Ewch i’r prif gynnwys

Pan darodd COVID-19, gan anfon y DU i gyfnod clo llawn, trodd miliynau ohonom at newyddion wedi’u darlledu er mwyn cael atebion.

Ond i ba raddau y bu i’r ddarpariaeth newyddion honno lwyddo i rannu’r wybodaeth yr oeddem ei hangen? Trodd ein hacademyddion eu sylw’n gyflym at ddadansoddi’r mynydd o straeon.

Fel yr esbonia’r Athro Stephen Cushion sydd wedi’i leoli yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, “Ym mis Mawrth 2020, roeddem yn profi digwyddiad hanesyddol enfawr. Ac yn y funud honno, trodd llawer o bobl at y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (Y BBC), gydag 20 miliwn o wylwyr yn tiwnio i mewn ar gyfer darllediadau rhwydwaith y BBC o gyhoeddiadau Llywodraeth y DU, yn ystod wythnos gyntaf y cyfnod clo.

“Roedd rôl newyddiadurwyr yn hanfodol wrth i bobl geisio gwneud synnwyr o’r datblygiadau diweddaraf. Nid oes amheuaeth bod newyddiadurwyr wedi gweithio’n ddi-baid er mwyn ateb y galw. Er hynny, roedd y newyddion roedden ni’n eu gwylio yn codi cwestiynau ynghylch pa mor effeithiol yr oedd newyddiadurwyr yn gwasanaethu holl wledydd y DU.”

Mae iechyd yn fater datganoledig yn y DU – sy’n golygu bod penderfyniadau a wneir yn Lloegr gan Lywodraeth y DU yn annibynnol i raddau helaeth ar yr hyn y mae llywodraethau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn dewis ei wneud.

“Yn ystod wythnosau cyntaf y pandemig, ni fyddai’r rhan fwyaf o bobl wedi gwybod mai cytundeb rhwng pedair gwlad oedd y cyfnod clo cyntaf,” meddai’r Athro Cushion. “Roedd y darllediadau newyddion o’r cyhoeddiadau cyntaf, pob un, yn canolbwyntio’n bennaf ar y prif weinidog a llywodraeth y DU.

“Wrth i’r wythnosau fynd heibio, ac wrth i bob gwlad yn y DU osod eu rheolau eu hunain, daeth y diffyg dealltwriaeth o ran y pwerau datganoledig hyn, i’r amlwg.

“Aeth pob llywodraeth ati i ddefnyddio dulliau gwahanol. Yr her i newyddiadurwyr oedd, sut i egluro hynny mewn ffordd glir a chryno er mwyn sicrhau bod negeseuon iechyd cyhoeddus sy’n unigryw i bob gwlad benodol, yn cael eu deall gan bob gwyliwr rhaglennu rhwydwaith – rhwydwaith sy’n cynrychioli’r DU gyfan.”

Arweiniad ymarferol

Roedd yr Athro Cushion a’i gydweithwyr mewn sefyllfa dda i archwilio’r materion hyn ar ôl pymtheg mlynedd o ymchwilio i’r rôl y mae darlledwyr yn ei chwarae wrth gyfathrebu datganoli.

Amlygodd eu hastudiaeth o newyddion teledu’r cyfnod clo ddiffyg eglurder ynghylch adrodd am wahanol gyfyngiadau covid ym mhob gwlad. Cyflwynwyd eu canfyddiadau i ymchwiliad ‘Future of Public Service Broadcasting Inquiry’ Adran Ddigidol – Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, Llywodraeth y DU. Fe’u cyflwynwyd hefyd i ymchwiliad Senedd Cymru ym mis Gorffennaf 2020 – ymchwiliad i effaith y pandemig ar newyddiaduraeth a’r cyfryngau lleol.

Ond yn bwysicach efallai, cafodd argraffiadau a chynghorion yr Athro Cushion eu bwydo’n uniongyrchol i ystafelloedd newyddion – drwy gysylltiadau hir sefydlog mae’r tîm, drwy eu gwaith, wedi’u meithrin â golygyddion. Buont yn ymgysylltu â darlledwyr amlycaf y DU yn ystod y pandemig: Newyddion y BBC (BBC News), ITV News, Channel 4 News, Channel 5 News a Sky News.

Er mwyn rhoi’r ddealltwriaeth orau o’r materion hyn i ystafelloedd newyddion oedd ac sydd yn brin o amser, cynhyrchwyd fideos byrion ar gyfer uwch-olygyddion darlledu, gydag argymhellion ar sut y gellid gwella’r adroddiadau.

“Mae newyddiadurwyr yn hynod o brysur, a does ganddyn nhw ddim yr amser a’r adnoddau i dreulio oriau yn edrych yn ôl ar yr hyn maen nhw wedi bod yn gweithio arno,” meddai’r Athro Cushion. “Felly, mae hyn am geisio dod o hyd i ffyrdd creadigol o ymgysylltu a rhannu gwybodaeth.”

“Mae cael perthynas waith hir sefydlog â newyddiadurwyr allweddol wedi caniatáu i’n tîm ymateb yn gyflym i’w hanghenion.

“Roedd ein cysylltiadau hir sefydledig ag ystafelloedd newyddion yn golygu ein bod yn barod i helpu cyn gynted ag y dechreuodd y pandemig – gellid dadlau mai hon yw’r stori fwyaf y mae’r genhedlaeth bresennol hon o newyddiadurwyr wedi gorfod adrodd arni.”

Y BBC dan y chwyddwydr

Roedd llawer o waith yr Athro Cushion cyn y pandemig wedi canolbwyntio ar y BBC – y darparwr mwyaf o ran darlledu newyddion yn y DU.

Ynghyd â’r Athro Justin Lewis, fe’i comisiynwyd gan Ymddiriedolaeth y BBC yn 2015 a 2016 i asesu a oedd BBC News yn adlewyrchu tirwedd polisi nad yw bellach yn San Steffan-ganolog, yn gywir ac yn ddiduedd.

Roedd dadansoddiad y tîm ymchwil o 5,732 o eitemau newyddion yn herio’r rhagdybiaeth bod cywirdeb y ddarpariaeth ddatganoledig yn parhau i wella, a chanfu fod cywirdeb mewn rhai meysydd wedi gostwng ers eu hadolygiad diwethaf yn 2010.

Meddai’r Athro Cushion, “Mae’r BBC wedi dod yn bell iawn o ran sut mae’n cynrychioli’r gwledydd. Yn ddiweddar iawn, darlledwyd Newyddion 10 o’r gloch, yn fyw, o bob un o’r gwledydd dros gyfnod o fis. Mae hyn yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethu’r cynulleidfaoedd hynny. Ond yn ystod gweithrediadau o ddydd i ddydd, pan fyddant yn gweithio i gael stori’n barod i’w darlledu, efallai bod achosion lle gellid bod yn fwy eglur o ran perthnasedd straeon, yn ddatganoledig felly.”

Hefyd, fe adolygodd yr ymchwilwyr ddefnydd y BBC o ystadegau. Bu trafodaeth eang ar draws cyfryngau newyddion o ganlyniad i astudiaeth yr ymchwilwyr, a darparodd yr astudiaeth hefyd wybodaeth ar gyfer adroddiad Ymddiriedolaeth Y BBC, ‘Making Sense of Statistics’, yn 2016.

Arweiniodd yr adroddiad hwn – sy’n cyfeirio at, ac yn dyfynnu o, ymchwil y Brifysgol 42 o weithiau – at ganllawiau golygyddol newydd.

Wrth ddisgrifio dylanwad y BBC yn nhirwedd y cyfryngau, dywed yr Athro Cushion, "Er gwaethaf y newidiadau enfawr yn y ffordd rydym yn defnyddio newyddion a’r dewis sydd ar gael i bobl, mae’r BBC yn dal i fod â chynulleidfa fawr.

“Mae’n cael ei ystyried fel y darparwr newyddion mwyaf dibynadwy a chywir a diduedd ledled y byd; conglfaen darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Mae ganddo ddylanwad ar sefydliadau cyfryngau sydd ar y gweill ac fe’i hystyrir yn ffynhonnell sy’n gallu gwrthsefyll llawer o wybodaeth anghywir.

“Wrth gwrs, o ystyried cyllid cyhoeddus a dylanwad eang y BBC, mae’n aml yn agored i feirniadaeth a chraffu. Ond os cânt eu dal yn atebol drwy ymchwil gadarn, mae’n caniatáu i olygyddion y BBC fyfyrio’n fwy gwrthrychol ar ddilysrwydd beirniadaeth gyhoeddus, ac ystyried a ellir gwneud gwelliannau.”

bbc
BBC New Broadcasting House

Meithrin perthnasau

Daeth yr Athro Cushion i Gaerdydd yn 2001 i wneud ei Radd Meistr a dewisodd yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant oherwydd ei “henw da, nid yn unig am gynhyrchu ymchwil o ansawdd uchel ond hefyd am fod llawer o’r ymchwil a gynhyrchwyd wedi helpu o ran rhoi gwybodaeth i gyfryngau a newyddiaduraeth gydag argymhellion ymarferol ynghylch gwella dealltwriaeth y cyhoedd o’r byd.”

Ychwanega: “Ceir wastad rywfaint o deimlad o amheuaeth pan fydda i’n cwrdd â newyddiadurwyr i ddechrau. Mae’n cymryd amser i feithrin ymddiriedaeth.

“Maen nhw’n ceisio gwneud synnwyr o’r newyddion o ddydd i ddydd, gan wneud penderfyniadau am y stori nesaf.

Nid yw amser yn caniatáu, bob tro, iddynt edrych ar bethau dros gyfnod hirach. Rwy’n gallu rhoi trosolwg iddynt o’r cyfan, ac edrych ar y darlun mwy. Gyda’r math hwnnw o bersbectif, rydych chi’n gallu gweld patrymau’n dod i’r amlwg.

“Dros amser, a thrwy gadw’r ddeialog honno’n agored ac yn barhaus, rydym yn ceisio ymgysylltu’n adeiladol â golygyddion drwy gyflwyno canfyddiadau ein hymchwil.”

Ychwanega, “Mae’n cymryd blynyddoedd i feithrin y perthnasoedd hynny. Mae’n gofyn sgwrsio â phobl ‘off the record’, gwrando er mwyn deall beth sydd ei angen arnyn nhw, a chynhyrchu cynnwys sy’n eu helpu nhw yn eu rolau.”

Mae gwaith Prifysgol Caerdydd o ran cefnogi newyddiadurwyr trwy’r cyfnod cwbl anarferol hwn yn parhau, ac mae’n waith sy’n digwydd ar garlam. “Mae’n gyfnod heriol dros ben i newyddiadurwyr,” meddai. “Yr her i academyddion y cyfryngau yw parhau i ymgysylltu â golygyddion a newyddiadurwyr, gan ddarparu ymchwil gadarn sy’n bwydo i mewn i’w gwaith ac yn eu cefnogi.”

Beth fydd yn dod nesaf?

Mae’r Athro Cushion yn parhau i ymgysylltu ag uwch-olygyddion a rheoleiddwyr y cyfryngau ynghylch ei ymchwil ddiweddaraf, gan gynnwys darllediadau rhwydwaith o faterion datganoledig yn ystod y pandemig, ac yn fwy cyffredinol sut y gall newyddiadurwyr fynd i’r afael yn effeithiol â chamwybodaeth a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o wleidyddiaeth a materion cyhoeddus.

alt text
Enillodd ein tîm ymchwil y Wobr Effaith Ranbarthol ar gyfer 2013 am newid y ffordd y mae’r BBC yn adrodd am faterion gwleidyddol ers datganoli.

Adlewyrchu datganoli: Beth sydd wedi newid?

  • Mae newyddiadurwyr BBC UK yn tynnu sylw at y straeon datganoledig gan eu cyfeirio at dimau rhanbarthol, a gofynnir i wledydd y BBC dynnu sylw Golygydd Newyddion y DU at unrhyw fethiannau.
  • Cyflwyno ‘belt newyddion y Gwledydd’ parhaol ar y Newyddion am 6
  • Mae Penaethiaid Newyddion yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon nawr yn rhan o gynhadledd newyddion 9am y BBC, a hynny drwy gynhadledd fideo.

Tystebau

“Mae dadansoddiadau ar gynnwys ac astudiaethau achos ansoddol yr Athro Cushion – mae’r rhain ar raddfa eang, wedi helpu i ddangos cryfderau a gwendidau rhaglennu newyddion mewn nifer o feysydd, ac ar draws nifer o sefydliadau newyddion. Yn ITV News, mae’r ymchwil wedi bod yn ddefnyddiol, yn ymarferol felly.

“Mae gwaith yr Athro Cushion ar adrodd am wleidyddiaeth a pholisi mewn DU ddatganoledig wedi bod o ddiddordeb arbennig. Mae ei waith cyhoeddedig a sgyrsiau preifat gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau wedi cael effaith gadarnhaol ar sut mae ITV News yn mynd i’r afael â’r heriau o ran adrodd yn gywir am lunio polisïau datganoledig i gynulleidfaoedd ledled y DU. Mae’r Athro Cushion yn academydd o fri, ond mae hefyd yn ddylanwadwr effeithiol iawn. Mae wedi dangos y gallu i fod yn feirniadol o benderfyniadau sefydliad newyddion mewn modd sy’n arwain at ymgysylltu adeiladol yn hytrach nag amddiffynnol.

“Mae dadansoddiad ystadegol y tu ôl i’w waith bob amser, ac mae bob amser yn effeithiol wrth berswadio uwch-wneuthurwyr-penderfyniadau’r cyfryngau newyddion i ystyried ei dystiolaeth a’i gasgliadau. Dros nifer o flynyddoedd, mae ei waith wedi cael effaith ymarferol yn y byd go iawn o ran gwella’r dull a’r broses o wneud penderfyniadau mewn ystafelloedd newyddion.” Michael Jermey, Cyfarwyddwr Newyddion a Materion Cyfoes ITV

“Mae Adolygiad Ymddiriedolaeth y BBC o Ddidueddrwydd o ran y Gwledydd a’r dadansoddi cynnwys dilynol, wedi bod yn amhrisiadwy wrth olrhain ac asesu perfformiad y BBC dros yr wyth mlynedd diwethaf.” Ymddiriedolaeth y BBC, 2016

“Roedd yr ymchwil ddilynol a ddarparodd Stephen Cushion i ni yn amhrisiadwy. Ceir ôl-drafodaeth yn ddyddiol, yn dilyn rhaglenni, felly mae llwyddiannau a methiannau unigol yn cael eu nodi, ond roedd cael trosolwg yn helpu i bawb ddeall pan nad oedden ni’n cael pethau’n iawn, ac yn ein helpu hefyd i ddeall pam. Roedd ei drosolwg o’n hallbwn, yn ei hanfod, yn llwybr byr at ffocysu ar beth yn union yr oedd angen i ni ei wneud i fod yn well.” Cait Fitzsimons, Golygydd 5 News

Gwella’r gohebu ynghylch ystadegau

  • Mae’r tîm ‘Reality Check’, sy’n holi ac yn darparu cyd-destun ar ffigurau sy’n cael eu hadrodd gan y cyfryngau, wedi dod yn endid parhaol sy’n rhedeg drwy holl raglennu Newyddion y BBC.
  • Roedd canllawiau golygyddol y BBC yn 2019 yn cynnwys adran newydd o’r enw ‘Adrodd Ystadegau’ wedi’u llywio gan ganfyddiadau Prifysgol Caerdydd, ac yn cynnig cyngor adeiladol ar ymdrin ag ystadegau.
  • Mae newyddiadurwyr a chyflwynwyr wedi cael eu briffio ar yr ymchwil, gan eu gwneud yn fwy hyderus i gwestiynu ystadegau ac yn fwy ymwybodol o’r angen i ddarparu cyd-destun pwysig.

Pobl

Yr Athro Stephen Cushion

Yr Athro Stephen Cushion

Reader

Email
cushionsa@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 208 74570
Yr Athro Justin Lewis

Yr Athro Justin Lewis

Professor of Communication

Email
lewisj2@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 208 76341

Cyhoeddiadau

Partneriaid