiol cael y libretto a'r ddeialog gyfan o fewn un sgôr, yn hytrach na gorfod cyfeirio at sawl copi. Mae'n helpu i ddeall y stori yn ddyfnach ac i weld datblygiad y cymeriadau a'r plot, yn enwedig yn y ddeialog.’
  • ‘Maen nhw [y nodiadau beirniadol] yn llawn gwybodaeth ac maen nhw'n rhoi rhagor o wybodaeth er mwyn archwilio gwahanol ffyrdd o fynd i’r afael â’r gerddoriaeth a'r testun.’
  • ‘Wrth ddysgu’r sgôr, roedd y manylion ynddi, a’r cerddoroldeb yn cyfateb yn berffaith, ac roedd hyn yn golygu bod ymarfer darnau yn gallu digwydd yn ddi-ffwdan. Yn ogystal, roedd y ffordd roedd y sgôr wedi’i gosod ar y ddalen yn cynorthwyo brawddegu a strwythur anadlu.’

Archwilio cyrhaeddiad byd-eang Carmen

Mae opera yn esblygu'n barhaus wrth iddi deithio ar draws ffiniau, cael ei chyfieithu a'i haddasu.

Yn 2017, daeth yr Athro Rowden ag 20 o ymchwilwyr rhyngwladol ynghyd (a thraean ohonynt yn Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa) mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Caerdydd sef Carmen Singer of the World, a hynny’n gysylltiedig â Chystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd gan y BBC. Bu hyn yn sail ar gyfer cyfrol wedi’i golygu sy’n nodi'r ffyrdd y mae Carmen wedi cael ei pherfformio, ei chynhyrchu, ei rhannu a'i dehongli ledled y byd.

Drwy astudio perfformiadau o'r opera ledled y byd dros gyfnod o saith deg mlynedd, nod Carmen Abroad yw herio'r rhagdybiaethau sy’n awgrymu bod perfformiadau y tu allan i Ewrop o rywbeth sydd, yn ei hanfod, yn gelfyddyd foeth Ewro-ganolog, mewn rhyw ffordd, yn eilradd neu heb fod yn wreiddiol. Wrth wneud hynny, mae'n ailfodelu hanes opera gan arddangos ei bod yn ffenomen ddiwylliannol fyd-eang.

Arweiniodd y gwaith hwn hefyd at wefan bwrpasol, a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Leverhulme, www.carmenabroad.org

Mae'r wefan ryngweithiol hon, sy'n ffurfio rhan o'r ddisgyblaeth sy'n dod i'r amlwg ym maes mapio cerddorol yn y dyniaethau digidol, yn olrhain hanes diwylliannol a pherfformio'r opera ledled y byd o'i première ym Mharis yn 1875 hyd at 1945.

Mae'r wefan wedi'i chynllunio ar gyfer cynulleidfa eang — gan gynnwys academyddion, ymarferwyr, myfyrwyr, a’r sawl sy’n hoff o fynd i wylio opera — gan gynnig ffyrdd newydd i gynulleidfaoedd ymgysylltu â hanes Carmen. Trwy’r map a'r llinell amser o bron i 1,000 o gynyrchiadau o Carmen, gall defnyddwyr lywio’u ffordd trwy berfformiadau, gan gyrchu data ynghylch perfformiadau mewn fformatau testun, gweledol a chlywedol. Roedd y wefan hefyd yn ymestyn cyrhaeddiad y prosiect (roedd y cydweithwyr gwreiddiol yn dod o'r DU, cyfandir Ewrop, Iwerddon, Japan, UDA ac Awstralia) wrth i academyddion ac arbenigwyr o bob cwr o'r byd — gan gynnwys Tsieina, Singapore a Gogledd Affrica — sicrhau bod eu data ymchwil ar gael yn rhwydd drwy'r safle.

Yn ôl yr Athro Rowden, “mae carmenabroad.org yn rhoi dealltwriaeth newydd i gynulleidfaoedd ac yn datgelu'r cyfoeth o greadigrwydd sy’n ganlyniad i adrodd y stori hon ar draws y byd.”

Cwrdd â'r ymchwilydd

Yr Athro Clair Rowden

Yr Athro Clair Rowden

Professor of Musicology

Email
rowdencs@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0462

Newyddion cysylltiedig

Dr Clair Rowden with two new publications Newyddion

Archwilio operâu

Mae Dr Clair Rowden wedi cyhoeddi dwy gyfrol newydd yn edrych ar hanes ehangach opera.

Illustrated map of Paris monuments Newyddion

Dyfarnwyd grant i ddatblygu map perfformio Carmen gan Bizet

Dyfarnwyd grant BA/Leverhulme o £10,000 i Dr Clair Rowden o'r Ysgol Cerddoriaeth i barhau ag ymchwil i berfformiadau byd-eang o Carmen gan Bizet.

Geraldine Farrar as Carmen with cast, New York 1914 Newyddion

Lansio archwiliad byd-eang o Carmen gan Bizet

Mae gwefan wedi'i lansio sy'n cofnodi hanes perfformio Carmen gan Bizet rhwng 1875 a 1945. Mae’n dilyn symudiadau a thrawsnewidiadau'r opera drwy amser ac amrywiol wledydd.

Cyhoeddiadau